Beth yw caffael sector cyhoeddus?
Diffinnir caffael sector cyhoeddus fel prynu nwyddau neu wasanaethau gan drydydd parti a gyflwynir o dan delerau contract neu gytundeb lefel gwasanaeth (CLG).
I fod yn gyfreithiol rwym, rhaid i’r holl amodau sydd eu hangen er mwyn ffurfio contract gael eu cwrdd.
Yr enw a roddir ar y broses o ymgeisio am a chyd-drafod contract o’r fath yw tendro.
Gall y trydydd parti fod o’r sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. Fodd bynnag, mae mwyafrif y fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn tueddu i gyflwyno contractau i’r sector cyhoeddus, er enghraifft awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth iechyd.
Mae caffael hefyd yn ymwneud â phrosesau a systemau ar gyfer rheoli meddiannu nwyddau neu wasanaethau o’r cychwyn i’r diwedd.
Nid oes ymagwedd safonol i gaffael sector cyhoeddus.
Gellir larlwytho proses gaffael nodweddiadol yma
Mae’r farchnad caffael cyhoeddus yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer mudiadau gwirfoddol a chymunedol. Gallai gwasanaethau a gyflwynir o dan gontract gynnwys:
- Cynlluniau cludiant cymunedol (yn mynd â’r henoed i apwyntiadau ysbyty)
- Gofalu am yr henoed (gofal ysbeidiol neu ofal dydd)
- Triniaeth iechyd neu therapïau (weithiau dulliau amgen fel aciwbigo)
- Pryd ar glud (darparu a dosbarthu prydau i’r rhai sy’n gaeth i’w cartrefi)
- Cynlluniau ailgylchu

