Croeso
Croeso i wefan Cyllid Cynaliadwy Cymru – cartref Porth Cyllid Cymru – siop un stop am gyfleoedd a chyngor ar gyllid.
Mae’r porth cyllid yn agor y drws i gronfa ddata y gellir ei chwilio am gyfleoedd cyllid yn y DU, cyngor a chymorth ar godi arian a tipiau ar sut i amrywio eich ffynonellau o gyllid.
Mae’r wefan yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol i fudiadau sy’n dymuno datblygu ymagwedd entrepreneuraidd i gyllid er mwyn cyflawni cynaliadwyedd ariannol hir dymor.
Mae’n cynnig arweiniad ar yr amrywiol ffynonellau cyllid sydd ar gael i’r trydydd sector yng Nghymru a’r ymagweddau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn adnabod, mabwysiadu, a rheoli y ffynonellau hyn.
Mae hefyd yn cynnig manylion ar hyfforddiant a digwyddiadau perthnasol, astudiaethau achos o fudiadau sydd eisoes yn gweithio tuag at gynaliadwyedd, ffynonellau cymorth pellach, ac hefyd cyfle i gofrestru i dderbyn Newyddion Nawdd, ein cylchythyr electronig misol sydd yn rhad ac am ddim.
I gael gwybod mwy am Gyllid Cynaliadwy Cymru, cysylltwch â ni.


