Menter Gymdeithasol ar gyfer Cymru Gynaliadwy
16 Chwef 2010Ddim yn hollol siŵr beth mae 'datblygu cynaliadwy' yn ei olygu go iawn, ac a yw'n bwysig i chi a'ch menter gymdeithasol?
Yn y tywyllwch am ddyheadau'r Llywodraeth ar gyfer cyflawni Cymru gynaliadwy, a’r cyfrifoldebau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y rhain ar gyfer mentrau cymdeithasol?
Os felly, dyma'r digwyddiad i chi.
Diwrnod i...
- ddysgu am swyddogaeth bwysig mentrau cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo datblygu cynaliadwy yng Nghymru
- cael eich ysbrydoli gan enghreifftiau gwych o ymarfer da, a dysgu sut mae rhedeg eich menter mewn ffordd fwy cynaliadwy
- dysgu am y cyfleoedd i fentrau cymdeithasol yn sgil polisi cenedlaethol ar ddatblygu cynaliadwy
- cymryd rhan mewn gweithdai ar sut mae monitro cynnydd, cyfleoedd cyllido a chyngor ar gyfathrebu
- rhwydweithio, rhannu profiadau a dysgu lle i droi am gefnogaeth a chyngor
Mae'r siaradwyr gwadd yn cynnwys...
- Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson AC
- Enillwyr Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru 2009 - Canolfan y Dechnoleg Amgen
- Helen Nelson, Cyfarwyddwr Gweithredol - Cynnal Cymru
- Simon Harris, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru
Dyddiad: Dydd Mercher 28 Ebrill 2010
Amser: 10.00am - 4.00pm
Lleoliad: Canolfan Gorseinon, Gorseinon, Abertawe
http://www.gdt.org.uk/canolfannew.html
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, felly peidiwch â'i golli! I gadw lle, cysylltwch â: helen.joseph@cynnalcymru.com / 02920 19 20 21
Pwy ddylai fynychu?
- Staff a gwirfoddolwyr mentrau cymdeithasol
- Unigolion sy'n meddwl am sefydlu mentrau cymdeithasol
- Asiantaethau cefnogi mentrau cymdeithasol

