Sut i ddod i hyd i gontractau

Mae dod o hyd i gontractau sydd ar gael a chael eich gwahodd i dendro yn golygu cyfuniad o ymchwil a rhwydweithio.

Gellir hysbysebu cyfleoedd ar gyfer contractio gyda’r sector cyhoeddus mewn amrywiaeth eang o leoedd:

  • Hysbysebion mewn papurau newydd lleol, rhanbarthol neu genedlaethol a chyfnodolion masnach.
  • Mae Prynwch i Gymru yn caniatáu i fudiadau sector cyhoeddus Cymreig hysbysebu contractau a chyfleoedd i dendro www.prynwchiGymru.co.uk
  • Mae Gwerthwch i Gymru yn caniatáu i fudiadau gofrestru a derbyn hysbysiadau am gyfleoedd contractio llai (fel arfer yn llai na £100,000) www.gwerthwchiGymru.co.uk
  • Mae Contract Shop yn ceisio annog a chreu rhyng-fasnachu effeithiol rhwng busnesau lleol. Mae’n darparu cymorth ymarferol i fentrau bach a chanolig eu maint (SMEs) wrth ennill contractau sector preifat a chyhoeddus www.contractshop.co.uk
  • Mae awdurdodau lleol bellach yn tueddu i hysbysebu eu cyfleoedd contractio ar eu gwefannau eu hunain. Mae gan yr Asiantaeth Gwella a Datblygu ar gyfer Llywodraeth Leol (IDeA) ddolenni i holl wefannau awdurdodau lleol Cymru a Lloegr www.idea-knowledge.gov.uk/idk/org/la-data.do
  • Mae awdurdodau lleol hefyd yn trefnu digwyddiadau ‘Cwrdd â’r Prynwr’ cyson sy’n ceisio dod â phrynwyr a chyflenwyr ynghyd.
  • Contractau sector cyhoeddus - nodwch unigolyn perthnasol sy’n ymwneud â chaffael a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd contractio.
  • Mae Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) yn cyhoeddi’r holl gontractau sector cyhoeddus dros drothwy UE penodedig www.ted.eur-op.eu.int
  • Mae Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC) – ‘OGCBuying.solutions’ – yn darparu manylion nwyddau a gwasanaethau sydd eisoes wedi’u cyn-dendro www.ogcbuyingsolutions.gov.uk

Gwneud y cysylltiad
Er mwyn cael y cyfle i ennill contractau mae’n rhaid i chi ffurfio cysylltiadau a rhwydweithio. Mae angen i chi estyn allan at eich darpar brynwyr - yr awdurdodau lleol, y cyrff iechyd a chyrff sector cyhoeddus eraill. Mae angen hefyd i chi allu ffurfio partneriaethau agos â mudiadau gwirfoddol a chymunedol eraill, er mwyn i chi allu gweithio gyda hwy mewn consortia ar gyfer contractau gwerth-uchel. Efallai bydd mudiadau llai yn dymuno meddwl am is-gontractio gyda mudiadau mwy er mwyn iddynt allu ysgwyddo’r agweddau hynny o ddarparu gwasanaeth y maent yn arbenigwyr ynddynt, heb orymestyn eu hunain.