Dosbarth meistr Tendro *NEWYDD*
Rhowch hwb i’ch siawns o ennill contractau newydd i ddarparu gwasanaethau drwy sicrhau’ch lle yn nosbarthiadau meistr tendro WCVA.
Mae WCVA, mewn partneriaeth â DHRinterim, yn cynnal cyfres beilot o ddosbarthiadau meistr ledled Cymru. Bydd y gweithdai "skill-builder" ½ diwrnod dwys hyn yn canolbwyntio ar wella sgiliau ymarferol a gwybodaeth mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru, sy’n gweithio mewn meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, neu gweithgarwch economaidd / bod heb waith.
Mae’r gweithdai wedi’u hanelu at yr unigolion a’r mudiadau hynny sydd eisoes yn gyfarwydd â thendro, y rhai hynny sydd wedi ymgymryd â lefel o weithgarwch tendro ac sydd wedi gweld angen i gynyddu eu sgiliau a’u gallu.
- Llunio ac Ysgrifennu Tendrau Cystadleuol – 20 Ebrill 2010, Y Rhyl
- Llunio ac Ysgrifennu Tendrau Cystadleuol – 21 Ebrill 2010, Caerfyrddin
- Cyflwyniadau Tendro Cystadleuol – 5 Mai 2010, Caerfyrddin
- Cyflwyniadau Tendro Cystadleuol – 6 Mai 2010, Y Rhyl
Bydd y gweithdy ‘Llunio ac Ysgrifennu Tendrau Cystadleuol’ yn edrych ar becynnau cymorth a thechnegau i wella’ch siawns o lwyddo gyda’ch tendr. Bydd y pynciau’n cynnwys:
- Llunio ymatebion i dendrau i sicrhau eu bod yn cael cymaint o effaith a’u bod mor ddarllenadwy â phosibl
- Gweithio’n llwyddiannus â meini prawf gwerthuso
- Tystiolaeth i ategu’ch datganiadau’n fwy effeithiol
- Gweithio â chyfyngiadau geiriau
Bydd y gweithdy ar ‘Gyflwyniadau Tendro Cystadleuol’ yn edrych sut ddylid cyflwyno bid effeithiol a chael profiad uniongyrchol o fynd ati i ‘werthu’ eich tendr drwy roi bywyd iddo. Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Pwy i’w cynnwys yn nhîm eich cyflwyniad, a pham
- Defnyddio PowerPoint neu beidio?
- Cael effaith fydd yn gwerthu’ch mudiad, (a’ch tîm)
- Rhoi bywyd i’ch bid
Gan fod prosiect Cyllid Cynaliadwy Cymru WCVA yn derbyn cymorth gan y Gronfa Loteri Fawr, gallwn gynnig y gweithdai hyn am bris gostyngol o £25 y pen i fudiadau gwirfoddol a chymunedol sy’n gweithio yng Nghymru. Cyfyngir y llefydd sydd ar gael i ddau gynrychiolydd o bob mudiad.
Rydym yn disgwyl y bydd galw am lefydd yn uchel, felly i gofrestru eich ddiddordeb darllenwch y canllawiau cyn-archebu isod, a cwblhewch a dychwelwch y ffurflen archebu.
Lawrlwythwch y canllawiau cyn-archebu
Lawrlwythwch y ffurflen archebu
Am wybodeath bellach, cysylltwch â Sara Carroll neu Gareth Coles ar 0800 2888 329 neu help@wcva.org.uk

