Oes gennych chi hanner awr yn rhydd i helpu i leihau’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud cais am waith sector cyhoeddus?
28 Gorff 2010Mae Gwerth Cymru, sy’n rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sector cyhoeddus ar hyd a lled Cymru er mwyn lleihau’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar fynediad at gyfleoedd caffael sector cyhoeddus, yn enwedig i Fusnesau Bach a Chanolig.
Ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar ddatblygu Cronfa Ddata newydd yn cynnwys gwybodaeth am gymhwysiad cyflenwyr (Supplier Qualification Information Database – SQuID), a fydd i’w gweld ar y wefan Gwerthwch i Gymru a fydd yn cael ei hail-lansio yn 2011. Y bwriad yw sicrhau bod pob un o’r cwestiynau craidd cyffredin sy’n cael eu gofyn yng nghamau cynnar y prosesau caffael (y cam dewis) yn cael eu storio ar y system, ac y byddwch chi’n gallu storio’ch atebion yno hefyd.
Mae’r cwestiynau sydd yn y Gronfa Ddata wedi cael eu cytuno yn dilyn ymgynghoriad eang â phrynwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus ac â chyflenwyr. Y gobaith yw y bydd prynwyr yn defnyddio’r gronfa ddata a’r canllawiau cysylltiedig i lunio holiaduron cyn-gymhwysiad priodol a chymesur – a bydd modd i chi ymateb ar y system a storio eich atebion er mwyn eu hailddefnyddio. Bydd hyn yn arbed arian ac amser i chi.
Er mwyn i’r gwaith hwn fod yn llwyddiannus mae angen i Gwerth Cymru allu mesur y manteision, ac er mwyn gwneud hynny mae arno angen rhyw syniad faint yw’r costau sylfaenol rydych yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Lluniwyd y daenlen Excel isod er mwyn cofnodi’r costau y mae eich sefydliad chi’n eu hwynebu wrth gyn-gymhwyso i wneud cais am waith sector cyhoeddus. Mae’r tab cyntaf yn cynnwys cyfarwyddiadau sy’n nodi sut i lenwi’r ddau dab canlynol â gwybodaeth am eich staff a’r prosesau sy’n cael eu dilyn. Mae’r tab olaf yn cynnwys ychydig o gwestiynau ansoddol eraill.
Gallwch lwytho’r daenlen i lawr yma: Cyfrifydd Cost Ymateb i Holiadur Cyn-gymhwysiad
(Yn anffodus nid yw'r daenlen ar gael yn y Gymraeg.)
Dim ond Gwerth Cymru fydd yn defnyddio eich atebion, a hynny i ddibenion cyfrifo. Ni fydd yn eu trosglwyddo i unrhyw drydydd parti. Anfonwch eich ymatebion at Gerrard O’Neill ar 01685 729043 / gerrard.oneill@wales.gsi.gov.uk. Cysylltwch â Gerrard os hoffech gael mwy o wybodaeth ynglŷn â llenwi’r ffurflen, neu ynglŷn â phrosiect y Gronfa Ddata yn gyffredinol.

