A oes marchnad ar gyfer eich nwyddau a'ch gwasanaethau?

Gellir ymchwilio i bum posibilrwydd:

Ymuno â marchnadoedd caffael sy’n bodoli eisoes – byddwch yn cystadlu’n bennaf â’r sector preifat i ddarparu nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu prynu’n allanol ar hyn o bryd.

Allanoli neu ail-ddarparu gwasanaethau cyhoeddus presennol - byddwch yn cystadlu ag ystod fawr o gyflenwyr yn cynnwys y sectorau preifat a chyhoeddus neu fentrau cymdeithasol i gyflenwi nwyddau neu wasanaethau sy’n cael eu cyflwyno gan y sector cyhoeddus ar hyn o bryd.

Cyfleoedd newydd – efallai y gallech nodi angen am wasanaeth newydd er mwyn cwrdd â phroblem neu angen cymdeithasol sy’n bodoli. Fel arall, gall mentrau adfywio greu cyfleoedd caffael newydd ac mae'n bosib y gall cymunedau lleol lunio datblygiad y cyfleoedd hyn.

Partneriaethau – gallech ymwneud â gwaith cydweithredol i gyflenwi gwasanaeth i’r sector cyhoeddus. Yn aml mae’r partneriaethau cyflwyno hyn yn ceisio cronni arbenigedd neu adnoddau i gwrdd ag angen cymdeithasol nad oes gan sefydliad unigol y sgiliau na’r profiad i’w ddiwallu.

Grant i gontractio – mae tuedd gynyddol i’r sector cyhoeddus symud i ffwrdd oddi wrth gyllid grant tuag at gontract masnachol.