Ffydd

Sefydliad Elusennol Maurice Wohl
Mae nodau’r sefydliad yn eang, er rhoddir pwyslais penodol ar achosion sy’n cefnogi’r meysydd canlynol: lles plant, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt (gan gynnwys addysg); hybu iechyd, lles a datblygu gwasanaethau meddygol; lliniaru tlodi, angen a thrallod; lles pobl oedrannus, pobl fethedig, pobl dan anfantais a phobl anabl, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt; a chefnogaeth i’r celfyddydau. Bydd y sefydliad hefyd yn ystyried rhoi nifer fach o gyfraniadau ariannol sylweddol i achosion teilwng sy’n dod o dan ei feysydd blaenoriaeth. Mae rhagor o fanylion ar gael gan Diane Morgan, ffôn 020 7383 5111.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 98)

Ymddiriedolaeth Archer
Mae’r ymddiriedolaeth yn rhoi grantiau’n ymwneud â’r nodau canlynol: lleddfu dioddefaint ymhlith pobl dlawd; datblygu addysg; hybu’r Grefydd Gristnogol; ac unrhyw amcanion elusennol eraill sy’n addas ym marn ymddiriedolwyr. Mae’n well gan yr Ymddiriedolaeth gefnogi mudiadau sy’n gweithio mewn meysydd lle mae lefel uchel o ddiweithdra ac amddifadedd. Mae’n ffafrio elusennau sy’n gwneud defnydd rhagorol o wirfoddolwyr yn eu gwaith. Rhoddir cefnogaeth i elusennau bach y DU a fyddai’n elwa’n fawr iawn o grant rhwng £250 a £3,000; neu fudiadau sy’n rhoi cymorth neu gefnogaeth i grwpiau o bobl anghenus neu bobl sy’n haeddu cael cymorth. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.archertrust.org.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 98)

Sefydliad Raskob
Mae Sefydliad Raskob, sydd wedi’i leoli yn UDA, yn Fudiad Teuluol Catholig sy’n sicrhau bod grantiau ar gael i brosiectau cysylltiedig â’r Eglwys Gatholig yn rhyngwladol yn ogystal ag yn UDA. Mae’n derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer prosiectau hunangymorth a lleol gyda chysylltiadau ag esgobaethau Catholig, ysbytai Catholig neu gynulleidfaoedd crefyddol Catholig y tu allan i UDA. Mae’r grantiau’n tueddu i fod rhwng $5,000 a $15,000. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein. Ceir dau gyfle i ymgeisio bob blwyddyn. Mae’r cyfle presennol yn agored tan 8 Awst 2010. Bydd y cyfle nesaf rhwng 8 Rhagfyr 2010 ac 8 Chwefror 2011.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 17/6/10)

Cynllun grant Mae Cynnal a Chadw Cymru yn Bwysig! ar gael ar gyfer mannau addoli rhestredig yng Nghymru
Enwadau unigol sy’n gyfrifol am gynnal a chadw mannau addoli. Fodd bynnag, fel sydd wedi digwydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf, gall Cadw helpu gyda’r dasg hon drwy’r cynllun grant Mae Cynnal a Chadw yn bwysig! - a elwid gynt yn gynllun grant Glanhau Gwanwynol - sy’n cynnig cymorth ar gyfer cynnal a chadw mannau addoli rhestredig yng Nghymru. Mae uchafswm grant o hyd at £500 ar gael i bob adeilad ar gyfer amrywiaeth o waith atgyweirio syml, sy’n angenrheidiol er mwyn cadw mannau addoli mewn cyflwr da. Derbynnir ceisiadau o 1 Ebrill 2010 ymlaen am gyfnod o chwe mis, neu nes bydd y gyllideb wedi dod i ben, pa bynnag un a fydd yn digwydd gyntaf. Mae’r gyllideb ar gyfer 2010-11 yn £120,000. Rhaid hawlio grantiau erbyn 31 Rhagfyr 2010. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.cynnalachadwcymru.org neu drwy ffonio’r tîm grantiau adeiladau hanesyddol ar 01443 336000.

Yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol
Mae’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn darparu cyllid grant blynyddol gwerth £2 filiwn ar gyfer adnewyddu a moderneiddio mannau addoli yn y DU ar draws tair rhaglen gyllido ar wahân:

  • Mae’r Rhaglen Conglfaen yn cynnig grantiau gwerth o leiaf £40,000 tuag at brosiectau atgyweirio mawr sy’n mynd i gostio dros £50,000 yn ôl yr amcangyfrifon.
  • Mae’r Rhaglen Sylfaen yn cynnig grantiau gwerth rhwng £2,500 a £39,000 ar gyfer atgyweirio strwythurol.
  • Mae’r Rhaglen Gymunedol yn dyfarnu grantiau gwerth rhwng £2,500 a £25,000 er mwyn gosod cyfleusterau newydd a gwneud unrhyw waith angenrheidiol er mwyn sicrhau mynediad i’r adeilad a’r gweithgareddau ynddo.

Bydd yr ymddiriedolaeth yn ystyried ceisiadau gan fannau addoli rhestredig a heb eu rhestru yn y DU sydd ar agor i’r cyhoedd addoli ynddynt yn rheolaidd a lle mae’r gynulleidfa yn aelod neu’n aelod cyswllt o Cytun (Churches Together) ym Mhrydain ac Iwerddon. Gellir gwneud cais ar unrhyw adeg.

Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer
Defnyddir y grantiau i gefnogi ystod eang iawn o achosion da, gan gynnwys: plant; pobl ifanc; yr henoed a phobl fethedig; ysbytai a chartrefi; pobl ddall a phobl fyddar; pobl anabl; pobl dan anfantais meddwl; ymchwil feddygol ac ymchwil arall; dibenion morol; y lluoedd arfog; mudiadau gofalu; mudiadau gwirfoddol a chronfeydd ac ymddiriedolaethau eraill, ysgolion a cholegau; gweithgareddau hamdden; anifeiliaid a bywyd gwyllt; a chyrff crefyddol. I gael manylion ymgeisio cysylltwch ag ysgrifenyddion yr ymddiriedolaeth: Ward Hadaway, Sandgate House, 102 Quayside, Newcastle upon Tyne NE1 3DX.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 92)

Porticus UK/Ymddiriedolaeth Waterside
Mae Ymddiriedolaeth Waterside/Porticus UK yn gwahodd ceisiadau gan fudiadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sydd am gryfhau'r berthynas ymhlith teuluoedd, cyfoethogi addysg a hyrwyddo moeseg a dysg gymdeithasol yr Eglwys Gatholig yn ymarferol. Er bod y ffydd Gatholig yn ganolog i waith yr Ymddiriedolaeth, a bod rôl y gwŷr lleyg yn flaenoriaeth benodol, derbynnir ceisiadau gan fudiadau o unrhyw ffydd, neu fudiadau di-ffydd. Mae’r grantiau’n tueddu i amrywio o £10,000 i £25,000. Mae gan y rhaglen bedwar maes: cryfhau gwerthoedd teuluoedd; cyfoethogi addysg; trawsnewid drwy ffydd; a moeseg ymarferol. Derbynnir ceisiadau fel y cyrhaeddant. Mae gwybodaeth am ymgeisio ar gael yma.

Grŵp Ymddiriedolaeth Joshua
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi mudiadau crefyddol, sefydliadau addysg uwch a phellach a sefydliadau sy’n gofalu am y gwael a’r tlawd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi mudiadau o’r Deyrnas Unedig a thramor. Mae rhagor o fanylion ar gael oddi wrth R Grussgott, ffôn 020 8238 2888, e-bost info@shearsandpartners.co.uk.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)

Ymddiriedolaeth Elusennol P F
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo amrywiaeth eang o achosion elusennol yn y DU, gan gynnwys: atal tlodi; hyrwyddo – tlodi, addysg, crefydd, iechyd neu arbed bywydau, dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol, y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth, chwaraeon amatur, hawliau dynol, datrys gwrthdaro neu gymodi, neu hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb neu amrywiaeth, amddiffyn neu wella’r amgylchedd; cymorth i rai mewn angen oherwydd ieuenctid, henaint, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall. Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig ynghyd â gwybodaeth lawn i D Pocknee, Secretary, P F Charitable Trust, c/o R F Trustee Co Ltd, Ely House, 37 Dover Street, Llundain WIS 4NJ. Ffôn 020 7409 5685.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)