Cymuned ac adfywio

Cynllun Cefnogi Band Eang
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio ei Chynllun Cefnogi Band Eang, gyda’r nod o leihau nifer yr ardaloedd gwledig yn y wlad heb Ryngrwyd band eang. Bydd y cynllun yn galluogi unigolion a chymunedau yn y ‘mannau gwan’ band eang sy’n weddill yng Nghymru i fynd at ddarparwyr gwasanaeth yn uniongyrchol, gyda chymorth cyllid Llywodraeth y Cynulliad. Mae cymorth hyd at fwyafswm o £1,000 ar gael i safleoedd unigol, gan dalu hyd at 100 y cant o gostau.

Mae’r cynllun yn niwtral o ran technoleg ac nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ffafrio unrhyw fath arbennig o dechnoleg. Mae enghreifftiau o’r mathau o atebion band eang y gellid eu cefnogi yn cynnwys: gosod cysylltiad lloeren band eang i’r cartref neu fusnes; cymuned yn prynu cysylltiad lloeren ‘ar raddfa fwy’ sy’n cael ei ddosbarthu o amgylch y pentref gan rwydwaith diwifr bach; darparwr gwasanaeth yn cyflenwi rhwydwaith diwifr ar draws y gymuned; a chymuned yn prynu gwasanaeth band eang y genhedlaeth nesaf megis Ffibr i’r Cabinet (FTTC). Caiff unigolion, cymunedau, busnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru ymgeisio. Ceir cyflwyno ceisiadau unrhyw bryd.
(Ffynhonnell: Grantfinder Newsflash, 2/8/10)

Gwobrau Cymunedol Kerrygold
Eisiau cael gwybod beth yw barn y cyhoedd ym Mhrydain am eich gwaith? Os felly, beth am gymryd rhan yng Ngwobrau Cymunedol Kerrygold? Bydd yr enillwyr yn derbyn hyd at £2,000. Mae’r dyfarniadau’n agored i unrhyw brosiect lleol yn y DU sydd â’i staff yn aelodau o’r gymuned honno. Y peth mwyaf diddorol ymhlith y gofynion yw na ddylai’r prosiectau fod ynghlwm wrth elusennau cofrestredig cenedlaethol. Rhennir y prosiectau’n gategorïau: y celfyddydau; chwaraeon a lles; helpu eraill; adfywio ardal, natur a’r amgylchedd; byw cynaliadwy; sgiliau addysgu; annog ymgynnull cymunedol; arall. Mae’r gwobrau’n agored i brosiectau cymunedol yn y DU sy'n ceisio helpu'r gymuned yn union o'u hamgylch ac sydd â'u staff yn aelodau o'r gymuned honno. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.kerrygoldcommunityawards.co.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 16/7/10)

Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn agored i geisiadau gan grwpiau sy’n cyflwyno prosiectau rhanbarthol. Mae’r rheolau wedi cael eu newid. Y tri newid yw: rowndiau unigol ar gyfer mudiadau o bob maint; newid yn y swm y gellir gwneud cais amdano ac mae nifer y geiriau yn y ceisiadau’n cael eu cyfrif. Mae pob agwedd arall yn aros yr un fath. Y pedwar maes ar gyfer y grantiau yw: chwaraeon, y celfyddydau, yr amgylchedd a chymunedau.

Mae’r tair rownd ar wahân ar gyfer pob categori ymgeisio fel a ganlyn:

Rhanbarthol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu rhanbarth yng Nghymru neu ardal awdurdod lleol wneud cais am hyd at £7,500. Y dyddiad cau yw 6 Medi (hanner dydd).

Lleol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu eu cymuned leol neu eu tref wneud cais am hyd at £2,500. Y dyddiad cau yw 22 Rhagfyr 2010 (hanner dydd).

Cenedlaethol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu Cymru gyfan wneud cais am hyd at £12,500. Mae’r cynllun yn agored o ddechrau mis Mawrth tan ddydd Gwener 22 Ebrill 2011 (hanner dydd).

Sylwer os ydych wedi derbyn grant yna ni allwch ailymgeisio nes i 3 blynedd fynd heibio o ddyddiad eich llythyr cynnig.

Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau wedi’u diweddaru ar gael o www.millenniumstadiumtrust.co.uk.

Sefydliad Elusennol Maurice Wohl
Mae nodau’r sefydliad yn eang, er rhoddir pwyslais penodol ar achosion sy’n cefnogi’r meysydd canlynol: lles plant, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt (gan gynnwys addysg); hybu iechyd, lles a datblygu gwasanaethau meddygol; lliniaru tlodi, angen a thrallod; lles pobl oedrannus, pobl fethedig, pobl dan anfantais a phobl anabl, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt; a chefnogaeth i’r celfyddydau. Bydd y sefydliad hefyd yn ystyried rhoi nifer fach o gyfraniadau ariannol sylweddol i achosion teilwng sy’n dod o dan ei feysydd blaenoriaeth. Mae rhagor o fanylion ar gael gan Diane Morgan, ffôn 020 7383 5111.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 98)

Ymddiriedolaeth Beatrice Laing
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau yn y categorïau canlynol: plant ac ieuenctid – lles plant, addysg, datblygu ieuenctid; iechyd a meddyginiaeth – caethiwed/ailsefydlu, anabledd/anfantais gorfforol, gwasanaethau brys, ymchwil a lles meddygol, iechyd meddwl/anfantais feddyliol; cymorth dramor – prosiectau datblygu, prosiectau cymorth; crefydd – gwaith maes, crefydd: cartref, crefydd: unigolion, crefydd: tramor; a lles cymdeithasol – lluoedd arfog, prosiectau cymunedol, gostwng lefelau troseddu/lles carchar, yr henoed, tai, prosiectau lles. Gellir cael mwy o fanylion gan Elizabeth A Harley, Gweinyddwr, ffôn 020 8238 8890.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)

Cronfa Elusennol Hilden – Grantiau cynlluniau chwarae’r haf
Mae Cronfa Elusennol Hilden yn dyfarnu grantiau’n flynyddol i helpu grwpiau cymunedol yn y DU i gynnal cynlluniau chwarae haf er budd plant rhwng pump a 18 oed o deuluoedd lleiafrifoedd ethnig a ffoaduriaid. Mae grantiau o oddeutu £1,000 ar gael i asiantaethau gwirfoddol sydd ag incwm o lai na £150,000 sy’n rhedeg cynlluniau chwarae ac sy’n para am ddwy i chwe wythnos. Ni fydd cynlluniau chwarae na gwersylloedd haf sydd â chyllideb o dros £12,000 yn cael eu hystyried am nawdd.

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo – Rhaglen Bontio
Mae’r rhaglen hon yn cynnig i grwpiau gwirfoddol a chymunedol mewn cyn gymunedau glo y cyfle i ymgeisio am grant o hyd at £5,000. Rhaid i’r grwpiau fod yn ymateb i angen lleol neu’n rhoi sylw i faterion allweddol megis diweithdra, unigedd, sgiliau, datblygu sector a chynaliadwyedd. Mae grantiau mwy ar gael i sefydliadau statudol, cymunedol a gwirfoddol mwy. Mae manylion pellach ar gael oddi wrth Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, Part Unit 7, Maritime Office, Woodland Terrace, Maes-y-coed, Pontypridd CF37 1DZ. Ffôn 01443 404455 neu ymwelwch â www.coalfields-regen.org.uk/default.asp.
(Ffynhonnell: YWS Bulletin, Chwe 10)

Grantiau One Planet Living B & Q
Mae Grant One Planet Living B&Q (OPL) yn cynnig rhwng £50 a £250 o ddefnyddiau B&Q i ysgolion, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol ar gyfer prosiectau cynaliadwy tymor hir. Rhaid i’r prosiectau ymwneud ag o leiaf un o’r themâu canlynol: arbed ynni; cadwraeth natur, tyfu eich cynnyrch eich hun; hybu diwylliant a threftadaeth leol. Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan ysgolion, mudiad elusennol cofrestredig neu grŵp cymunedol cydnabyddedig arall, e.e. cymdeithas preswylwyr, canolfannau ieuenctid, sgowtiaid, geidiaid. Gall prosiectau wneud cais am grant rhwng 1 Chwefror a 30 Medi 2010 a rhaid i’r prosiectau llwyddiannus gasglu eu defnyddiau erbyn 31 Hydref 2010. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gysylltu â hyrwyddwr amgylcheddol neu reolwr eu siop B&Q leol i drafod manylion y prosiect. Mae manylion pellach ar gael yma.
(Ffynhonnell: cylchlythyr Fit4Funding, Mawrth 2010)

Grantiau Grŵp Trefi Taclus
Mae’r prosiect Trefi Taclus yn grymuso pobl Cymru i dderbyn cyfrifoldeb am eu hamgylchedd lleol. Nod y cynllun Grantiau Grŵp yw sefydlu a datblygu grwpiau cymunedol ledled Cymru a fydd yn gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau lleol drwy fabwysiadu ardaloedd yn eu hamgylchedd lleol ac ymgymryd â phrosiectau gwella ymarferol. Gall grwpiau gwirfoddol llawr gwlad lleol a rhai cyfansoddiadol yng Nghymru wneud cais. Gellir gwneud cais unrhyw bryd a byddant yn cael eu hasesu yn y drefn y’u derbynnir.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Mawrth 10)

Skinners’ Company – Elusen Lady Neville
Nod Elusen Lady Neville y Skinners' Company yw dosbarthu cyllid grant i amrywiaeth eang o weithgareddau a buddiannau yn sector gwirfoddol y DU. Mae grantiau gwerth hyd at £1,000 ar gael i fudiadau sy’n gallu dangos y byddai’r grant yn gwneud cyfraniad pendant a phwysig at eu prosiect neu weithgarwch. Derbynnir ceisiadau gan elusennau cofrestredig a mudiadau dielw yn y DU sy’n cyflogi llai na phedwar aelod o staff llawn amser ac sy’n gweithio yn un o bedwar maes blaenoriaeth yr Elusen: anabledd; treftadaeth leol; cymunedau lleol; y celfyddydau perfformio a gweledol. Cynhelir cyfarfodydd o’r pwyllgor dyfarnu grantiau ym mis Mai a Thachwedd pob blwyddyn. Felly, dylid ystyried canol mis Mawrth a chanol Medi fel dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Mawrth 10)

Ymddiriedolaeth Naturesave
Mae Ymddiriedolaeth Naturesave wedi cyhoeddi y bydd yn darparu cyllid sbarduno i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn awyddus i gynorthwyo cymunedau, yn enwedig rhai heb y cyfalaf cychwynnol i wneud y gwaith rhagarweiniol i gyrraedd y cam cynllunio, ac yn bwysicaf oll, i helpu’r gymuned i gadw cymaint o reolaeth â phosibl dros yr incwm gweithredol cyn gynted ag y bydd y prosiect yn llwyddo. Mae grantiau ar gael pa bynnag fath o ynni adnewyddadwy y mae’r gymuned yn ystyried ei gynhyrchu. Gellir gwneud cais unrhyw bryd.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Mawrth 10)

Sefydliad Lloyds TSB yng Nghymru a Lloegr yn cyhoeddi cynnydd yn ei incwm i £25.24m ar gyfer 2010
Mae Sefydliad Lloyds TSB yng Nghymru a Lloegr yn falch o gyhoeddi cynnydd yn ei incwm i £25.24m ar gyfer 2010 (o’i gymharu ag £20.8m yn 2009) ac mae’n bleser cyhoeddi hefyd y bydd y lefel uwch hon o gyllid yn cael ei chynnal yn 2011, 2012 a 2013.

Mae Sefydliad Lloyds TSB yng Nghymru a Lloegr, sy’n cael ei redeg yn annibynnol yn cynorthwyo elusennau i helpu pobl ddifreintiedig i chwarae rôl lawnach yn y gymuned, ac yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae wedi dyfarnu grantiau gwerth dros £100m. Mae’r arian hwn wedi darparu cymorth mewn 97 y cant o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ac mae’n canolbwyntio ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae gwybodaeth lawn, gan gynnwys y meini prawf a’r canllawiau ar gael yn www.lloydstsbfoundations.org.uk.
(Ffynhonnell: Datganiad Sefydliad Lloyds TSB i’r wasg, 1/3/10)

Cynllun Grant Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol 2010-2011
Bydd Grant Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol yn cefnogi cyfleoedd i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig a chymunedau lleiafrifoedd ethnig wirfoddoli ar lefel ryngwladol.

Mae cynllun Grantiau Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol yn anelu at roi blaenoriaeth i ddarparu cyfleoedd yn uniongyrchol gydag ystod eang o bobl ifanc (16 - 25 oed), ac ar eu cyfer, ac yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fudiadau sy’n gweithio â’r canlynol: pobl ifanc o gymunedau difreintiedig: yn benodol o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a chymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; pobl ifanc a chanddynt anableddau corfforol neu anableddau dysgu; pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed; pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEETS).

Bydd y cynllun yn rhoi hyd at £30,000 o gyllid prosiect am flwyddyn ar gyfer rhaglen weithgareddau strwythuredig a fydd yn cynnig profiadau gwirfoddoli rhyngwladol o safon i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Y dyddiad cau ar gyfer pob cais fydd 16 Mehefin 2010. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw'n cael eu hystyried. Gofynnir i’r ymgeiswyr anfon copi o fersiwn derfynol eich cais dros e-bost at GwirVol@wcva.org.uk os gwelwch yn dda, yn ogystal ag anfon copi caled wedi’i lofnodi, gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo i brosesu eich cais cyn gynted ac mor effeithlon â phosibl.

GwirVol Grantiau Gwirfoddoli Ymhlith Pobl Ifanc 2010-2011
‘Cyfleoedd’ a ‘Hyrwyddo’
All eich mudiad annog mwy o bobl ifanc i wirfoddoli? Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu £420,000 trwy WCVA i gefnogi prosiectau a fydd yn ysgogi newid sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy'n gwirfoddoli, ac amrywiaeth gwirfoddolwyr ifanc.

Nod cynllun newydd Grantiau Gwirfoddoli ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol, yw cefnogi’r gwaith o ddarparu a hyrwyddo ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli newydd gan fudiadau trydydd sector yng Nghymru, yn enwedig i bobl ifanc dan anfantais. Mae pecynnau ymgeisio ar wahân ar gael ar gyfer grantiau ‘Cyfleoedd’ neu ‘Hyrwyddo’.

Mae’r cynllun grant yn ceisio rhoi blaenoriaeth i gyfleoedd gydag ystod eang o bobl ifanc (16 – 25 oed), ac ar eu cyfer, yn enwedig: pobl ifanc o gymunedau difreintiedig: yn benodol o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a chymunedau pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; pobl ifanc a chanddynt anableddau corfforol neu anableddau dysgu; pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed; pobl ifanc nad ydynt yn derbyn addysg, hyfforddiant neu mewn cyflogaeth.

Faint sydd ar gael?
Cyfleoedd’: hyd at £10,000 o nawdd prosiect ar gyfer gweithgareddau a fydd yn darparu amrywiaeth eang o brofiadau gwirfoddoli newydd ac arloesol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed – naill ai gyda'ch mudiad eich hun neu gyda mudiad arall.

‘Hyrwyddo’: bydd hyd at £5,000 o nawdd prosiect yn hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, ac ar eu cyfer, ee drwy ddigwyddiadau hyrwyddo, gwefannau, arddangosfeydd neu ymweliadau.

Gofynnir i’r ymgeiswyr anfon copi o fersiwn derfynol eich cais dros e-bost at GwirVol@wcva.org.uk os gwelwch yn dda, yn ogystal ag anfon copi caled wedi’i lofnodi, gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo i brosesu eich cais cyn gynted ac mor effeithlon â phosibl.

Mae pecynnau ymgeisio ar gael gan Lein Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu www.gwirvol.org.uk, neu anfonwch e-bost at help@wcva.org.uk.

Sport for Change
Mae Comic Relief wedi cyhoeddi mai’r dyddiad cau nesaf ar gyfer eu rhaglen ‘Sport for Change’ ydy 21 Mai 2010. Nod y rhaglen fydd dod i ddeall mwy am sut y gall chwaraeon gyfrannu at sicrhau newid positif ym mywydau unigolion a chymunedau. Bydd Comic Relief yn croesawu ceisiadau oddi wrth grwpiau a mudiadau cymunedol sy’n defnyddio chwaraeon fel rhan o raglen waith ehangach i sicrhau newid ar lefel unigol a/neu gymunedol.

Sefydliad Peter Cruddas
Mae Sefydliad Peter Cruddas yn dyfarnu grantiau i elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU ar gyfer rhaglenni sy’n helpu pobl ifanc ddifreintiedig ac sydd wedi ymddieithrio i fwrw ymlaen â’u haddysg ac, yn fwy cyffredinol, i ddatblygu’u potensial nail ai drwy chwaraeon neu hamdden, rhaglenni gwirfoddol neu drwy ryw ffordd arall. Nid oes lleiafswm nac uchafswm ar gyfer lefel y grant, a gellir ariannu prosiectau am fwy na blwyddyn.

Cymunedau Gweledol
Mae Sefydliad Lankelly Chase yn cyllido Materion Cymunedol i ddarparu bwrsarïau i fudiadau cymunedol sy’n dymuno ennill achrediad gweledol. Mae achrediad gweledol yn profi bod yna hyder yng ngwaith eich mudiad ac yn rhoi cydnabyddiaeth i staff a gwirfoddolwyr ymroddedig.

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys os yw eich mudiad yn: fudiad annibynnol sy’n gwasanaethu cymdogaeth neu gymuned o ddiddordeb; rheoli adeilad cymunedol sy’n eiddo i’r mudiad neu sy’n cael ei brydlesu ganddo; cael ei gyllido drwy gyfrwng sawl ffynhonnell incwm (yn cynnwys incwm a enillwyd); mudiad gyda chyfansoddiad ffurfiol, dan reolaeth y gymuned ac yn cyflogi o leiaf un aelod staff; darparu amrediad o wasanaethau a gweithgareddau; ac wedi’i leoli yng Nghymru neu Loegr (ac eithrio Llundain Fwyaf). Mae’r cyllid ar gael tan fis Mawrth 2011 yn unig, a dim ond pan fydd y mudiad yn barod i achredu y caiff wneud cais.

I gael rhagor o wybodaeth ac i lwytho ffurflenni cais oddi ar y we, ewch i www.visiblecommunities.org.uk neu cysylltwch â Richard Bridge, ffôn 020 7520 2773, e-bost richard.bridge@communitymatters.org.uk.

Y Cyngor Coed
Mae gan y Cyngor Coed ddwy Gronfa:

Y Gronfa Coed Cymunedol
Mae’n darparu grantiau ar gyfer prosiectau plannu coed ar dir sydd ar agor i’r cyhoedd yn y DU yn ystod yr Wythnos Goed Genedlaethol.

Y Gronfa Coed ar gyfer Ysgolion
Mae'n darparu cymorth ariannol ar gyfer prosiectau plannu coed ar dir ysgolion yn y DU yn ystod yr Wythnos Goed Genedlaethol.

Mae grantiau ar gael ar gyfer 75 y cant o gostau prosiectau os yw’r costau ar gyfer plannu’r coed rhwng £100 a £700. Mae costau cymwys yn cynnwys talu am goed, llafur ar gyfer plannu, ac unrhyw gymorth neu gefnogaeth i sefydlu’r coed: ffyn, cortyn clymu, sgrin warchod, gwrtaith, mwlts a deunydd i wella’r pridd (lle mae’r amodau’n golygu bod hyn yn berthnasol).

(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)

WREN yn cyhoeddi'r dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau (y Deyrnas Unedig)
Mae WREN sy'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol, prosiectau treftadaeth a phrosiectau amgylcheddol mewn ardaloedd sy'n agos at safleoedd tirlenwi drwy roi grantiau ar gyfer prosiectau o'r fath wedi cyhoeddi'r dyddiadau ar gyfer ceisiadau cyntaf 2010. Mae arian ar gael drwy dair rhaglen grantiau: y rhaglen grantiau bach sy'n darparu grantiau rhwng £2,000 a £15,000 pan fydd cyfanswm cost y prosiect dan £50,000; Prif gynllun grantiau WREN sy'n cynnig rhwng £15,001 a £50,000 a'r Gronfa Gweithredu Bioamrywiaeth sy'n darparu rhwng £75,000 a £250,000 i wireddu prosiectau gwella bioamrywiaeth dan Amcan DA. Rhai o'r mudiadau sy'n gymwys i wneud cais am arian yw mudiadau amgylcheddol, grwpiau gwirfoddol, elusennau, mudiadau heb fryd ar wneud elw a grwpiau cymunedol.
(Ffynhonnell: Grantiau Ar-lein - cylchlythyr cyllido Ion 2010)

Arddull Bywoliaethau Cynaliadwy Lansio cynllun grant 2009-11
Mae Oxfam Cymru wedi lansio cynllun grant newydd ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy'n ceisio gwell dealltwriaeth am dlodi. Am gopi o’r ffurflen gais a/neu mwy o wybodaeth cliciwch yma neu cysylltwch â Frances neu Maria ar oxfamcymru@oxfam.org.uk.

Cyllid i hybu cynhwysiant ariannol (yn y Deyrnas Unedig)
Mae Sefydliad Friends Provident yn rhoi grantiau gwerth hyd at £200,000 i fudiadau heb fryd ar wneud elw ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael ac allgáu cymdeithasol mewn cymunedau di-fraint. Dosberthir yr arian drwy'r Rhaglen Cynhwysiant Ariannol 2009-2012. Bydd y Sefydliad yn ystyried ceisiadau am waith a fydd yn gwneud cyfraniad strategol i gynhwysiant ariannol yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Bydd y sefydliad yn ystyried ceisiadau am arian cyfalaf neu arian refeniw, am gronfeydd craidd neu am gostau prosiectau. Mae'r Sefydliad yn barod i ystyried ceisiadau gan unrhyw fath o sefydliad annibynnol cyfreithlon, ond dim ond gwaith sy'n gyfreithlon elusennol y gall ei gefnogi.
(Ffynhonnell: Grantiau Ar-lein - cylchlythyr cyllido Ion 2010)

Rhaglen gweithgareddau a chyfleusterau cymunedol
Mae’r rhaglen grant cyfalaf hon yn targedu grwpiau cymunedol a gwirfoddol a chwmnïau dielw preifat yng Nghymru. Y nod yw llenwi bylchau cyllid ar ôl defnyddio pob ffynhonnell arall o gymorth. Bydd y grantiau yn sicrhau y darperir cyfleusterau mewn cymunedau a gweithgareddau cefnogi sy’n helpu i adfywio'r ardal leol. Gellir dyfarnu hyd at £100,000 i bob prosiect mewn unrhyw flwyddyn ariannol neu gyfanswm o £300,000 dros gyfnod o dair blynedd. Caiff ceisiadau eu hystyried mewn dwy rownd asesu, a gynhelir ym mis Ebrill a mis Hydref bob blwyddyn. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 9 Ebrill 2010. Mae mwy o fanylion ar gael yn http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/grants/cfap/?skip=1&lang=cy.

Mae cyllid ar gael o hyd i brosiectau cymunedol
Mae cymunedau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn cael eu hatgoffa bod grantiau o hyd at £5,000 yn dal i fod ar gael ar gyfer prosiectau neu weithgareddau sy’n dwyn budd yn lleol. Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yn gynllun grantiau bach a’i nod yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys pobl leol, drwy sefydliadau cymunedol bychain, gan gymryd camau i wella eu hardal leol. 29 Ionawr 2010 yw’r dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais am arian. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am hyd at £5,000 ac nid oes isafswm. I gael rhagor o wybodaeth neu i weld a yw eich cymuned yn ward Cymunedau yn Gyntaf ac yn gymwys felly i wneud cais am arian, cysylltwch â Llinell Gymorth Cymunedau yn Gyntaf ar 0800 578 8898.

Ymddiriedolaeth Ymarferol Old Possum’s
Prif nod yr ymddiriedolaeth yw gwella gwybodaeth a gwerthfawrogiad o unrhyw faterion hanesyddol, celfyddydol, archeolegol, esthetig, llenyddol, cerddorol neu theatraidd o ddiddordeb. Mae’n fwy tebygol y rhoddir cyllid i brosiectau sy'n cynnwys plant a phobl ifanc, pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais; a chymunedau. Gellir cael rhagor o fanylion yma.

Elusen Arbenigwr Arbed Arian - Money Saving Expert (MSE) Charity
Nod yr elusen MSE yw brwydro yn erbyn anllythrennedd o ran materion defnyddwyr ac anllythrennedd ariannol ac addysgu a hysbysu oedolion a phlant am faterion yn ymwneud â materion defnyddwyr a dyledion. Gall unigolion dros 18 oed sy’n byw yn y DU wneud cais am grant hyd at £500 i helpu i dalu am gwrs cymeradwy a chydnabyddedig a fydd yn helpu i wella’u gallu i gyllidebu a rheoli eu materion ariannol. Gellir defnyddio’r grant i dalu am ffioedd cwrs addysg ariannol a chostau cysylltiedig eraill. Y dyddiad olaf ar gyfer cyrsiau unigol yw 15 Rhagfyr 2009. Mae’r canllawiau ar gael yma.

Cronfa Cyllid Cymunedol Barclays
Mae Barclays yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ei Gronfa Cyllid Cymunedol, sy’n rhan o’i ymdrechion i wella gallu’r sector cyllid cymunedol i hyrwyddo cynhwysiant ariannol. Mae nifer gyfyngedig o grantiau gwerth hyd at £50,000 dros flwyddyn ar gael ledled Cymru, Lloegr a'r Alban er mwyn gwella mynediad at y credyd personol fforddiadwy a gynigir gan ddarparwyr cyllid cymunedol presennol a newydd. Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys marchnata, seilwaith, datblygu cynnyrch, uno busnesau a darparu gwasanaethau gallu ariannol neu wasanaethau cynghori ar arian (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain).
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 18/9/09)

Y Rhaglen Adeiladau Carbon Isel
Caiff y cynllun grant hwn ei redeg gan Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio, ac mae ar agor i fudiadau cymunedol a mudiadau di-elw. Ei fwriad yw cynyddu nifer yr adeiladau carbon isel a’r grantiau sydd ar gael er mwyn gosod amrywiol dechnolegau microgynhyrchu mewn adeiladau parhaol. Gall mudiadau wneud cais am 50 y cant o gost gosod technolegau microgynhyrchu sydd wedi’u cymeradwyo. Mae arian ar gael ar hyn o bryd, er nad yw pob technoleg wedi’i chynnwys. Cefnogir systemau ffotofoltaig solar yn llawn.
Dylai unigolion wneud cais i Phase 1
Dylai grwpiau wneud cais i Phase 2

Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol 2007-2011
Cynllun grant cyfalaf yw’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n agored i fudiadau cymunedol a gwirfoddol ac mae’n cynnig arian ar gyfer darparu cyfleusterau mewn cymunedau ac ar gyfer gweithgareddau i bobl leol sy'n helpu i adfywio cymunedau.

Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol
Ers Jiwbili Aur Ei Mawrhydi, mae’r Frenhines wedi cyflwyno’r wobr genedlaethol fawreddog hon i gannoedd o grwpiau gwirfoddoli yn y DU. Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol gyfwerth â’r MBE ac mae’n cydnabod y cyfraniad neilltuol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu cymunedau lleol. Os gwyddoch am grŵp gwirfoddoli sy’n rhoi o’i amser i helpu eraill yn eich cymuned leol ac sy’n haeddu cydnabyddiaeth, enwebwch ef am wobr. Mae enwebu’n hawdd: ewch i www.queensawardvoluntary.gov.uk, ebost queensaward@consol.co.uk, neu ffoniwch 020 7781 2397.

Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Heddiw (5 Awst 2009) cyhoeddodd y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cynulliad Cymru gytundeb i gyflwyno rhaglen newydd gwerth £13 miliwn a fydd yn helpu grwpiau cymunedol Cymru i gaffael adeiladau, tir ac amwynderau cyhoeddus a’u hadnewyddu er mwyn trawsnewid eu cymunedau er gwell. Nod y rhaglen yw helpu grwpiau cymunedol i gaffael adeiladau, tir ac amwynderau cyhoeddus i’w hadnewyddu a’u hadfywio at eu dibenion eu hunain. Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gweinyddu’r rhaglen, a fydd yn darparu arian refeniw a chyfalaf. Bydd sefydliadau’n gallu cyflwyno ceisiadau o ganol mis Hydref eleni.
(Ffynhonnell: Datganiad i’r wasg ar y cyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Cronfa Loteri Fawr)

Gwobr Cyflawnwyr Ifanc
Bwriad y cynllun gwobrau i Gyflawnwyr Ifanc yw cydnabod gwirfoddolwyr ifanc (rhwng 16 a 25 oed) yn y gymuned, y celfyddydau, yr amgylchedd a chwaraeon ac mae ar agor ar gyfer enwebiadau hyd at 27 Medi. Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.youngachievers.co.uk/.

Rhaglen Cymru-Iwerddon – Rownd tri ar agor!
Mae trydedd rownd y rhaglen Cymru-Iwerddon bellach ar agor, a 25 Medi 2009 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Targedir:

Blaenoriaeth 1 Thema 2 – Sgiliau ar gyfer Cystadleurwydd ac Integreiddio Cyflogaeth
Blaenoriaeth 2 Thema 2 – Adfywio Cymunedau’n Gynaliadwy

Yng nghyswllt Blaenoriaeth 2 Thema 2 byddai’r rhaglen yn croesawu’n benodol brosiectau peilot arloesol ar raddfa fach gan fudiadau sydd ar waith yn y maes datblygu cymunedol ac adfywio cymunedol. Er bod gan Raglen Cymru-Iwerddon 2007-2013 agwedd sy’n fwy strategol yn perthyn iddi, ni ddylai hyn eithrio mudiadau ar raddfa lai sydd â diddordeb mewn datblygu cysylltiadau ar draws Môr Iwerddon. Gallai ystod cyllideb a awgrymir fod rhwng €300,000 a €700,000, yn ôl nifer y partneriaid a fydd yn gysylltiedig.

Bydd dau ddigwyddiad gwybodaeth yn cael eu cynnal yng Nghymru ar gyfer galwad y drydedd rownd:

10:00 - 12:30 ar 19 Awst – Swyddfeydd WEFO, Bae Colwyn
Cysylltwch â: Roger Seddon: roger.seddon@wales.gsi.gov.uk; 01492 542594

10:00 - 12:30 ar 3 Medi – Swyddfeydd WEFO, Caerfyrddin
Cysylltwch â: Patrick Lilly: patrick.lilly@wales.gsi.gov.uk; 01267 225471

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys y pecyn ymgeisio ar gyfer Rownd 3, bellach ar gael yn www.irelandwales.ie. Gellir anfon unrhyw ymholiadau at ireland_wales@seregassembly.ie neu eich Swyddog Datblygu lleol: Roger Seddon (Gogledd Cymru) neu Patrick Lilly (Gorllewin Cymru).

Sefydliad Elusennol Bernard Sunley
Mae’r Sefydliad yn rhoi grantiau i rai mewn amryw o gategorïau gan gynnwys: addysg; ieuenctid; y gymuned; yr amgylchedd/cadwraeth; iechyd a lles. Fel arfer, rhoddir grantiau sydd rhwng £200 a £5,000. Rhoddir grantiau i elusennau cofrestredig yn unig, gan gynnwys ysgolion yn y DU. Nid oes ffurflen gais – dylid cyflwyno pob cais ar ffurf llythyr esboniadol i’r Cyfarwyddwr. Gellir cael rhagor o fanylion yn Bernard Sunley Charitable Foundation, 20 Berkley Square, Llundain W1J 6LH. Ffôn: 020 7408 2198, ffacs: 020 7499 5859, ebost office@sunleyfoundation.com.

Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog
Dyma gwnni elusennol a sefydlwyd i helpu pobl, cymunedau a mudiadau gwirfoddol i gyflawni cadwraeth a gwelliant amgylcheddol cadarnhaol o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 2009, gydag ariannu cychwynnol gan y Grid Cenedlaethol.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi: cadwraeth, diogelwch a gwelliannau amgylcheddol yn y Parc er lles y cyhoedd; mwy o ymwybyddiaeth addysgol a gwybodaeth am gadwraeth, diogelwch a gwelliant y Parc, parthed yr amgylchedd ffisegol, naturiol ac archeolegol. Creda’r Ymddiriedolwyr fod amgylchedd gwydn, iachus ac amrywiol yn sail hanfodol ar gyfer adeiladu cymdeithas ac economi sy’n ffynnu. Maen nhw’n tanysgrifio i egwyddorion datblygiad cynaliadwy tra’n cydnabod ein bod i gyd yn dal i archwilio beth yw ystyr cynaladwyedd yn ymarferol ar bob lefel yn y gymdeithas.

Mae manylion pellach ar gael Alan Underwood, Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth, ‘The Orchids’, Heol Blaenafon, Govilon, Y Fenni NP7 9NY. Ffôn 01873 832490, ebost alan@breconbeaconstrust.org, www.breconbeaconstrust.org.

Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol
Ers Jiwbili Aur Ei Mawrhydi, mae’r Frenhines wedi cyflwyno’r wobr genedlaethol fawreddog hon i gannoedd o grwpiau gwirfoddoli yn y DU. Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol gyfwerth â’r MBE ac mae’n cydnabod y cyfraniad neilltuol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu cymunedau lleol. Os gwyddoch am grŵp gwirfoddoli sy’n rhoi o’i amser i helpu eraill yn eich cymuned leol ac sy’n haeddu cydnabyddiaeth, enwebwch ef am wobr. Mae enwebu’n hawdd: ewch i www.queensawardvoluntary.gov.uk, ebost queensaward@consol.co.uk, ffôn 020 7781 2397.

Grantiau’r Cyngor Chwaraeon yng Nghymru
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn rhedeg nifer o gynlluniau sy’n cynnig grantiau ar lefel gymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys: y Gist Gymunedol, Sportsmatch Cymru, a Grant Datblygu.

Y Gist Gymunedol
Rhoddir grantiau’r Gist Gymunedol i brosiectau bach sy’n annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn amlach. Dyfernir hyd at £1,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Mae’r cynllun wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd bellach.

Sportsmatch Cymru
Trefniadau nawdd newydd mewn chwaraeon sy’n gyfle i sicrhau arian cyfatebol £ am £ gan Sportsmatch Cymru ar gyfer cynlluniau sy’n costio rhwng £300 a £50,000.

Grant Datblygu
Mae’r Grant Datblygu yn cefnogi prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn cymunedau. Dylai’r prosiectau un ai fod yn newydd neu’n codi safon gweithgareddau cyfredol. Fe’u dyfernir ar gyfer prosiectau mwy na’r rhai sy’n gymwys i dderbyn cymorth y Gronfa Gymunedol. Mae’r grantiau’n amrywio rhwng £1,001 a £25,000 a gellir eu gwario ar fân gyfleusterau fel llif oleuadau neu fannau lle gellir chwarae nifer o gemau gwahanol, neu ar gyfer cynlluniau refeniw neilltuol sy’n cefnogi datblygiad pobl drwy hyfforddiant neu ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl.

Mae manylion llawn am grantiau Cyngor Chwaraeon Cymru ar gael yma.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 7 Mai 09)

Sefydliad Lankelly Chase
Mae’r sefydliad yn cefnogi gwaith sydd â diben elusennol penodol ac mae’n bwriadu canolbwyntio ar elusennau llai, gyda llawer ohonynt yn gweithio ar lefel leol neu ranbarthol yn unig. Y prif raglenni a gefnogir gan y sefydliad yw: y celfyddydau; torri cylchoedd camdriniaeth; caethiwed a chymuned; meddyliau rhydd a thawel; pobl leol, mannau lleol. Mae rhagor o fanylion ar gael oddi wrth www.lankellychase.org.uk.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 88)

Ymddiriedolaeth Elusennol Helen & Geoffrey De Freitas
Rhoddir grantiau ar gyfer prosiectau yn y meysydd canlynol: i helpu cadwraeth cefn gwlad ac amgylchedd Prydain; i ddiogelu treftadaeth Prydain; ac i gynorthwyo pobl ddifreintiedig trwy gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, canolfannau cynghori a chelfyddydau cymunedol a hamdden. Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig at: Ms F de Freitas, Helen & Geoffrey De Freitas Charitable Trust, 6 New Street, Llundain EC4A 3BF.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)

Cysylltiadau Cymunedol BT
Lansiwyd rownd newydd o gynllun gwobrau Cysylltiadau Cymunedol BT sy’n helpu pobl i fynd ar-lein yng Nghymru. Mae’r cynllun yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol ac elusennol, gyda’r wobr yn cynnwys cyfrifiadur symudol a chysylltiad band llydan o 12 mis. Yn ogystal, gall grwpiau wneud cais ar y cyd am un o’r Gwobrau Clwstwr sy’n cynnig pecynnau offer technoleg gwybodaeth ychwanegol. Mae’r cynllun gwobrau yn galluogi grwpiau sydd eisoes yn gweithio o fewn cymunedau i fynd ar-lein a phrofi buddion y rhyngrwyd, gan helpu i ddatblygu sgiliau a symbylu aelodau i gefnogi ei gilydd wrth ddysgu mwy am y byd digidol.

Hwb o £3m i Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru
Mae ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru am gael dros £3m gan Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer 2009/2010. Nod Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys pobl leol, drwy sefydliadau cymunedol bychain sy’n rhoi budd i’r gymuned. Croesewir ceisiadau gan ystod o brosiectau cymunedol gan gynnwys cerddoriaeth a’r celfyddydau. Rhaid i’r gweithgareddau roi rhyw gymaint o fudd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl sy’n byw yn un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Cysylltwch â Lein Gymorth Cymunedau yn Gyntaf am fwy o wybodaeth ar 0800 587 8898, ebost help@wcva.org.uk.

Legacy Trust UK
Nod yr ymddiriedolaeth yw dyfarnu grantiau i unigolion neu fudiadau i ddibenion elusennol, sy’n cynnwys y meysydd canlynol: diwylliant; addysg; chwaraeon, iechyd a gweithgareddau elusennol eraill sydd o fudd i’r gymuned. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i ariannu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a chwaraeon yn y gobaith o sicrhau y bydd dylanwad Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn parhau ar eu hôl mewn cymunedau ledled y DU. Mae manylion pellach ar gael yn yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)

Meini prawf ariannu newydd gan Sefydliad y Nationwide
Mae Sefydliad y Nationwide wedi cyhoeddi meini prawf ariannu newydd ar gyfer elusennau cofrestredig yn y DU. Bydd ei raglenni grant newydd Money Matters a Homes Matter yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau tai ac allgau ariannol. O dan y rhaglen bydd y Sefydliad yn dyrannu grantiau i elusennau cofrestredig sy’n: mynd i’r afael ag allgau ariannol, sy’n effeithio ar grwpiau difreintiedig yn y DU; sy’n rhoi sylw i faterion tai a digartrefedd ymhlith grwpiau agored i niwed yn y DU. Mae Rhaglen Grantiau Bach y Sefydliad hefyd yn derbyn ceisiadau. Mae’n dyrannu grantiau’n barhaus sy’n werth hyd at £5,000 i elusennau cofrestredig ag incwm o dan £500,000.
(Ffynhonnell: UK Fundraising News – Rhif 242)

Ymddiriedolaeth Nominet
Gwahoddir ceisiadau i gefnogi cynlluniau Rhyngrwyd yn y DU ac yn rhyngwladol yn y sectorau addysg, ymchwil a datblygu, diogelwch ac allgau cymdeithasol. Dylai prosiectau gyd-fynd ag anghenion grwpiau targed yr Ymddiriedolaeth, sef pobl ifanc, pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl â salwch, a rhai sydd dan anfantais ac agored i niwed yn gyffredinol. Fel y gellid disgwyl, gwneir ceisiadau ar-lein. Mae holiadur cymhwysedd cychwynnol ar gael. Cyfeiriad gwefan yr Ymddiriedolaeth yw www.nominettrust.org.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 1 Mai 09)

Rhaglen Siopau Gwledig
Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyngor a chymorth ariannol i fusnesau a chymunedau gwledig ledled Cymru, gan gau’r bwlch yn y ddarpariaeth o ffynonellau ariannu traddodiadol. Targedir y gefnogaeth at fusnesau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol mewn pentrefi ac aneddiadau gwledig. Os mai dim ond un siop sydd mewn pentref, gall perchnogion y siop honno dderbyn gwerth diwrnod a hanner o gyngor adwerthu arbenigol. Ar ôl derbyn cyngor, gall busnesau wneud cais am hyd at £5,000 i helpu i roi mesurau ar waith i wneud y busnes yn fwy cynaliadwy. Cynigir cymorth mewn amgylchiadau lle mae cymuned eisoes wedi colli ei siop leol hefyd. Bydd grantiau o hyd at £10,000 yn caniatáu i wasanaethau gael eu hadfer. Gellir cyflwyno cais unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Bulletin, 2 Mehefin 10)

Gwobrau Cymunedol Ymddiriedolaeth Elusennol Tesco (y DU)
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Tesco wedi cyhoeddi ei bod yn awr yn derbyn ceisiadau am brosiectau sy’n cefnogi plant, eu haddysg, a’u lles. Mae’r cyllid ar gael i ysgolion, cymunedau a grwpiau gwirfoddol a all wneud cais am grantiau o rhwng £1,000 a £4,000. Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Tesco wedi’i sefydlu er 1987, a’i nod yw dyrannu grantiau o tua £600,000 bob blwyddyn. Mae prosiectau a gefnogwyd yn flaenorol yn cynnwys gardd synhwyraidd; dosbarthiadau yn yr awyr agored; clybiau brecwast ac ar ôl ysgol; cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau; a chyfraniadau tuag at brynu bysiau mini.
(Ffynhonnell: Grants Online, Mehefin 10)

Gwobrau am Bontio Diwyllianna
Mae’r Gwobrau am Bontio Diwylliannau’n gwobrwyo prosiectau lleol sy'n cael eu rhedeg gan fudiadau cymunedol a gwirfoddol sy'n cau'r bwlch rhwng cymunedau a diwylliannau. Maent hefyd yn gwobrwyo mudiadau sector cyhoeddus a phreifat sy’n cefnogi’r gwaith hwn drwy helpu i gychwyn prosiectau neu ddarparu cefnogaeth ariannol barhaus neu gefnogaeth arall. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Medi 2010. Ewch i www.bridgingcultures.org.uk am fwy o wybodaeth.