Tendrau cyllid Ewropeaidd

Tendr Caffael y Prosiect Sgiliau Bywyd

Digwyddiadau Briffio – Pobl Hŷn

Yn dilyn cymeradwyaeth gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ym mis Ebrill 2009, mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi ymrwymo £9.5m i brosiectau Sgiliau Bywyd ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal, gofalwyr/cyn-ofalwyr a theuluoedd sy’n anweithgar yn economaidd. Y prosiect Sgiliau Bywyd yw’r tro cyntaf i arian y Gronfa Loteri Fawr gael ei ddarparu ar y cyd gydag arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) o’r ffynhonnell.

Rydym bellach mewn sefyllfa i gynnig ariannu pellach i gefnogi Pobl Hŷn er mwyn eu helpu i ddychwelyd i addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyflogaeth.

Rydym yn cynnal dau ddigwyddiad briffio ym mis Medi i alluogi pobl i gael gwell dealltwriaeth o’r rowndiau caffael pellach o ariannu, ac am sut i ymgeisio o dan y prosiect Sgiliau Bywyd.

Ynghlwm mae gwahoddiad i’n digwyddiadau briffio ynghyd â ffurflen ymateb.

Datblygu a darparu Adnoddau Dysgu seiliedig ar Goginio Cymreig

Dyddiad cau: 27 Awst 2010

1) Yr hyn rydym yn chwilio amdano:

  • Sefydliad a fydd yn datblygu rhaglen ddysgu i hyfforddi cogyddion i ddatblygu a darparu bwydlen seiliedig ar goginio traddodiadol Cymreig a chynhwysion lleol. Bydd y rhaglen ddysgu yn cynnwys deunydd rhyngweithiol (fel DVDau) a fydd yn gymorth i’r cogyddion ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen.

2) Cefndir

  • Mae prinder cogyddion medrus sy’n gweithio yng Nghymru. Nid oes digon o gogyddion newydd yn dod i’r diwydiant i wynebu’r her sgiliau. Mae angen i ni ddod o hyd i ddulliau i hybu ac/neu ehangu sgiliau cogyddion mewn gwaith ac mewn colegau
  • Mae Cynulliad Cymru yn rhoi pwysigrwydd cynyddol ar westai, tai bwyta, tafarnau ac ati, yn cynnwys seigiau traddodiadol Cymreig are u bwydlenni. Gyda hyn oll mae ymgyrch i hybu’r ymwybyddiaeth o gynhwysion a geir yng Nghymru.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Hyfforddiant Gwasanaeth Cwsmer

Dyddiad cau: 30 Awst 2010

1) Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:

  • Hyfforddwyr Rhagorol i gyflwyno rhaglen gwasanaeth cwsmer newydd yng Nghymru

2) Cefndir

  • Mae Pobl yn 1af yn cyflwyno rhaglen gwasanaeth cwsmer i helpu gweithwyr yn y sector lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth i ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmer ac ‘ymdeimlad o le’ rhagorol.
  • Mae’r rhaglen yn seiliedig ar y rhaglen World Host a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus i ddarparu hyfforddiant gwasanaeth cwsmer/ymdeimlad o le yn ddiweddar yn Chwaraeon Olympaidd y Gaeaf yn Vancouver. Mae’n arbennig o ryngweithiol, mae’n defnyddio adnoddau dysgu cyfoes ac mae’n symud ymlaen yn ddigon cyflym i gadw ac ysgogi’r dysgwr. Mae eisiau un diwrnod i’w chyflwyno.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Contract Both Cyrraedd yr Uchelfannau ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-Bont ar Ogwr

Dyddiad cau: 06 Medi 2010

Gwahoddir tendrau gan gyrff sydd â’r cymwysterau a’r profiad addas ac yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer eu apwyntio i’r rôl o ‘Both’ i ddarparu rhaglenni addysgol cymeradwy allgymorth i ysgolion a gyflenwir gan Techniquest yn ardal Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-Bont ar Ogwr. Gwelir y ddogfen "Invitation to Tender (ITT)" am fanylion ar argymell tendrau.

Bydd y tendrwr llwyddiannus yn derbyn y contract Cyrraedd Y Nod i ddarparu rhaglenni Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i bobl ifanc yn ardal y ‘Both’ nes Ionawr 2013. Gan bod Cyrraedd Y Nod yn gynllun sydd yn derbyn cyllid gan y CGE dylai Tendrwyr nodi y bydd angen i’r Tendrwr dewisol dderbyn cydymffurfiad â thermau perthnasol arian grant y CGE i sicrhau y gall Techniquest gydymffurfio â’i rwymedigaethau yn y cyswllt yma.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Datblygliad a Darpariaeth Cystadleuaeth WorldSkills Cymru 2010-2011

Dyddiad cau: 10 Medi 2010

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i ariannu partneriaethau drwy ddatblygu a chyflwyno cystadlaethau sy'n seiliedig ar sgiliau fel rhan o gyfraniad Cymru i WorldSkills. Cystadleuaeth WorldSkills yw'r gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn y byd a chaiff ei chynnal bob dwy flynedd mewn un o'i haelod-wledydd. Yng Nghymru rydym wedi datblygu strategaeth i adeiladu'r seilwaith o gystadlaethau a ddarperir ar draws Cymru. Rydym yn chwilio am bartneriaethau sydd am ddatblygu a rhedeg cystadleuthau sgiliau galwedigaethol yng Nhgymru.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Y Farchnad Lafur Drosiannol

Dyddiad Cau: 25 Chwefror 2011

Mae WCVA yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb unwaith eto gan fudiadau a hoffai ddatblygu a chyflwyno cynigion i ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd o safon uchel i unigolion economaidd anweithgar a di-waith a fydd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i’r unigolion hynny. Bydd hyn yn digwydd drwy gyflwyno Holiadur Cyn-gymhwyso. Nid oes angen i fudiadau sydd eisioes ar y rhestr o gyflenwyr cymeradwy ardaloedd Cystadleurwydd (RCE) ail-wneud cais, oni bai eu bod yn gwneud cais ar gyfer ardaloedd neu grwpiau targed na chafwyd eu cymeradwyo yn y lle cyntaf.

Nod y prosiect MLD yw lleihau anweithgarwch economaid yn Nwyrain Cymru drwy fuddsoddi mewn mudiadau i ddarparu profiad gwaith a hyfforddiant i bobl sy’n wynebu rhwystrau shag cyflogaeth. Bydd yn contractio â mudiadau sy’n ymgysylltu â phobl economaidd anweithgar, sydd, yn aml, yn wynebu nifer o rwystrau; ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth drwy ddefnyddio ystod o weithgareddau sy’n magu eu hyder ac yn datblygu eu sgiliau i symud tuag at gyflogaeth gynaliadwy. Bydd y MLD yn annog mudiadau i lynu wrth egwyddorion model dilyniant gwaith, sy’n pwysleisio datblygiad unigolion i’w harfogi ar gyfer eu swyddi ar hyn o bryd, ond hefyd i roi’r sgiliau iddynt allu cystadlu mewn marchnad lafur sy’n newid yn barhaus. Bydd angen i’r holl gyflenwyr ddangos eu bod yn ymgysylltu â’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur, i roi sgiliau newydd a mwy o hyder i’r cyfranogwyr i’w galluogi i ddod yn weithgar yn economaidd, gan arwain hefyd at well cydlyniad cymdeithasol a datblygiad cynaliadwy yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Dwyrain Cymru.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Y Farchnad Lafur Drosiannol

Dyddiad cau: 29 Ebrill 2011 (Rhaglen dreigl)

Mae WCVA yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb unwaith eto gan fudiadau a hoffai ddatblygu a chyflwyno cynigion i ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd o safon uchel i unigolion economaidd anweithgar a di-waith a fydd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i’r unigolion hynny. Bydd hyn yn digwydd drwy gyflwyno Holiadur Cyn-gymhwyso. Nid oes angen i fudiadau sydd eisioes ar y rhestr o gyflenwyr cymeradwy Gogledd Cymru (Cydgyfeirio) ail-wneud cais, oni bai eu bod yn gwneud cais ar gyfer ardaloedd neu grwpiau targed na chafwyd eu cymeradwyo yn y lle cyntaf.

Nod y prosiect MLD yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Ngogledd Cymru drwy fuddsoddi mewn mudiadau i ddarparu profiad gwaith a hyfforddiant i bobl sy’n wynebu rhwystrau shag cyflogaeth. Bydd yn contractio â mudiadau sy’n ymgysylltu â phobl economaidd anweithgar, sydd, yn aml, yn wynebu nifer o rwystrau; ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth drwy ddefnyddio ystod o weithgareddau sy’n magu eu hyder ac yn datblygu eu sgiliau i symud tuag at gyflogaeth gynaliadwy. Bydd y MLD yn annog mudiadau i lynu wrth egwyddorion model dilyniant gwaith, sy’n pwysleisio datblygiad unigolion i’w harfogi ar gyfer eu swyddi ar hyn o bryd, ond hefyd i roi’r sgiliau iddynt allu cystadlu mewn marchnad lafur sy’n newid yn barhaus. Bydd angen i’r holl gyflenwyr ddangos eu bod yn ymgysylltu â’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur, i roi sgiliau newydd a mwy o hyder i’r cyfranogwyr i’w galluogi i ddod yn weithgar yn economaidd, gan arwain hefyd at well cydlyniad cymdeithasol a datblygiad cynaliadwy yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Gogledd Cymru.

Bydd y MLD yn cynnig contractau hyd at 18 mis drwy broses dendro. Er mwyn ennill contractau, bydd angen i fudiadau ddarparu canlyniadau i gyfranogwyr targed mewn ardaloedd daearyddol penodol drwy gyfnod o gyflogaeth dan gymorth. Bydd y MLD yn rhoi contractau gwerth hyd at £300,000. Bydd angen elfen o arian cyfatebol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth