Masnachu
Mae masnachu, neu werthu nwyddau neu wasanaethau, yn un ffordd o ddatblygu sylfaen incwm gynaliadwy.
Bydd y cwrs hwn yn gyfle i weld sut y gellir datblygu cyfleoedd masnachu. Bydd yn canolbwyntio ar y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen i ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd yn ogystal ag ystyriaethau ymarferol sefydlu cynllun masnachu.
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer y sawl sydd â chyfrifoldeb am gyfeiriad strategol ac mae’n addas ar gyfer codwyr arian profiadol sy’n dymuno gwybod sut y gall masnachu gynorthwyo mudiadau i fod yn gynaliadwy’n ariannol.
Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr yn gallu:
- Asesu eu potensial i fasnachu mewn nwyddau neu wasanaethau
- Deall y prosesau sydd ynghlwm wrth ddatblygu syniad ar gyfer masnachu
- Datblygu mantais gystadleuol
- Gwybod lle i fynd i gael gwybodaeth bellach, cymorth a chyngor.

