Tendrau sector cyhoeddus
Enw a chyfeiriad swyddogol yr awdurdod contractio
Corff: Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ran Gweinidogion Cymru
At sylw: John Spence, APADGOS Llywodraeth Cynulliad Cymru – Gwella Busnes a Buddsoddi Adnoddau, 2il Lawr, Ffynnon Las, The Orchards, Clos Ilex, Llanisien, Caerdydd CF14 5EZ. E-bost wbltender@wales.gsi.gov.uk, www.wales.gov.uk/wbl.
Pwrpas y contract
Tendr Dysgu Seiliedig ar Waith rhwng 2011 a 2014
Mae gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) amrywiaeth o raglenni i gefnogi dysgwyr yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi dros 60,000 o unigolion yn ei rhaglenni dysgu seiliedig ar waith.
Cyfarwyddiadau i gyflenwyr
Mae gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) amrywiaeth o raglenni i gefnogi dysgwyr yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi dros 60,000 o unigolion yn ei rhaglenni dysgu seiliedig ar waith.
Mae’r Adran yn lansio proses dendro er mwyn sefydlu ei rhwydwaith newydd o ddarparwyr hyfforddiant ar gyfer tair blynedd rhwng 2011 a 2014 gyda’r opsiwn i ymestyn am un flwyddyn at 2015. Bydd y rhwydwaith hwn yn cyflwyno darpariaeth dysgu seiliedig ar waith ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru o fis Awst 2011 ymlaen. Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Bydd y broses tendro yn rhoi cyfle i ddethol darparwyr hyfforddiant ar sail ansawdd (pennir y pris gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a dyrennir contractau yn y dyfodol yn seiliedig ar fethodoleg dyrannu Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ymwneud â Dysgu Seiliedig ar Waith).
Drwy’r broses tendro, mae APADGOS hefyd yn ceisio gwella gwaith cynllunio’r ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith ar lefel ranbarthol/isranbarthol – gan gynnwys bod yn gydnaws â pholisi Trawsnewid APADGOS a, lle bo’n briodol, darpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae APADGOS hefyd yn ceisio hwyluso’r broses gydweithio rhwng darparwyr hyfforddiant a’u hintegreiddio yn y Partneriaethau Dysgu 14-19 sydd wedi’u sefydlu erbyn hyn ym mhob ardal awdurdod lleol.
Mae’r broses tendro’n cael ei chynnal ar www.etenderwales.bravosolution.co.uk – gwefan sy’n darparu cyfleuster ar gyfer tendro electronig sydd ar gael i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Gofynnir i gyflenwyr gofrestru eu manylion ar
safle www.etenderwales.bravosolution.co.uk wrth dendro.
Gellir gweld cwestiynau cyffredin a gwybodaeth am ddysgu seiliedig ar waith yng nghyfeiriad gwe Llywodraeth Cynulliad Cymru www.wales.gov.uk/wbl. Caiff y dudalen hon ei diweddaru’n rheolaidd.
Cyfeirnod: C243-2009-10
Dyddiad cau: 27 Medi 2010
Enw a chyfeiriad swyddogol yr awdurdod contractio
Sefydliad: Skillsmart Retail Ltd
At sylw: Janet Read, National Skills Academy for Retail, c/o Skillsmart Retail Ltd, Fourth Floor, 93 Newman Street, London W1T 3EZ. Ffôn 020 7462 5511, e-bost janet.read@nsaforretail.com, www.nsaforretail.com.
Amcan y contract
Ymarfer Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ac Academïau Sgiliau Cenedlaethol
Mae Skillsmart Retail wedi cael cyllid gan Gynllun Peilot Cronfa Blaenoriaeth Sector (SPFP) Llywodraeth Cynulliad Cymru i ganfod a yw’n ddichonadwy creu rhwydwaith o siopau sgiliau yng Nghymru. Byddai’r rhwydwaith hwn yn dod yn rhan o’r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Adwerthu. Nod y prosiect cyfan yw ymchwilio i siopau sgiliau presennol, ymgynghori â chyflogwyr adwerthu a gwerthuso’r ddarpariaeth bresennol a bylchau mewn gwasanaethau. Mae’r tendr hwn yn canolbwyntio ar ddau o naw o bwyntiau gweithredu’r prosiect cyfan.
Rhif cyfeirnod: SPFP 005
Dyddiad cau: 27 Awst 2010
Adnoddau
Manylion a Dogfennaeth y Tendr (172 Kb)
Ffurflen Gais y Tendr (138 Kb)
Enw a chyfeiriad swyddogol yr awdurdod contractio
Sefydliad: Awtistiaeth Cymru
At sylw: Lynn Plimley, Awtistiaeth Cymru, d/o Cyfreithwyr Thomas Simon, 62 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0DF. E-bost lynn@autismcymru.org, www.awares.org.
Amcan y contract
Ymgynghorwyr hyfforddiant – anhwylderau’r sbectrwm awtistig
Ymgynghorydd hyfforddiant hanner amser i weithio gyda phrif hyfforddwyr yn Awtistiaeth Cymru i gynllunio, adolygu a chyflenwi rhaglen hyfforddiant am anhwylderau’r sbectrwm awtistig i ddarparwyr ôl-ysgol – gyrfaoedd, cyflogaeth, hamdden, addysg bellach ac addysg uwch. Contract penodol o fis Medi 2010 i fis Ebrill 2012.
Cyfarwyddiadau i gyflenwyr
Cyflwyno CV manwl a phortffolio o ddatblygiad proffesiynol.
Tystiolaeth fanwl o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn perthynas â gwybodaeth am anhwylderau’r sbectrwm awtistig.
Tystiolaeth o unrhyw hyfforddiant/erthyglau/cyhoeddiadau/gwybodaeth anffurfiol a ysgrifennwyd yn bersonol am anhwylderau’r sbectrwm awtistig.
Rhoi Gwybodaeth Ymarfer ddiweddar sy’n berthnasol i gyd-destun yr hyfforddiant a ddarperir a chwblhau tasgau Cyflwyniad fel y’u hamlinellir yn y ddogfen sydd ynghlwm.
Rhif cyfeirnod: 1924
Dyddiad cau: 27 Awst 2010
Adnoddau
Llyfryddiaeth hyfforddwyr Awtistiaeth Cymru (24 Kb)
Cyhoeddusrwydd Prosiect Dwyieithog (367 Kb)
Gwybodaeth am y tendr (Saesneg) (735 Kb)
Gwybodaeth am y tendr (Cymraeg) (693 Kb)
Gwybodaeth am y tendr a thasg i’w chyflwyno (31 Kb)
Enw a chyfeiriad swyddogol yr awdurdod contractio
Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
At sylw: Melanie Anderson, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ. E-bost m.c.anderson@npt.gov.uk, www.npt.gov.uk/procurement
Teitl y cais am ddyfynbris
Hyfforddi’r Hyfforddwr – Hyfforddiant am Swydd
Mae Prosiect COASTAL yn ceisio gwahodd sefydliadau cymwys addas i dendro i gyflenwi cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr – Hyfforddiant am Swydd.
Prosiect rhanbarthol yw Prosiect COASTAL sy’n ymdrin â Dinas a Sir Abertawe, sef y prif noddwr, Caerfyrddin, Penfro a Chastell-nedd Port Talbot. Nod y prosiect yw hyrwyddo hyfforddiant sgiliau, cyflogaeth, galwedigaethol a chyfleoedd dysgu gydol oes i unigolion sy’n economaidd anweithgar ar hyn o bryd o ganlyniad i salwch, anabledd, (salwch meddwl, anabledd dysgu, anabledd corfforol, nam ar y synhwyrau) problemau camddefnyddio sylweddau a/neu’r anfantais gymdeithasol ddifrifol sy’n gysylltiedig â gadael gofal tymor hir i fod yn oedolyn.
Mae angen Hyfforddi’r Hyfforddwr – Hyfforddiant am Swydd ar hyn o bryd ar 20 o staff prosiect yn ardal Castell-nedd Port Talbot sy’n gyfrifol am gynorthwyo pobl ag anableddau i mewn i waith.
Bydd gofyn i’r sefydliad llwyddiannus gyflenwi’r hyfforddiant rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2010. Rhagwelir y bydd angen mwy o hyfforddiant efallai drwy gydol y prosiect. Bydd sefydliadau’n tendro felly i ddarparu’r hyfforddiant hwn nes daw’r prosiect i ben ym mis Rhagfyr 2013.
Caiff y dyfynbris ei asesu ar sail 60% ansawdd / 40% pris.
I gael copi o ddogfen y Dyfynbris, e-bostiwch eich datganiad o ddiddordeb at Melanie Anderson, m.c.anderson@npt.gov.uk. Darparwch enw eich sefydliad, enw cyswllt, a rhif ffôn cyswllt.
Rhif cyfeirnod: 061/2010
Dyddiad cau: 31 Awst 2010
Enw a chyfeiriad swyddogol yr awdurdod contractio
Sefydliad: Cyngor Cefn Gwlad Cymru
At sylw: Miss Rachel Taylor, Maes y Ffynnon, Penrhosgarnedd, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd LL57 2DW. Ffôn 01248 385500, e-bost procurement@ccw.gov.uk, www.ccw.gov.uk.
Amcan y contract
Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2011
Mae cylch gwaith y Tîm Hamdden yn cynnwys datblygu’r sail dystiolaeth mewn perthynas â gweithgareddau awyr agored er mwyn rhoi cyngor a chyfarwyddyd effeithiol ar ymyriadau a gwerthuso. Yn rhan o hyn, mae CCGC, mewn partneriaeth â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, wedi cynnal Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2008 yn ddiweddar. Cynhaliwyd yr arolwg ffôn cenedlaethol hwn gan Ipsos Mori, a chwblhawyd y gwaith maes ar 21 Ionawr 2009. Roedd gan yr arolwg faint sampl o 6045, ac roedd yn holi oedolion sy’n byw yng Nghymru. Mae gwybodaeth bellach i’w gweld yn y fanyleb isod.
Mae CCGC a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru bellach yn dymuno ailadrodd Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru. Bydd y gwaith maes yn dechrau ar ddechrau mis Ionawr 2011, ac yn para 12 mis hyd fis Ionawr 2012. Bydd yr arolwg yn darparu data cymharol er mwyn monitro newidiadau a thueddiadau arwyddocaol mewn cyfranogiad rhwng 2008 a 2011.
Cyfarwyddiadau i gyflenwyr
Mae’n rhaid ichi ddychwelyd 1 copi papur o’ch tendr yn ogystal â’r dogfennau CCGC gofynnol wedi’u llenwi a chopïau o bolisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus eich sefydliad, ei bolisi yswiriant atebolrwydd cyflogwr a’ch tystysgrif yswiriant o dan Reoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) (SI 1998 Rhif 2573) ac 1 copi o’r uchod i gyd ar CD, heb fod yn hwyrach na 14:00 o’r gloch ddydd Gwener 27 Awst 2010, gan ddefnyddio’r label cyfeiriad sydd ynghlwm.
Rhif cyfeirnod: 257 EOG 10
Dyddiad cau: 27 Awst 2010 (14:00 o’r gloch)
Adnoddau
Meini Prawf Dewis (70 Kb)
Manyleb (700 Kb)
Polisi Amgylcheddol(81 Kb)
Gwahoddiad i Dendro (639 Kb)
Enw a chyfeiriad swyddogol yr awdurdod contractio
Sefydliad: People 1st
At sylw: Phil Raynsford, Second Floor, Armstrong House, 38 Market Square, Uxbridge UB8 1LH. Ffôn 01895 817 000, ebost phil.raynsford@people1st.co.uk, www.people1st.co.uk.
Amcan y contract
Hyfforddiant Gwasanaeth Cwsmer
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano?
Hyfforddwyr rhagorol i gyflwyno rhaglen gwasanaeth cwsmer newydd yng Nghymru.
Cefndir
Mae Pobl yn 1af yn cyflwyno rhaglen gwasanaeth cwsmer i helpu gweithwyr yn y sector lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth i ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmer ac ‘ymdeimlad o le’ rhagorol.
Mae’r rhaglen yn seiliedig ar y rhaglen World Host a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus i ddarparu hyfforddiant gwasanaeth cwsmer/ymdeimlad o le yn ddiweddar yn Chwaraeon Olympaidd y Gaeaf yn Vancouver. Mae’n arbennig o ryngweithiol, mae’n defnyddio adnoddau dysgu cyfoes ac mae’n symud ymlaen yn ddigon cyflym i gadw ac ysgogi’r dysgwr. Mae eisiau un diwrnod i’w chyflwyno.
Rydym yn cyd-destunio’r rhaglen i fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth cwsmer ac ‘ymdeimlad o le’. Felly, mae hyfforddwyr yn gallu cyflwyno’r rhaglen a chyd-destunio modiwlau arbennig i’r rhanbarth neu’r lleoliad penodol lle mae cynrychiolwyr yn byw ac yn gweithio.
Bydd y rhaglen gwasanaeth cwsmer newydd yn ychwanegu at ac yn dod yn lle’r rhaglen bresennol a elwir ‘Croeso Cynnes’. Bydd y brand sefydlog Croeso Cynnes yn parhau. Bydd cynrychiolwyr sy’n cwblhau’r rhaglen yn gymwys hefyd i’w cydnabod ar gyfer achrediad y nod ansawdd Croeso Cynnes (rhan o raglen achredu Croeso Cymru ‘Croeso Cynnes Cymreig - A Warm Welsh Welcome’).
Yn tanategu’r rhaglen bydd cymhwyster gyda chydnabyddiaeth genedlaethol, wedi ei achredu ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.
Cyflenwi
Y rhaglen fydd y safon aur ar gyfer gwasanaeth cwsmer yng Nghymru. Bydd yn cael ei chyflenwi gan rwydwaith o hyfforddwyr wedi’u cymeradwyo.
Bydd hyfforddwyr yn elwa ar dri diwrnod o raglen ddatblygu. Ni fydd hyn yn rhoi sylw i egwyddorion cyflenwi hyfforddiant. Bydd ei sylw ar gynnwys a chyflenwi’r rhaglen newydd. Yn dilyn achrediad, bydd hyfforddwyr yn gallu cynhyrchu incwm trwy werthu a chyflenwi’r rhaglen dan drwydded.
Bydd yn cael ei chyflwyno trwy raglenni agored a mewnol i fyfyrwyr a phobl sy’n bwriadu dod i mewn i’r diwydiant yn ogystal â gweithwyr mewn gwaith ar hyn o bryd.
Yn ystod 2012 byddwn yn bwrw ymlaen ag ymgyrch farchnata sylweddol er mwyn hyrwyddo’r rhaglen. Byddwn yn gwneud hyn ar y cyd â Phartneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn noddi’r 1,500 cyntaf o ddysgwyr i ymgymryd â’r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys 70% o’r gost iddynt, sy’n gwneud y rhaglen yn ddeniadol tu hwnt yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn.
Y cyfle hwn
Mae hwn yn gyfle i sefydliadau ac unigolion gael eu hachredu ar gyfer cyflenwi’r rhaglen hyfforddiant newydd ledled Cymru.
Rydym yn gwahodd diddordeb oddi wrth unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cael eu cydnabod i gyflenwi’r rhaglen gwasanaeth cwsmer newydd.
Ein nod yw cynnal y rhaglen newydd ym misoedd Medi/Hydref a gwneud newidiadau ar sail yr adborth gan hyfforddwyr a chyflogwyr.
Yna byddwn yn hyfforddi carfan ychwanegol o hyfforddwyr yn ystod un aim is Medi neu fis Hydref gyda’r bwriad o ddechrau gweithredu’n genedlaethol o fis Tachwedd 2010 ymlaen.
Ar hyn o bryd rydym yn dal i ystyried nifer fanwl yr hyfforddwyr fydd eu hangen. Mae’n anodd proffwydo nawr. Gallem felly benodi rhagor o hyfforddwyr yn y flwyddyn newydd yn dibynnu ar y galw yn y farchnad.
Cyfarwyddiadau i gyflenwyr
Byddwch cystal ag anfon Curriculum Vitae llawn, copi o’ch tystysgrif hyfforddi’r hyfforddwr neu dystysgrif addysgu a llythyr ategol gyda rhagor o wybodaeth ynglyn â pham yr ydych o’r farn eich body n gymwys i fynd yn hyfforddwr achrededig a chyflwyno’r rhaglen gwasanaeth cwsmer newydd yng Nghymru.
Cyfeirnod: 100200
Dyddiad cau: 30 Awst 2010
Enw a chyfeiriad swyddogol yr awdurdod contractio
Sefydliad: Techniquest
At sylw: Lyn Arnold, Stryd Stuart, Caerdydd CF10 5BW. Ffôn 029 2047 5475, ebost lyn@techniquest.org, www.techniquest.org.
Amcan y contract
Contract Both Cyrraedd yr Uchelfannau ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-Bont ar Ogwr
Gwahoddir tendrau gan gyrff sydd â’r cymwysterau a’r profiad addas ac yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer eu apwyntio i’r rôl o ‘Both’ i ddarparu rhaglenni addysgol cymeradwy allgymorth i ysgolion a gyflenwir gan Techniquest yn ardal Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-Bont ar Ogwr. Gwelir y ddogfen ‘Invitation to Tender (ITT)’ am fanylion ar argymell tendrau.
Bydd y tendrwr llwyddiannus yn derbyn y contract Cyrraedd Y Nod i ddarparu rhaglenni Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i bobl ifanc yn ardal y ‘Both’ nes Ionawr 2013. Gan bod Cyrraedd Y Nod yn gynllun sydd yn derbyn cyllid gan y CGE dylai Tendrwyr nodi y bydd angen i’r Tendrwr dewisol dderbyn cydymffurfiad â thermau perthnasol arian grant y CGE i sicrhau y gall Techniquest gydymffurfio â’i rwymedigaethau yn y cyswllt yma.
Mae Cyrraedd Y Nod yn gynllun sydd yn derbyn cyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) ac sydd yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y cyd ag wyth o noddwyr. Nod y cynllun yw i godi dyheadau pobl ifanc gan roi’r siawns gorau posib iddynt o ddatblygu gyrfa yn y dyfodol ac yn ehangu eu cyfleoedd i ennill sgiliau gwaith. Rôl Techniquest yn y cynllun yw i gynllunio a darparu rhaglen i hybu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a fydd o fudd i bobl ifanc 11-19 oed ar draws Cymru sydd eisioes neu sydd mewn perygl o fod yn ddifreintiedig neu o dan-gyflawni. Bydd y ‘Both’ llwyddiannus yn darparu rhaglenni arloesol, hygyrch, llawn cymhelliant i hybu diddordeb pobl ifanc mewn STEM i hyrwyddo’r sgiliau fydd angen arnynt ar gyfer parhau mewn addysg a gwaith. Bydd y ‘Both’ yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd lleol a cholegau addysg bellach i hybu diddordeb pobl ifanc yn y cynllun.
Mae’r broses tendro yma yn un o nifer sydd yn digwydd ar hyn o bryd yn Techniquest er mwyn datblygu rhwydwaith ‘Bothau’ allgymorth ar gyfer darparu gwasanaethau allgymorth ar draws Cymru. Bydd contractau tebyg eraill yn cael eu rhoi i gyrff i sefydlu ‘Bothau’ i weithio yn yr ardaloedd canlynol: Ceredigion a Meirionnydd; Penfro a Sir Gaerfyrddin; Ynys Mon, Dwyfor, Arfon a Gorllewin Conwy; Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tydfil.
Contractau Ychwanegol
Dylai’r tendrwyr nodi y gall contractau ychwanegol i redeg gweithgareddau addysgol ychwanegol gael eu cynnig yn y dyfodol. Gwelir y ddogfen ITT am wybodaeth pellach ynglyn â gweithgareddau addysgol ychwanegol.
Cyfeirnod: ITT-SNPTB-2010
Dyddiad cau: 25 Awst 2010
Adnoddau hysbysiadau
ITT, Dogfennu Contract ac Atodiadau (yn Saesneg yn unig) (2535 Kb)

