Cyfleoedd tendro
Mae darparu gwasanaethau dan gontract neu dendro yn ffynhonnell incwm gynyddol bwysig i sefydliadau trydydd sector ac mae amrywiaeth o gyfleoedd tendro a ariennir gan Ewrop a’r sector cyhoeddus ar gael.
Mae’r cyfleoedd tendro hyn, ynghyd â llawer o rai eraill, yn cael eu hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru a ddarperir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Drwy gofrestru â GwerthwchiGymru, bydd sefydliadau’n cael hysbysiadau awtomatig am gyfleoedd addas, a gallant hefyd ofyn am Ganllaw i Dendro rhad ac am ddim ar gyfer contractau sector cyhoeddus. Fel arall, mae Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) yn cyhoeddi pob contract sector cyhoeddus dros drothwy penodedig yr UE.
Mae angen rhwydweithio a magu perthnasoedd yn lleol hefyd er mwyn dod o hyd i wybodaeth am gontractau sydd ar gael a chael gwahoddiad i dendro. Mae’r cynghorau gwirfoddol sirol (CGSau) yn rhoi gwybodaeth fanwl am bartneriaethau allweddol, pwyllgorau a fforymau strategol yn eu hardal leol. Am fanylion eich CGS lleol, ewch i gael help llaw.
Nid drwy asiantaethau sector cyhoeddus fel yr awdurdod lleol neu fwrdd iechyd lleol yn unig mae cyfleoedd am gontractio ar gael. Maent hefyd yn bodoli gyda busnesau preifat neu’n wir sefydliadau trydydd sector eraill. Gellir gweld hysbysebion o bob math o asiantaeth brynu mewn papurau newydd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol neu gylchgronau masnach sy’n gysylltiedig â meysydd gwasanaeth arbennig.
Mae cyngor neu wybodaeth bellach ar gael hefyd am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o dan gontract.

