Gyrwyr allweddol y sector cyhoeddus
Gallai deall yr hyn sy’n gyrru’r sector cyhoeddus gynorthwyo mudiadau gwirfoddol a chymunedol i lwyddo wrth gontractio.
Gwerth am arian – nid yw hyn bob amser yn golygu y pris isaf. Yn aml mae mudiadau sy’n gallu dangos gwerth ychwanegol am bris uwch yn cael eu ffafrio. Er enghraifft, gallant ddangos arbedion cost mewn mannau eraill neu’n gallu creu gwelliannau fel cyfle cyfartal neu ganolbwyntio ar fanteision cymunedol.
Effeithlonrwydd – mae’r sector cyhoeddus o dan bwysau yn barhaus i gyflwyno arbedion effeithlonrwydd. Gallai hyn olygu lleihau costau neu ganfod ffyrdd mwy arloesol o gyflwyno gwasanaethau. Mae llawer o sefydliadau sector cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth i brynu gwasanaethau i rannu’r baich gweinyddol.
Cynaliadwyedd – rhaid i fudiadau sector cyhoeddus fod yn hyderus ynghylch gallu mudiad i ddatblygu adnoddau a chyflwyno’r gwasanaeth dros gyfnod y contract. Rhaid i fudiadau gwirfoddol a chymunedol ddangos sut y gallent newid ac addasu gwasanaethau i gwrdd â gofynion, anghenion a gofynion deddfwriaethol newidiol.
Manteision cymunedol – mae’r sector cyhoeddus yn ymwneud fwyfwy â’r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n deillio o ddarparu eu gwasanaethau. Mae’r Trydydd Sector mewn sefyllfa dda i gynorthwyo’r sector cyhoeddus wrth gwrdd â’u targedau mewn perthynas â gwella ansawdd bywyd i bawb.

