Addysg a dysgu
Sefydliad Elusennol Maurice Wohl
Mae nodau’r sefydliad yn eang, er rhoddir pwyslais penodol ar achosion sy’n cefnogi’r meysydd canlynol: lles plant, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt (gan gynnwys addysg); hybu iechyd, lles a datblygu gwasanaethau meddygol; lliniaru tlodi, angen a thrallod; lles pobl oedrannus, pobl fethedig, pobl dan anfantais a phobl anabl, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt; a chefnogaeth i’r celfyddydau. Bydd y sefydliad hefyd yn ystyried rhoi nifer fach o gyfraniadau ariannol sylweddol i achosion teilwng sy’n dod o dan ei feysydd blaenoriaeth. Mae rhagor o fanylion ar gael gan Diane Morgan, ffôn 020 7383 5111.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 98)
Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh
Amcan yr ymddiriedolaeth yw cefnogi sefydliadau elusennol cyffredinol. Mae’r achosion a gefnogir gan yr ymddiriedolaeth fel arfer yn dod dan y categorïau canlynol: lles cymdeithasol; llenyddiaeth, celfyddydau a threftadaeth; achosion amgylcheddol; cadwraeth a lles anifeiliaid; gofal iechyd ac ymchwil feddygol; addysg a hyfforddiant; amrywiol; ac apeliadau dramor. Dim ond i elusennau cofrestredig sy’n brofiadol yn eu maes gwaith y rhoddir grantiau a rhoddir ystyriaeth benodol i elusennau sy’n rhoi pwyslais ar Gristnogaeth. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.marshchristiantrust.org.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Sefydliad Foyle
Mae’r sefydliad yn cefnogi elusennau cofrestredig sydd â’u prif bwrpas yn un o’r ddau faes gwahanol hyn: dysgu – lle mae llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ac anghenion addysgol arbennig ac anawsterau dysgu yw’r prif flaenoriaethau cefnogi. Cefnogir ysgolion arbennig ac ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth hefyd; celfyddydau – mae’r sefydliad yn chwilio am geisiadau sy’n cyflwyno achos artistig cryf dros gefnogi naill ai’r celfyddydau perfformio neu’r celfyddydau gweledol. Y prif flaenoriaethau yw helpu i sicrhau y gall mwy gael mynediad at y celfyddydau drwy ddatblygu cynulleidfaoedd newydd, cefnogi teithiau, gwyliau a phrosiectau addysgol sy’n ymwneud â’r celfyddydau, ac i hybu gwaith newydd a chefnogi artistiaid newydd. Ystyrir hefyd brosiectau adeiladu a seilwaith i greu cyfleusterau celfyddydol newydd, a gwella neu osod offer newydd mewn lleoliadau sydd eisoes yn bodoli. Mae’r cynllun grantiau bach hefyd ar gael ar gyfer cefnogi elusennau llai yn y DU sy’n gweithio ar lefel sylfaenol ac ar lefel gymunedol leol. Mae rhagor o fanylion ar gael gan www.foylefoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Ymddiriedolaeth Dulverton
Mae'r ymddiriedolaeth yn rhoi grantiau i elusennau cofrestredig lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn y DU. Rhoddir blaenoriaeth i elusennau sy’n gweithio mewn meysydd lle mae amddifadedd a/neu unigrwydd difrifol. Rhoddir grantiau i fudiadau a ddaw dan y categorïau canlynol: pobl ifanc ac addysg; lles cyffredinol; cadwraeth; gwarchodaeth; heddwch a chymorth dyngarol; ac Affrica. Mae rhagor o fanylion ar gael gan www.dulverton.org.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Ymddiriedolaeth Beatrice Laing
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau yn y categorïau canlynol: plant ac ieuenctid – lles plant, addysg, datblygu ieuenctid; iechyd a meddyginiaeth – caethiwed/ailsefydlu, anabledd/anfantais gorfforol, gwasanaethau brys, ymchwil a lles meddygol, iechyd meddwl/anfantais feddyliol; cymorth dramor – prosiectau datblygu, prosiectau cymorth; crefydd – gwaith maes, crefydd: cartref, crefydd: unigolion, crefydd: tramor; a lles cymdeithasol – lluoedd arfog, prosiectau cymunedol, gostwng lefelau troseddu/lles carchar, yr henoed, tai, prosiectau lles. Gellir cael mwy o fanylion gan Elizabeth A Harley, Gweinyddwr, ffôn 020 8238 8890.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Sefydliad Raskob
Mae Sefydliad Raskob, sydd wedi’i leoli yn UDA, yn Fudiad Teuluol Catholig sy’n sicrhau bod grantiau ar gael i brosiectau cysylltiedig â’r Eglwys Gatholig yn rhyngwladol yn ogystal ag yn UDA. Mae’n derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer prosiectau hunangymorth a lleol gyda chysylltiadau ag esgobaethau Catholig, ysbytai Catholig neu gynulleidfaoedd crefyddol Catholig y tu allan i UDA. Mae’r grantiau’n tueddu i fod rhwng $5,000 a $15,000. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein. Ceir dau gyfle i ymgeisio bob blwyddyn. Mae’r cyfle presennol yn agored tan 8 Awst 2010. Bydd y cyfle nesaf rhwng 8 Rhagfyr 2010 ac 8 Chwefror 2011.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 17/6/10)
Ymddiriedolaeth elusennol CLA
Mae’r Ymddiriedolaeth CLA (Cymdeithas Siroedd a Thiroedd) yn dyrannu cyllid grant i helpu pobl anabl yng Nghymru a Lloegr. Nodau’r Ymddiriedolaeth yw: annog darparu addysg am gefn gwlad i’r bobl hynny sy’n anabl neu dan anfantais, yn enwedig plant ifanc o ardaloedd trefol; darparu cyfleusterau ar gyfer y rheini a chanddynt anableddau i gael mynediad at gyfleusterau hamdden yng nghefn gwlad; a hyrwyddo addysg mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a chadwraeth ar gyfer y rheini sy’n anabl neu dan anfantais. Mae’r Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar brosiectau llai lle mae’r grant yn gwneud gwir gyfraniad i lwyddiant y prosiect hwnnw. Dylid cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiect neu eitem benodol o gyfarpar cyfalaf yn hytrach na chostau rhedeg parhaus. Anaml iawn y dyrennir grantiau dros £2,000 ac nid yw’r Ymddiriedolwyr yn rhoi grantiau i unigolion. Gellir gwneud cais unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Ebrill 10)
Sefydliad Peter Cruddas
Mae Sefydliad Peter Cruddas yn dyfarnu grantiau i elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU ar gyfer rhaglenni sy’n helpu pobl ifanc ddifreintiedig ac sydd wedi ymddieithrio i fwrw ymlaen â’u haddysg ac, yn fwy cyffredinol, i ddatblygu’u potensial nail ai drwy chwaraeon neu hamdden, rhaglenni gwirfoddol neu drwy ryw ffordd arall. Nid oes lleiafswm nac uchafswm ar gyfer lefel y grant, a gellir ariannu prosiectau am fwy na blwyddyn.
Ymddiriedolaeth Idlewild
Mae Ymddiriedolaeth Idlewild yn dyfarnu oddeutu £120,000 y flwyddyn i gefnogi’r gweithgareddau canlynol yn y Deyrnas Unedig: hyrwyddo addysg; hybu’r celfyddydau cain a’r celfyddydau perfformio; gwarchod tiroedd, adeiladau a gwrthrychau hardd eraill neu o ddiddordeb hanesyddol a hynny er budd y cyhoedd. Mae grantiau gwerth hyd at £5,000 ar gael i elusennau cofrestredig yn y DU. Bydd yr ymddiriedolwyr yn cwrdd ym mis Mai a mis Tachwedd bob blwyddyn i ystyried ceisiadau.
Sefydliad Hedley
Mae Sefydliad Hedley yn rhoi grantiau i elusennau cofrestredig yn y DU. Ei brif nod yw cefnogi prosiectau sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant ac iechyd a lles pobl ifanc yn y DU. Mae hefyd yn cyllido prosiectau sy’n rhoi cymorth i ofalwyr pobl anabl a phobl sy’n derfynol sâl, ac yn rhoi cyllid i brynu cyfarpar meddygol arbenigol. £3,000 yw’r grant cyfartalog a ddyfernir. Caiff grantiau eu dyfarnu ar sail unwaith ac am byth a dim ond er mwyn talu am gostau prosiect y ceir eu defnyddio yn hytrach na chostau craidd, refeniw, cyflog neu drafnidiaeth. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau am grant. Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd yn 2010: 29 Medi, 24 Tachwedd. Rhaid i geisiadau ddod i law o leiaf tair wythnos cyn y cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael eu hystyried.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)
Ymddiriedolaeth Dulverton
Mae Ymddiriedolaeth Dulverton yn rhoi cyllid grant i fudiadau elusennol yn y DU sy’n gweithio yn y meysydd canlynol: pobl ifanc ac addysg; lles cyffredinol, cadwraeth; gwarchodaeth; heddwch a chymorth dyngarol; Affrica. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig dau fath o grant:
- Grantiau Mawr heb derfyn penodol - sydd ar gael i elusennau gyda llai na £50 miliwn o incwm blynyddol ac sy'n gweithio'n genedlaethol neu ledled rhanbarthau daearyddol y DU.
- Grantiau Bach hyd at £3,500 – sydd ar gael i elusennau llai gyda llai na £400,000 o incwm blynyddol sydd fel arfer yn gweithio ar lefel leol neu sirol.
Gellir gwneud cais unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)
Sefydliad y Teulu Taylor
Bwriad y sefydliad yw helpu a chynorthwyo plant a phobl ifanc, yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig, ym maes addysg, iechyd, hamdden a’r celfyddydau perfformio. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.thetaylorfamilyfoundation.co.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 91)
Porticus UK/Ymddiriedolaeth Waterside
Mae Ymddiriedolaeth Waterside/Porticus UK yn gwahodd ceisiadau gan fudiadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sydd am gryfhau'r berthynas ymhlith teuluoedd, cyfoethogi addysg a hyrwyddo moeseg a dysg gymdeithasol yr Eglwys Gatholig yn ymarferol. Er bod y ffydd Gatholig yn ganolog i waith yr Ymddiriedolaeth, a bod rôl y gwŷr lleyg yn flaenoriaeth benodol, derbynnir ceisiadau gan fudiadau o unrhyw ffydd, neu fudiadau di-ffydd. Mae’r grantiau’n tueddu i amrywio o £10,000 i £25,000. Mae gan y rhaglen bedwar maes: cryfhau gwerthoedd teuluoedd; cyfoethogi addysg; trawsnewid drwy ffydd; a moeseg ymarferol. Derbynnir ceisiadau fel y cyrhaeddant. Mae gwybodaeth am ymgeisio ar gael yma.
Sgiliau ar gyfer y Dyfodol – Buddsoddiad £5 miliwn ledled y DU
Cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghorffennaf gread rhaglen grant untro newydd, ‘Sgiliau ar gyfer y Dyfodol’ fydd yn cefnogi hyfforddiant newydd sy’n seiliedig ar waith gyda’r sgiliau sydd eu hangen i edrych ar ôl ein hadeiladau, tirweddau, cynefinoedd, rhywogaethau a chasgliadau amgueddfeydd. Yn ogystal â chyflawni sgiliau traddodiadol treftadaeth, bwriad y cynllun yma fydd cyfarparu sefydliadau i gysylltu â’r amrediad mwyaf eang o bobl gan eu hysbrydoli i ymwneud â threftadaeth. Gall hyn gynnwys hyfforddi swyddogion addysg a allgymorth, rheolwyr gwirfoddolwyr a phobl sydd angen sgiliau technoleg newydd i helpu’r cyhoedd i ddysgu am ein treftadaeth a chwarae rhan weithredol yn ei dyfodol.
Gall sefydliadau ymgeisio am arian ar gyfer nifer o hyfforddeiaethau dros gyfnod o hyd at 5 mlynedd. Yn bresennol mae’r meini prawf a blaenoriaethau yn cael eu datblygu ond bydd y pwyslais ar hyfforddiant ymarferol sy’n seiliedig ar waith ac o safon uchel wedi ei gyflawni drwy ddull partneriaeth.
Er mwyn gwneud buddsoddiadau cyn gynted ag sydd bosib, gall y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cychwynnol fod mor gynnar a 24 Rhagfyr. Bydd CDL yn bwriadu cynnal gweithdai cyn ymgeisio yn ystod Hydref/Tachwedd er mwyn darparu cyngor a chefnogaeth i sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb.
Os hoffech gofrestru eich diddordeb i fynychu gweithdy cyn ymgeisio, cysylltwch â CDL gyn gynted a phosib, fel unwaith y bydd dyddiadau a lleoliadau wedi eu cadarnhau, gall manylion gael eu pasio ymlaen yn gyflym. Er mwyn cofrestru eich diddordeb gyrrwch e-bost at clairef@hlf.org.uk neu ffoniwch 029 20 343413.
Sefydliad Elusennol Bernard Sunley
Mae’r Sefydliad yn rhoi grantiau i rai mewn amryw o gategorïau gan gynnwys: addysg; ieuenctid; y gymuned; yr amgylchedd/cadwraeth; iechyd a lles. Fel arfer, rhoddir grantiau sydd rhwng £200 a £5,000. Rhoddir grantiau i elusennau cofrestredig yn unig, gan gynnwys ysgolion yn y DU. Nid oes ffurflen gais – dylid cyflwyno pob cais ar ffurf llythyr esboniadol i’r Cyfarwyddwr. Gellir cael rhagor o fanylion yn Bernard Sunley Charitable Foundation, 20 Berkley Square, Llundain W1J 6LH. Ffôn: 020 7408 2198, ffacs: 020 7499 5859, ebost office@sunleyfoundation.com.
Y Cyngor Prydeinig – Grantiau Ymchwil Dysgu Saesneg (Eltra)
Nod y cynllun newydd hwn yw dyrannu nifer o grantiau i hwyluso ymchwil arloesol a fydd o fudd i ddysgu ac addysgu Saesneg ledled y byd. Gall unrhyw berson sy’n byw yn y DU ac sydd â chysylltiad â sefydliad addysg yn y DU fod yn gymwys i wneud cais. Mae manylion pellach ar gael ar wefan Cyngor Prydeinig.
Grŵp Ymddiriedolaeth Joshua
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi mudiadau crefyddol, sefydliadau addysg uwch a phellach a sefydliadau sy’n gofalu am y gwael a’r tlawd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi mudiadau o’r Deyrnas Unedig a thramor. Mae rhagor o fanylion ar gael oddi wrth R Grussgott, ffôn 020 8238 2888, e-bost info@shearsandpartners.co.uk.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)
Ymddiriedolaeth Elusennol Equitable
Nod yr Ymddiriedolaeth yw hybu addysg pobl ifanc o dan 25 oed, yn enwedig rhai ag unrhyw fath o anabledd meddyliol neu gorfforol neu sy’n profi anfantais mewn unrhyw ffordd. Rhennir y grantiau’n dri chategori: prosiectau neu wasanaethau addysgol eu natur sy’n cefnogi dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc anabl yn y DU, yn enwedig rhai sy’n cefnogi cyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol neu gyfleoedd dysgu galwedigaethol; a phrosiectau tramor a fydd yn helpu i gynyddu cyfranogiad, neu wella safon addysg plant a phobl ddifreintiedig neu anabl mewn gwledydd datblygol. Gellir defnyddio’r grantiau a roddir gan yr Ymddiriedolaeth tuag at gostau prosiectau, gwariant cyfalaf, offer a/neu gostau cyflog. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)
Ymddiriedolaeth Nominet
Gwahoddir ceisiadau i gefnogi cynlluniau Rhyngrwyd yn y DU ac yn rhyngwladol yn y sectorau addysg, ymchwil a datblygu, diogelwch ac allgau cymdeithasol. Dylai prosiectau gyd-fynd ag anghenion grwpiau targed yr Ymddiriedolaeth, sef pobl ifanc, pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl â salwch, a rhai sydd dan anfantais ac agored i niwed yn gyffredinol. Fel y gellid disgwyl, gwneir ceisiadau ar-lein. Mae holiadur cymhwysedd cychwynnol ar gael. Cyfeiriad gwefan yr Ymddiriedolaeth yw www.nominettrust.org.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 1 Mai 09)
Grant digwyddiadau ychwanegol o £500!
Digwyddiadau Ychwanegol Wythnos Gwaith Ieuenctid Caiff 20 o brosiectau eu dewis gan banel o ddyfarnwyr annibynnol a rhoddir grant o hyd at £500 iddynt i’w cynorthwyo gyda thalu costau sy’n gysylltiedig â sefydlu a hybu digwyddiadau arbennig sy’n cael eu trefnu’n ychwanegol at ddigwyddiadau sy’n arfer cael eu trefnu.
Sefydliad Sobell
Bydd y Sefydliad yn cefnogi ceisiadau gan elusennau cofrestredig sy’n gweithio yn y meysydd canlynol: gofal a thriniaeth feddygol, gan gynnwys gofal seibiant a hosbisau; gofal i oedolion a phlant ag anableddau corfforol a meddyliol; addysg a hyfforddiant i oedolion a phlant ag anableddau corfforol a dysgu; gofal a chefnogaeth i bobl hŷn; gofal a chefnogaeth i blant; digartrefedd. Mae manylion pellach ar gael yn www.sobellfoundation.org.uk neu e-bostiwch enquiries@sobellfoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)
Elusen Margaret Davies
Mae mudiadau elusennol cofrestredig, sy’n gweithio er budd pobl Cymru, yn cael eu cefnogi yn y meysydd canlynol: y celfyddydau gweledol; y celfyddydau perfformio; addysg; iechyd a gofal cymdeithasol a darpariaeth i bobl ifanc. Mae rhagor o fanylion ar gael oddi wrth Elusen Margaret Davies, Y Swyddfeydd, Plas Dinam, Llandinam, Powys SY17 5DQ. Ffôn 01686 689172.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)
Legacy Trust UK
Nod yr ymddiriedolaeth yw dyfarnu grantiau i unigolion neu fudiadau i ddibenion elusennol, sy’n cynnwys y meysydd canlynol: diwylliant; addysg; chwaraeon, iechyd a gweithgareddau elusennol eraill sydd o fudd i’r gymuned. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i ariannu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a chwaraeon yn y gobaith o sicrhau y bydd dylanwad Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn parhau ar eu hôl mewn cymunedau ledled y DU. Mae manylion pellach ar gael yn yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)
Sefydliad Djanogly
Mae’r Sefydliad yn cefnogi datblygiadau mewn: meddygaeth, addysg, lles cymdeithasol a’r celfyddydau. Rhoddir grantiau hefyd i ariannu prosiectau sy’n lleddfu trallod ac sy’n hybu lles pobl hŷn a phobl ifanc. Mae manylion pellach ar gael oddi wrth Sefydliad Djanogly, ffôn 020 7930 9845.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)
Gwobrau Cymunedol Ymddiriedolaeth Elusennol Tesco (y DU)
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Tesco wedi cyhoeddi ei bod yn awr yn derbyn ceisiadau am brosiectau sy’n cefnogi plant, eu haddysg, a’u lles. Mae’r cyllid ar gael i ysgolion, cymunedau a grwpiau gwirfoddol a all wneud cais am grantiau o rhwng £1,000 a £4,000. Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Tesco wedi’i sefydlu er 1987, a’i nod yw dyrannu grantiau o tua £600,000 bob blwyddyn. Mae prosiectau a gefnogwyd yn flaenorol yn cynnwys gardd synhwyraidd; dosbarthiadau yn yr awyr agored; clybiau brecwast ac ar ôl ysgol; cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau; a chyfraniadau tuag at brynu bysiau mini.
(Ffynhonnell: Grants Online, Mehefin 10)

