Cyllid benthyciad

Mae argaeledd a hygyrchedd cyllid benthyciad i’r trydydd sector wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw benthyciadau’n briodol i bawb ac ni ddylid eu hystyried oni bai eu bod o fudd i’ch mudiad a bod strwythurau a systemau priodol ar waith i ad-dalu’r benthyciad.

Bydd y cwrs hwn yn cynorthwyo mudiadau i gael gwell dealltwriaeth o gyllid benthyciad yn ogystal â’r buddiannau posibl i’w mudiad.

Mae wedi’i gynllunio ar gyfer rhai sydd â chyfrifoldeb am gyfeiriad strategol a chodi arian ac mae’n addas ar gyfer codwyr arian profiadol sy’n dymuno gwybod sut y gall cyllid benthyciad gynorthwyo’u mudiad i fod yn gynaliadwy’n ariannol.

Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • Deall manteision ac anfanteision cyllid benthyciad;
  • Penderfynu a yw cyllid benthyciad yn opsiwn i chi;
  • Edrych ar ffynonellau masnachol ac eraill i sicrhau cyllid benthyciad;
  • Gwybod lle i fynd i gael gwybodaeth bellach, cymorth a chyngor.