Byd o natur cyflwynydd teledu o Gymru
28 Gorff 2010Mae'r seren deledu, Iolo Williams, yn annog mwy o grwpiau o Gymru i ymgeisio i raglen ariannu £2 filiwn sydd â'r nod o annog mwy o bobl i fwynhau a diogelu bywyd gwyllt yn eu hardal leol.
Mae Iolo, sy'n adnabyddus fel cyflwynydd rhaglenni natur ar BBC Wales a S4C, yn annog cymunedau ledled Cymru i ddarganfod y bywyd gwyllt ar eu carreg drws drwy ymgeisio am arian gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae hyd at £2 filiwn o arian achosion da ar gael i wella'r amgylchedd drwy ddiogelu a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt i bawb eu mwynhau.
Mae rhaglen ariannu Byd o Natur y Gronfa Loteri Fawr yn cynnig grantiau rhwng £300 a £10,000 i brosiectau sy'n dod â chymunedau ynghyd i wella neu ddiogelu'r amgylchedd naturiol drwy gynyddu ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt neu fannau gwyllt dan fygythiad.
Meddai'r cyflwynydd teledu o Gymru, y mae ei raglenni'n cynnwys Tir Cymru, "Gall yr arian hwn ddylanwadu'n wirioneddol ar wella amgylcheddau gwledig a threfol lleol ledled Cymru drwy ddiogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt dan fygythiad. Ymgeisiwch heddiw, ac anogwch eich cymuned leol i gymryd rhan er mwyn helpu diogelu ein bywyd gwyllt ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
O wylio adar, ystlumod neu foch daear i greu llwybrau natur, teithiau cerdded coetiroedd a gerddi bywyd gwyllt, bydd Byd o Natur yn dyfarnu grantiau i sefydliadau sector gwirfoddol neu gymunedol, cynghorau tref a phlwyf, ysgolion a chyrff iechyd sy'n ymrwymedig i ddod â phobl ynghyd i ddysgu am natur.
Gallai prosiectau sy'n annog pobl i fod yn fwy actif ac yn fwy iach drwy fforio parciau, afonydd a'r cefn gwlad wrth chwilio am rywogaethau prin neu dan fygythiad, neu sy'n annog pobl i arddio neu fynd ar deithiau cerdded natur, a'r rhai sy'n annog plant i ddysgu am natur drwy chwarae, i gyd fod ar eu hennill.
Meddai Syr Clive Booth, Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr, "Mae Byd o Natur yn ymwneud â chefnogi prosiectau sy'n annog pobl o bob oedran a chefndir i gydweithio i wella a diogelu eu bywyd gwyllt lleol."
Yn cael ei datgan yn Mlwyddyn Bioamrywiaeth Ryngwladol gan y CU, 2010 yw'r amser i gymunedau ym mhobman ystyried eu hamgylchedd naturiol. Dengys adroddiad Lost Life* gan Natural England fod Lloegr wedi colli 492 o rywogaethau ers 1800, gan gynnwys 24 y cant o ieir bach yr haf a 22 y cant o amffibiaid, gan amlygu'r ffaith bod angen i bawb ofalu am fywyd gwyllt.
Gellir lawrlwytho ffurflenni ymgeisio yn http://www.biglotteryfund.org.uk/communitywildlife
Fel arall gallwch ffonio 0845 367 0610, ffôn testun 0845 602 1659. Mae dau derfyn amser o hyd ar gyfer ceisiadau: 22 Medi a 24 Tachwedd 2010.

