Yr Amgylchedd

Dyfarniadau ‘Feel the Heat’
Mae NEA wedi lansio Cynllun Dyfarniadau ‘Feel the Heat’ 2010. Mae’r cynllun yn rhoi cymorth grant i fentrau lleol sy’n darparu atebion i dlodi tanwydd. Y dyddiad cau i geisiadau yw 1 Medi 2010. Mae manylion pellach ar gael gan Claire Henderson ar 0191 2615677, e-bost Claire.henderson@nea.org.uk.

Gwobrau Cymunedol Kerrygold
Eisiau cael gwybod beth yw barn y cyhoedd ym Mhrydain am eich gwaith? Os felly, beth am gymryd rhan yng Ngwobrau Cymunedol Kerrygold? Bydd yr enillwyr yn derbyn hyd at £2,000. Mae’r dyfarniadau’n agored i unrhyw brosiect lleol yn y DU sydd â’i staff yn aelodau o’r gymuned honno. Y peth mwyaf diddorol ymhlith y gofynion yw na ddylai’r prosiectau fod ynghlwm wrth elusennau cofrestredig cenedlaethol. Rhennir y prosiectau’n gategorïau: y celfyddydau; chwaraeon a lles; helpu eraill; adfywio ardal, natur a’r amgylchedd; byw cynaliadwy; sgiliau addysgu; annog ymgynnull cymunedol; arall. Mae’r gwobrau’n agored i brosiectau cymunedol yn y DU sy'n ceisio helpu'r gymuned yn union o'u hamgylch ac sydd â'u staff yn aelodau o'r gymuned honno. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.kerrygoldcommunityawards.co.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 16/7/10)

Gwobrau Arwr Gwyrdd BTCV
A yw eich grŵp cymunedol yn eich helpu i ofalu am eich amgylchedd lleol? Os felly, dyma gyfle i chi ddiolch i’ch gwirfoddolwyr, sicrhau cydnabyddiaeth ac ennill gwobr gwerth hyd at £500. Mae Gwobrau Arwr Gwyrdd BTCV yn dathlu gwaith caled a chyflawniadau’r bobl sy’n gofalu am eu gofod gwyrdd lleol. Y dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau yw 16 Awst. Gellir cael mwy o fanylion yn www.btcv.org.

Cronfa Sbringfwrdd Shell
Mae cefnogaeth ar gael i fentrau bychain i ganolig eu maint ledled y DU sydd â syniadau arloesol er mwyn lleihau’r nwyon tŷ gwydr a ryddheir i’r amgylchedd. Dylai’r syniadau busnes fod ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth a fydd yn arwain at leihau nwyon tŷ gwydr a dylai’r syniad fod yn un arloesol ac yn fasnachol hyfyw. Cynigir dyfarniadau sydd rhwng £20,000 a £40,000 mewn tri achlysur yn y DU. Derbynnir ceisiadau gan fasnachwyr unigol, partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig a chwmnïau gyda diddordeb cymunedol (yn cynnwys cwmnïau’n deillio o’r llywodraeth ac o brifysgolion) sydd â llai na 250 o weithwyr. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5 Tachwedd 2010.
(Ffynhonnell: Bwletin Diweddaru Grantfinder, 21/7/10)

Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn agored i geisiadau gan grwpiau sy’n cyflwyno prosiectau rhanbarthol. Mae’r rheolau wedi cael eu newid. Y tri newid yw: rowndiau unigol ar gyfer mudiadau o bob maint; newid yn y swm y gellir gwneud cais amdano ac mae nifer y geiriau yn y ceisiadau’n cael eu cyfrif. Mae pob agwedd arall yn aros yr un fath. Y pedwar maes ar gyfer y grantiau yw: chwaraeon, y celfyddydau, yr amgylchedd a chymunedau.

Mae’r tair rownd ar wahân ar gyfer pob categori ymgeisio fel a ganlyn:

Rhanbarthol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu rhanbarth yng Nghymru neu ardal awdurdod lleol wneud cais am hyd at £7,500. Y dyddiad cau yw 6 Medi (hanner dydd).

Lleol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu eu cymuned leol neu eu tref wneud cais am hyd at £2,500. Y dyddiad cau yw 22 Rhagfyr 2010 (hanner dydd).

Cenedlaethol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu Cymru gyfan wneud cais am hyd at £12,500. Mae’r cynllun yn agored o ddechrau mis Mawrth tan ddydd Gwener 22 Ebrill 2011 (hanner dydd).

Sylwer os ydych wedi derbyn grant yna ni allwch ailymgeisio nes i 3 blynedd fynd heibio o ddyddiad eich llythyr cynnig.

Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau wedi’u diweddaru ar gael o www.millenniumstadiumtrust.co.uk.

Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh
Amcan yr ymddiriedolaeth yw cefnogi sefydliadau elusennol cyffredinol. Mae’r achosion a gefnogir gan yr ymddiriedolaeth fel arfer yn dod dan y categorïau canlynol: lles cymdeithasol; llenyddiaeth, celfyddydau a threftadaeth; achosion amgylcheddol; cadwraeth a lles anifeiliaid; gofal iechyd ac ymchwil feddygol; addysg a hyfforddiant; amrywiol; ac apeliadau dramor. Dim ond i elusennau cofrestredig sy’n brofiadol yn eu maes gwaith y rhoddir grantiau a rhoddir ystyriaeth benodol i elusennau sy’n rhoi pwyslais ar Gristnogaeth. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.marshchristiantrust.org.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)

Cynllun Busnes Ynni Coed 2
Mae Cynllun Busnes Ynni Coed 2 y Comisiwn Coedwigaeth, cynllun grant cyfalaf gwerth £17 miliwn, yn derbyn ceisiadau gan fentrau meicro, bach a chanolig, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Nod y cynllun yw hyrwyddo twf busnes cynaliadwy a chyfleoedd busnes newydd yng nghyswllt heriau a chyfleoedd amgylcheddol y dyfodol, a’u cynorthwyo i wneud y canlynol; buddsoddi mewn tanwydd coed glân, adnewyddadwy; cynyddu effeithlonrwydd ynni drwy roi cyngor cyffredinol; galluogi datblygu offer a chadwyni cyflenwi tanwydd o safon uchel; meithrin sgiliau a phrofiad wrth osod a chynnal a chadw technoleg gwres a phŵer tanwydd coed; datblygu cynhyrchion newydd e.e. boeleri gwresogi neu wasanaethau cyflenwi ynni newydd. Ceir tri math o brosiectau sy’n gymwys i gael cymorth grant, maent fel a ganlyn: cynllun gwresogi tanwydd coed; cynhyrchu trydan ar raddfa fach gan ddefnyddio coed; a busnesau sy’n cyflenwi tanwydd. Gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw adeg hyd at 31 Rhagfyr 2012.
(Ffynhonnell: Grants Online, Ebrill 10)

Cronfa’r trydydd sector yn ysbrydoli byw’n gynaliadwy
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn darparu cyllid sbarduno er mwyn i fudiadau’r trydydd sector roi prosiectau ar waith a fydd yn annog ac yn galluogi unigolion a chymunedau i feithrin ymddygiad mwy cynaliadwy yn y cyfnod sy’n arwain at Gemau Olympaidd a Gemau Paraolympaidd 2012. Mae mudiadau nad ydynt yn rhai llywodraethol na masnachol, ac sy’n cael eu llywio gan werth yn ail-fuddsoddi unrhyw wargedion ariannol er mwyn datblygu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol ymhellach yn gymwys i wneud cais.

Dylai prosiectau ddefnyddio cyllid sbarduno i ddechrau cyflawni a datblygu eu gallu i roi gweithgareddau ar waith a ddylai fod yn weithredol yn y cyfnod cyn Gemau Llundain 2012 a thu hwnt. Gellir cael rhagor o fanylion yma.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Ebrill 10)

Cynllun Grantiau Amgylchedd Cymru
Mae Amgylchedd Cymru yn bartneriaeth o fudiadau yn y sector gwirfoddol, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ei nod yw cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwy gefnogi ac annog gweithredu gwirfoddol i warchod ac i wella’r amgylchedd. Ar hyn o bryd, mae gan Amgylchedd Cymru y pum ffrwd grant canlynol sydd wedi’u cynllunio i helpu prosiectau ym mhob cam o’u datblygiad. Mae grwpiau gwirfoddol cymunedol a dielw sy’n cyflawni gwaith sy’n dangos gwelliant amgylcheddol ymarferol a datblygiad cynaliadwy yng Nghymru yn gymwys i wneud cais. Gellir gwneud cais unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Ebrill 10)

Ymddiriedolaeth Lles Anifeiliaid Jean Sainsbury
Mae Ymddiriedolaeth Lles Anifeiliaid Jean Sainsbury yn dyfarnu grantiau i sefydliadau yn y DU sy’n gysylltiedig â gwaith: sydd o fudd i anifeiliaid neu’n eu gwarchod; yn cynorthwyo anifeiliaid rhag dioddefaint; yn gwarchod bywyd gwyllt; ac yn annog dealltwriaeth o anifeiliaid. Mae grantiau o rhwng £1,000 a £10,000 ar gael i elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU ac sy’n gysylltiedig â phrosiectau lles anifeiliaid. Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg.

Grantiau One Planet Living B & Q
Mae Grant One Planet Living B&Q (OPL) yn cynnig rhwng £50 a £250 o ddefnyddiau B&Q i ysgolion, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol ar gyfer prosiectau cynaliadwy tymor hir. Rhaid i’r prosiectau ymwneud ag o leiaf un o’r themâu canlynol: arbed ynni; cadwraeth natur, tyfu eich cynnyrch eich hun; hybu diwylliant a threftadaeth leol. Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan ysgolion, mudiad elusennol cofrestredig neu grŵp cymunedol cydnabyddedig arall, e.e. cymdeithas preswylwyr, canolfannau ieuenctid, sgowtiaid, geidiaid. Gall prosiectau wneud cais am grant rhwng 1 Chwefror a 30 Medi 2010 a rhaid i’r prosiectau llwyddiannus gasglu eu defnyddiau erbyn 31 Hydref 2010. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gysylltu â hyrwyddwr amgylcheddol neu reolwr eu siop B&Q leol i drafod manylion y prosiect. Mae manylion pellach ar gael yma.
(Ffynhonnell: cylchlythyr Fit4Funding, Mawrth 2010)

Grantiau Grŵp Trefi Taclus
Mae’r prosiect Trefi Taclus yn grymuso pobl Cymru i dderbyn cyfrifoldeb am eu hamgylchedd lleol. Nod y cynllun Grantiau Grŵp yw sefydlu a datblygu grwpiau cymunedol ledled Cymru a fydd yn gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau lleol drwy fabwysiadu ardaloedd yn eu hamgylchedd lleol ac ymgymryd â phrosiectau gwella ymarferol. Gall grwpiau gwirfoddol llawr gwlad lleol a rhai cyfansoddiadol yng Nghymru wneud cais. Gellir gwneud cais unrhyw bryd a byddant yn cael eu hasesu yn y drefn y’u derbynnir.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Mawrth 10)

Ymddiriedolaeth Naturesave
Mae Ymddiriedolaeth Naturesave wedi cyhoeddi y bydd yn darparu cyllid sbarduno i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn awyddus i gynorthwyo cymunedau, yn enwedig rhai heb y cyfalaf cychwynnol i wneud y gwaith rhagarweiniol i gyrraedd y cam cynllunio, ac yn bwysicaf oll, i helpu’r gymuned i gadw cymaint o reolaeth â phosibl dros yr incwm gweithredol cyn gynted ag y bydd y prosiect yn llwyddo. Mae grantiau ar gael pa bynnag fath o ynni adnewyddadwy y mae’r gymuned yn ystyried ei gynhyrchu. Gellir gwneud cais unrhyw bryd.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Mawrth 10)

Ymddiriedolaeth Elusennol C
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol C yn dyfarnu grantiau i fudiadau gwirfoddol yn y DU sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys: prosiectau sydd o fudd i bobl ag anableddau corfforol neu feddyliol; cadwraeth adeiladau neu waith treftadaeth; ac amddiffyn yr amgylchedd. Dyfernir grantiau fel arfer i elusennau cofrestredig. Nid oes isafswm i’r grantiau a roddir ond bydd yr uchafswm fel arfer yn £5,000, er bod ceisiadau’n cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod a gellir dyfarnu symiau mwy mewn rhai amgylchiadau. Gellir gwneud cais unrhyw bryd.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Mawrth 10)

Cronfa Ynni Cynaliadwy E.On
Mae Cronfa Ynni Cynaliadwy E.ON, sy’n cefnogi prosiectau ynni cymunedol, wedi cyhoeddi dyddiadau cau newydd ar gyfer 2010. Gwahoddir grwpiau cymunedol, elusennau a mudiadau di-elw sy’n rhoi budd i grwpiau addysgol, pobl agored i niwed, neu bobl mewn tlodi tanwydd i wneud cais am grantiau gwerth hyd at £20,000, am hyd at 90 y cant o’r costau, i roi prosiectau ynni cynaliadwy ar waith mewn adeiladau cymunedol. Y dyddiadau cau newydd ar gyfer ceis yw 8 Hydref 2010.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)

Ymddiriedolaeth Dulverton
Mae Ymddiriedolaeth Dulverton yn rhoi cyllid grant i fudiadau elusennol yn y DU sy’n gweithio yn y meysydd canlynol: pobl ifanc ac addysg; lles cyffredinol, cadwraeth; gwarchodaeth; heddwch a chymorth dyngarol; Affrica. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig dau fath o grant:

  • Grantiau Mawr heb derfyn penodol - sydd ar gael i elusennau gyda llai na £50 miliwn o incwm blynyddol ac sy'n gweithio'n genedlaethol neu ledled rhanbarthau daearyddol y DU.
  • Grantiau Bach hyd at £3,500 – sydd ar gael i elusennau llai gyda llai na £400,000 o incwm blynyddol sydd fel arfer yn gweithio ar lefel leol neu sirol.

Gellir gwneud cais unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)

WREN yn cyhoeddi'r dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau (y Deyrnas Unedig)
Mae WREN sy'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol, prosiectau treftadaeth a phrosiectau amgylcheddol mewn ardaloedd sy'n agos at safleoedd tirlenwi drwy roi grantiau ar gyfer prosiectau o'r fath wedi cyhoeddi'r dyddiadau ar gyfer ceisiadau cyntaf 2010. Mae arian ar gael drwy dair rhaglen grantiau: y rhaglen grantiau bach sy'n darparu grantiau rhwng £2,000 a £15,000 pan fydd cyfanswm cost y prosiect dan £50,000; Prif gynllun grantiau WREN sy'n cynnig rhwng £15,001 a £50,000 a'r Gronfa Gweithredu Bioamrywiaeth sy'n darparu rhwng £75,000 a £250,000 i wireddu prosiectau gwella bioamrywiaeth dan Amcan DA. Rhai o'r mudiadau sy'n gymwys i wneud cais am arian yw mudiadau amgylcheddol, grwpiau gwirfoddol, elusennau, mudiadau heb fryd ar wneud elw a grwpiau cymunedol.
(Ffynhonnell: Grantiau Ar-lein - cylchlythyr cyllido Ion 2010)

Cronfa grant Oes Y Dwl
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynnig cyfle i fudiadau cymunedol a mudiadau’r trydydd sector ddangos y ffilm – Oes y Dwl. Datblygwyd y ffilm hon gan grŵp bach o wneuthurwyr ffilm sy’n credu y dylai pawb glywed yr hyn a fydd yn digwydd i’n hinsawdd os na wnawn ni ymateb ar fyrder i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Mae rhagor o wybodaeth am y ffilm ar gael yn www.ageofstupid.com.

Newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf y mae’r byd yn ei wynebu. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ymroddedig i chwarae eu rhan i ymateb i’r her ac i sicrhau bod Cymru’n arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi newid yn yr hinsawdd a chanlyniadau hynny.

Rydym yn cynnig £250 i bob grŵp er mwyn iddynt drefnu dangos y ffilm. Mae’r arian hwn ar gael i dalu am logi lleoliad cymunedol, lluniaeth ysgafn a thrwydded ffilm ar gyfer ei dangos yn gyhoeddus (gofyniad cyfreithiol). Drwy ddangos y ffilm, rydym yn gobeithio y bydd yn atgyfnerthu'r negeseuon allweddol ynghylch newid yn yr hinsawdd, yn annog trafodaeth ac yn ysbrydoli grwpiau i newid ac i weithredu. Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, yna anfonwch am becyn ymgeisio sydd ar gael drwy ffonio Lein Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu drwy anfon e-bost at policy@wcva.org.uk.

Ychydig o arian sydd ac fe’i rhoddir ar sail y cyntaf i’r felin. Rhaid cynnal pob digwyddiad cyn diwedd mis Mawrth 2010.

Ymddiriedolaeth Elusennol G D
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi dewis blaenoriaethu ei grantiau yn y meysydd elusennol canlynol: lliniaru dioddefaint anifeiliaid; gwarchod yr amgylchedd; hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl; cynorthwyo pobl ddigartref. Mae’n well gan yr Ymddiriedolaeth gynorthwyo elusennau sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Elusennau er y bydd yn ystyried mudiadau eraill cyn belled â bod pwrpas y grant yn elusennol. Gellir cael rhagor o fanylion gan Ymddiriedolaeth Elusennol G D, 50 Broadway, San Steffan, Llundain, SW1H 0BL. Ffôn 020 7227 7000.

Conservation Foundation ac O2
Mae grantiau sy’n werth hyd at £1,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol amgylcheddol, er enghraifft trawsnewid tir diffaith yn ardal bywyd gwyllt / plannu coed / creu llyn ar gyfer bywyd gwyllt / adfer llwybrau sydd wedi cael eu hesgeuluso ger afonydd a chamlesi. Mae unigolion / grwpiau cymunedol / clybiau lleol neu ysgolion yn gymwys i ymgeisio. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus hefyd i anfon lluniau cyn/wedyn ar gyfer gwobr ‘da iawn’. Am ragor o fanylion ewch i: http://digbig.com/4xfrc

Sefydliad Grantiau Bach Rufford
Mae Sefydliad Grantiau Bach Rufford, sy’n cefnogi prosiectau cadwraeth bach a chynlluniau cadwraeth natur peilot y tu allan i’r byd cyntaf, wedi gwneud newidiadau i’w raglenni grant. Ni cheir Grantiau Arloesi mwyach: byddant yn cael eu disodli gan Grant Parhad a Grant Cwblhau ar gyfer prosiectau sydd wedi llwyddo i gwblhau prosiectau llai a ariannwyd gan y Sefydliad. Ceir gwybodaeth lawn am bob un o’r grantiau yn www.ruffordsmallgrants.org/rsg/criteria
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 3/9/09)

Cynllun grant Ôl troed Ecolegol
Cafodd cynllun grant i annog mwy o ddefnydd o dechnegau mesur ôl troed ecolegol ei lansio gyda’r nod o leihau ôl troed ecolegol Cymru. Bydd grantiau hyd at 75% o gyfanswm cost prosiectau a hyd at uchafswm o £5k y flwyddyn y mudiad ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio ar y ddolen hon: Y Cynllun Grant Ôl Troed Ecolegol.

Y Rhaglen Adeiladau Carbon Isel
Caiff y cynllun grant hwn ei redeg gan Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio, ac mae ar agor i fudiadau cymunedol a mudiadau di-elw. Ei fwriad yw cynyddu nifer yr adeiladau carbon isel a’r grantiau sydd ar gael er mwyn gosod amrywiol dechnolegau microgynhyrchu mewn adeiladau parhaol. Gall mudiadau wneud cais am 50 y cant o gost gosod technolegau microgynhyrchu sydd wedi’u cymeradwyo. Mae arian ar gael ar hyn o bryd, er nad yw pob technoleg wedi’i chynnwys. Cefnogir systemau ffotofoltaig solar yn llawn.
Dylai unigolion wneud cais i Phase 1
Dylai grwpiau wneud cais i Phase 2
Roedd bwriad i gau’r cynllun hwn ddiwedd Mehefin 2009, ond bellach mae wedi cael arian ychwanegol hyd Ebrill 2011.

Cronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru
Mae Cronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru yn mynd i’r afael â’r costau amgylcheddol sydd ynghlwm wrth gloddio agregau. Yng Nghymru, defnyddir y gronfa i fynd i’r afael â’r problemau canlynol: gwaddol hen hawliau ar gyfer gwaith mwynau; hyrwyddo’r defnydd o ddeunyddiau amgen i agregau; lleihau effaith echdynnu agregau; budd i gymunedau yr effeithir arnynt gan echdynnu agregau o ran mwynderau ac o ran yr amgylchedd; gwarchod safleoedd o ddiddordeb arbennig; a phrosiectau addysg.

Sefydliad Elusennol Bernard Sunley
Mae’r Sefydliad yn rhoi grantiau i rai mewn amryw o gategorïau gan gynnwys: addysg; ieuenctid; y gymuned; yr amgylchedd/cadwraeth; iechyd a lles. Fel arfer, rhoddir grantiau sydd rhwng £200 a £5,000. Rhoddir grantiau i elusennau cofrestredig yn unig, gan gynnwys ysgolion yn y DU. Nid oes ffurflen gais – dylid cyflwyno pob cais ar ffurf llythyr esboniadol i’r Cyfarwyddwr. Gellir cael rhagor o fanylion yn Bernard Sunley Charitable Foundation, 20 Berkley Square, Llundain W1J 6LH. Ffôn: 020 7408 2198, ffacs: 020 7499 5859, ebost office@sunleyfoundation.com.

Cynllun Busnes Ynni Pren 2
Mae’r Cynllun Busnes Ynni Pren 2 (WEBS 2) yn gynllun grant cyfalaf newydd gwerth miliynau o bunnoedd i Gymru, sy’n derbyn ei arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a bydd yn rhedeg tan 2013. Ei brif nod yw darparu cymorth grant cyfalaf i fusnesau micro, busnesau bach a chanolog a mentrau cymdeithasol i ddatblygu ymhellach y farchnad gwres pren gynaliadwy ac adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cynorthwyo busnesau i osod systemau gwresogi tanwydd pren a thechnolegau Gwresogi a Phŵer Cyfunol. Gellir gwneud cais ar unrhyw adeg.

Ymddiriedolaeth Elusennol Helen & Geoffrey De Freitas
Rhoddir grantiau ar gyfer prosiectau yn y meysydd canlynol: i helpu cadwraeth cefn gwlad ac amgylchedd Prydain; i ddiogelu treftadaeth Prydain; ac i gynorthwyo pobl ddifreintiedig trwy gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, canolfannau cynghori a chelfyddydau cymunedol a hamdden. Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig at: Ms F de Freitas, Helen & Geoffrey De Freitas Charitable Trust, 6 New Street, Llundain EC4A 3BF.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)

Sefydliad Waterloo
Mae’r Sefydliad yn ymddiddori mewn prosiectau sy’n helpu ar raddfa fyd-eang, yn enwedig mewn meysydd sy’n ymdrin ag anghydraddoldeb cyfoeth a materion hinsawdd. Ei nod yw cynorthwyo’r gymuned fyd-eang a’r gymuned leol yng Nghymru trwy gyfrwng y pedair prif raglen ganlynol: datblygiad byd; datblygiad plant, yr amgylchedd a phrosiectau yng Nghymru.

Ymddiriedolaeth Elusennol P F
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo amrywiaeth eang o achosion elusennol yn y DU, gan gynnwys: atal tlodi; hyrwyddo – tlodi, addysg, crefydd, iechyd neu arbed bywydau, dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol, y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth, chwaraeon amatur, hawliau dynol, datrys gwrthdaro neu gymodi, neu hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb neu amrywiaeth, amddiffyn neu wella’r amgylchedd; cymorth i rai mewn angen oherwydd ieuenctid, henaint, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall. Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig ynghyd â gwybodaeth lawn i D Pocknee, Secretary, P F Charitable Trust, c/o R F Trustee Co Ltd, Ely House, 37 Dover Street, Llundain WIS 4NJ. Ffôn 020 7409 5685.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)

Ymgyrch ‘Gweithredu dros y Ddaear’
Mae ‘Gweithredu dros y Ddaear’ yn ymgyrch amgylcheddol pum mis o hyd a redir gan CSV (Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol a thrwy nawdd gan Archfarchnadoedd Morrisons). Beth sydd angen ei wneud yn eich ardal chi? Mae grantiau mawr neu fach ar gael i gynorthwyo i brynu offer, cyfarpar a deunyddiau a all wneud gwahaniaeth i’ch prosiect. Mae’r ymgyrch yn rhedeg hyd ddiwedd Gorffennaf, ond cyfyngedig yw’r grantiau, felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno cais yn fuan.