Caffael a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus

Mae caffael a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn broses esblygol o fewn y Trydydd Sector. Mae cyflwyno gwasanaethau o dan gontract yn un opsiwn y gallai mudiadau gwirfoddol a chymunedol ei ystyried er mwyn ennill incwm.

Yn gynyddol, mae gan fudiadau Trydydd Sector y potensial i ddod yn rhanddeiliaid allweddol wth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus. Y gwahaniaeth allweddol gyda chontractio yw’r angen i ymgysylltu â ‘phroses gaffael’ ffurfiol.

Bwriad yr adran hon yw cynnig trosolwg cryno o gaffael o fewn y sector cyhoeddus a materion y dylai sefydliadau’r Trydydd Sector eu hystyried cyn penderfynu contractio.

Drwy’r adran gyfan mae adnoddau defnyddiol ar gael – astudiaethau achos, dolenni gwe i ffynonellau gwybodaeth eraill a chanllawiau amrywiol i’w lawrlwytho.