Diben cyffredinol

Gwobrau Cenedlaethol e-Lywodraeth
Gan roi sylw i un ar ddeg categori, mae Gwobrau Cenedlaethol e-Lywodraeth yn cydnabod timau a sefydliadau sy’n defnyddio rhagoriaeth ac arloesedd technolegol yn y ffordd maent yn cyfathrebu â dinasyddion a busnesau ac yn rhyngweithio gyda hwy. Mae’r Gwobrau’n agored i sefydliadau mewn Llywodraeth leol a chenedlaethol, y GIG, addysg a’r trydydd sector. Y dyddiad cau i geisiadau yw 6 Hydref.
(Ffynhonnell: Latest Awards News, 30/7/10)

Gwobrau busnes cyflawniad Cymru y Daily Post
Gan ddathlu rhagoriaeth mewn busnesau o bob maint ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, mae cylch 2010 y cynllun hwn wedi agor yn ddiweddar i geisiadau. Bwriad y gwobrau yw amlygu’r ystod eang o gwmnïau ffyniannus a dynamig sy’n cyfrannu at lwyddiant economi’r rhanbarth. Bydd deng gwobr yn cael eu cyflwyno, i gydnabod y busnes cychwynnol gorau, y cwmni bach gorau, y cwmni canolig gorau, y cwmni allforio gorau, y busnes twristiaeth gorau, busnes y flwyddyn, person busnes y flwyddyn, y busnes gorau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, y busnes sy’n fwyaf ymwybodol o’r amgylchedd, a’r busnes mwyaf datblygedig yn dechnolegol. Y dyddiad cau i geisiadau yw 29 Medi 2010.
(Grantfinder Newsflash, 29/7/10)

Gwobrau Ashden
Mae Gwobrau Ashden 2011 yn gwahodd ceisiadau gan fusnesau, awdurdodau lleol ac elusennau unrhyw le yn y DU. Bydd chwe Gwobr yn y DU i gyd, a’r enillydd cyffredinol yn cael £20,000 a’r pump arall yn cael £10,000 yr un. Bydd y pwyslais ar y manteision a ddaw yn sgil ynni cynaliadwy yn hytrach na’r dechnoleg a ddefnyddir. Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer gwaith cyfan y sefydliad neu ran benodol o’r gwaith. Mae’n rhaid i brosiectau fod yn cyflenwi ynni cynaliadwy ar raddfa a lefel leol. Y dyddiad cau yw 26 Hydref. Am ragor o wybodaeth ewch i www.ashdenawards.org/uk_apply
(Ffynhonnell: Latest Awards News, 30/7/10)

Gwobrau Cymunedol Kerrygold
Eisiau cael gwybod beth yw barn y cyhoedd ym Mhrydain am eich gwaith? Os felly, beth am gymryd rhan yng Ngwobrau Cymunedol Kerrygold? Bydd yr enillwyr yn derbyn hyd at £2,000. Mae’r dyfarniadau’n agored i unrhyw brosiect lleol yn y DU sydd â’i staff yn aelodau o’r gymuned honno. Y peth mwyaf diddorol ymhlith y gofynion yw na ddylai’r prosiectau fod ynghlwm wrth elusennau cofrestredig cenedlaethol. Rhennir y prosiectau’n gategorïau: y celfyddydau; chwaraeon a lles; helpu eraill; adfywio ardal, natur a’r amgylchedd; byw cynaliadwy; sgiliau addysgu; annog ymgynnull cymunedol; arall. Mae’r gwobrau’n agored i brosiectau cymunedol yn y DU sy'n ceisio helpu'r gymuned yn union o'u hamgylch ac sydd â'u staff yn aelodau o'r gymuned honno. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.kerrygoldcommunityawards.co.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 16/7/10)

Cronfa Cynnwys Newyddion ITV Cymru
Bydd Cronfa Cynnwys Newyddion ITV Cymru’n dod â’ch syniadau am straeon yn fyw. Maent eisiau cyllido grwpiau cymunedol, myfyrwyr, gwneuthurwyr ffilmiau unigol, newyddiadurwyr llawrydd ac eraill i ddangos eu straeon a’u syniadau ar Newyddion ITV Cymru. Maent eisiau clywed gan wahanol leisiau a fydd yn cynnig persbectif newydd i’w sylw i newyddion Cymru. Dylech gyflwyno crynodeb byr yn egluro eich stori. Dylech e-bostio hwn at Sue Williams ar sue.williams@itvwales.com. Yn arbennig, dylech fod yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru eisoes – ac egluro wrth ITV Cymru pa elfennau o’ch stori sy’n newydd.

Maent yn chwilio am straeon sy'n dathlu pobl, diwylliant a thirlun Cymru, a gefnogir gan ymchwiliadau, newyddion egsgliwsif a mynediad unigryw. Cofiwch fod gan ITV Cymru dimau casglu newyddion, materion cyhoeddus a rhaglennu cyffredinol mewnol sylweddol - felly peidiwch â chynnig straeon sy’n debygol o gael sylw gwell a chyflymach gan eu timau mewnol. Unwaith y bydd ganddynt ddiddordeb yn eich stori, byddant yn trefnu cyfarfod wyneb-yn-wyneb.

Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh
Amcan yr ymddiriedolaeth yw cefnogi sefydliadau elusennol cyffredinol. Mae’r achosion a gefnogir gan yr ymddiriedolaeth fel arfer yn dod dan y categorïau canlynol: lles cymdeithasol; llenyddiaeth, celfyddydau a threftadaeth; achosion amgylcheddol; cadwraeth a lles anifeiliaid; gofal iechyd ac ymchwil feddygol; addysg a hyfforddiant; amrywiol; ac apeliadau dramor. Dim ond i elusennau cofrestredig sy’n brofiadol yn eu maes gwaith y rhoddir grantiau a rhoddir ystyriaeth benodol i elusennau sy’n rhoi pwyslais ar Gristnogaeth. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.marshchristiantrust.org.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)

Ymddiriedolaeth Elusennol D’Oyly Carte
Nod yr Ymddiriedolaeth yw cefnogi achosion elusennol cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau, lles meddygol a’r amgylchedd ac fe’i hanelir at elusennau y bydd cyfraniad yr ymddiriedolaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr iddynt. Mae rhagor o fanylion ar gael gan Jane K Thorne, ffôn 020 7420 2600.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 101)

Ymddiriedolaeth Beatrice Laing
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau yn y categorïau canlynol: plant ac ieuenctid – lles plant, addysg, datblygu ieuenctid; iechyd a meddyginiaeth – caethiwed/ailsefydlu, anabledd/anfantais gorfforol, gwasanaethau brys, ymchwil a lles meddygol, iechyd meddwl/anfantais feddyliol; cymorth dramor – prosiectau datblygu, prosiectau cymorth; crefydd – gwaith maes, crefydd: cartref, crefydd: unigolion, crefydd: tramor; a lles cymdeithasol – lluoedd arfog, prosiectau cymunedol, gostwng lefelau troseddu/lles carchar, yr henoed, tai, prosiectau lles. Gellir cael mwy o fanylion gan Elizabeth A Harley, Gweinyddwr, ffôn 020 8238 8890.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)

Cronfa Integreiddio Ewrop
Nod y rhaglen hon yw rhoi cefnogaeth i ddinasyddion o’r trydydd gwledydd sydd newydd gyrraedd y DU i integreiddio yno. Mae hyd at £6.4 miliwn ar gael i gefnogi prosiectau sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf 2010 neu’n fuan ar ôl hynny. Gellir gwneud cais am isafswm grant o £40,000 y flwyddyn, a fel arfer bydd costau’n cael eu cynnwys ar gyfradd o 50 y cant (er y gellir cael cyfran uwch i hyd at 75 y cant mewn rhai amgylchiadau penodol).

Mae’r ddau weithgaredd a dargedir yn benodol dan yr Alwad hon fel a ganlyn:

  • Datblygu rhaglenni a gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at gyflwyno dinasyddion o’r trydydd gwledydd sydd newydd gyrraedd y Deyrnas Unedig, a’u galluogi i gael gwybodaeth sylfaenol am iaith, hanes, sefydliadau, nodweddion cymdeithasol economaidd, bywyd diwylliannol a normau a gwerthoedd sylfaenol y DU, gan gyfrannu at raglenni a gweithgareddau presennol.
  • Paratoi dinasyddion y trydydd gwledydd ar gyfer integreiddio yn well yn y Deyrnas Unedig drwy gefnogi mesurau cyn teithio sy’n eu galluogi i gael yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer integreiddio, megis hyfforddiant galwedigaethol, pecynnau gwybodaeth, cyrsiau cyfeiriadu dinesig cynhwysfawr a hyfforddiant iaith yn eu mamwlad.

Mae ymgeiswyr cymwys yn cynnwys cyrff anllywodraethol, elusennau, sefydliadau academaidd, llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, mudiadau rhynglywodraethol, cwmnïau cyfyngedig ac unrhyw bartneriaeth sy’n ffurfio’r mudiadau hyn.

Dylid targedu pob cynnig a phrosiect at ddinasyddion sydd newydd gyrraedd y DU o un o’r trydydd gwledydd ac sydd wedi bod yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU am lai na phum mlynedd neu ddinasyddion y trydydd gwledydd sydd ar diriogaeth un o’r trydydd gwledydd ac sydd wedi cael fisa mewn categori a allai arwain at ymsefydlu yn y DU.

Ymddiriedolaeth Lles Anifeiliaid Jean Sainsbury
Mae Ymddiriedolaeth Lles Anifeiliaid Jean Sainsbury yn dyfarnu grantiau i sefydliadau yn y DU sy’n gysylltiedig â gwaith: sydd o fudd i anifeiliaid neu’n eu gwarchod; yn cynorthwyo anifeiliaid rhag dioddefaint; yn gwarchod bywyd gwyllt; ac yn annog dealltwriaeth o anifeiliaid. Mae grantiau o rhwng £1,000 a £10,000 ar gael i elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU ac sy’n gysylltiedig â phrosiectau lles anifeiliaid. Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg.

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo – Rhaglen Bontio
Mae’r rhaglen hon yn cynnig i grwpiau gwirfoddol a chymunedol mewn cyn gymunedau glo y cyfle i ymgeisio am grant o hyd at £5,000. Rhaid i’r grwpiau fod yn ymateb i angen lleol neu’n rhoi sylw i faterion allweddol megis diweithdra, unigedd, sgiliau, datblygu sector a chynaliadwyedd. Mae grantiau mwy ar gael i sefydliadau statudol, cymunedol a gwirfoddol mwy. Mae manylion pellach ar gael oddi wrth Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, Part Unit 7, Maritime Office, Woodland Terrace, Maes-y-coed, Pontypridd CF37 1DZ. Ffôn 01443 404455 neu ymwelwch â www.coalfields-regen.org.uk/default.asp.
(Ffynhonnell: YWS Bulletin, Chwe 10)

Grantiau Comic Relief UK
Bu rhywfaint o newidiadau i ddyddiadau cau ar gyfer ceisiadau i raglen grantiau Comic Relief UK. Mae’r blaenoriaethau’n ymdrin â phobl ifanc y cam-fanteisir arnynt yn rhywiol ac sy’n cael eu masnachu, alcohol a phobl ifanc, sicrhau newid drwy chwaraeon, cam-drin domestig a rhywiol a phobl ifanc, menywod sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches, iechyd meddwl, ac iechyd meddwl a phobl ifanc. Nid yw manylion y rhaglenni i gefnogi pobl hŷn a gofalwyr ifanc wedi eu cyhoeddi eto. Fe’ch anogir i wneud cais pan fyddwch yn barod, ond ystyrir ceisiadau ar amseroedd penodedig.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 18/11/09)

Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer
Defnyddir y grantiau i gefnogi ystod eang iawn o achosion da, gan gynnwys: plant; pobl ifanc; yr henoed a phobl fethedig; ysbytai a chartrefi; pobl ddall a phobl fyddar; pobl anabl; pobl dan anfantais meddwl; ymchwil feddygol ac ymchwil arall; dibenion morol; y lluoedd arfog; mudiadau gofalu; mudiadau gwirfoddol a chronfeydd ac ymddiriedolaethau eraill, ysgolion a cholegau; gweithgareddau hamdden; anifeiliaid a bywyd gwyllt; a chyrff crefyddol. I gael manylion ymgeisio cysylltwch ag ysgrifenyddion yr ymddiriedolaeth: Ward Hadaway, Sandgate House, 102 Quayside, Newcastle upon Tyne NE1 3DX.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 92)

Ymddiriedolaeth Elusennol G D
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi dewis blaenoriaethu ei grantiau yn y meysydd elusennol canlynol: lliniaru dioddefaint anifeiliaid; gwarchod yr amgylchedd; hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl; cynorthwyo pobl ddigartref. Mae’n well gan yr Ymddiriedolaeth gynorthwyo elusennau sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Elusennau er y bydd yn ystyried mudiadau eraill cyn belled â bod pwrpas y grant yn elusennol. Gellir cael rhagor o fanylion gan Ymddiriedolaeth Elusennol G D, 50 Broadway, San Steffan, Llundain, SW1H 0BL. Ffôn 020 7227 7000.

Sefydliad Bill a Melinda Gates yn lansio cronfa buddsoddiad cymdeithasol
Mae elusennau yn y Deyrnas Unedig ymhlith y rheiny sy’n gymwys i ymgeisio am fenthyciadau a buddsoddiad gan ymddiriedolaeth ddyngarol fwyaf y byd - Sefydliad Bill a Melinda Gates [Saesneg yn unig]. Mae’r Sefydliad wedi lansio cronfa buddsoddiad cymdeithasol werth $400m (£252m) a fydd yn cynnig cyllid benthyg, tansgrifeniad a buddsoddiadau ecwiti ar gyfer mudiadau nid-er-elw a busnesau sydd â phwrpas cymdeithasol. Dywedodd y sefydliad, ymddiriedolaeth ddyngarol fwyaf y byd, ei bod am wneud ei harian mor effeithiol â phosib yn wyneb lleihad yng ngwerth marchnadoedd ecwiti sydd, fe gredir, wedi tocio 20 y cant oddi ar werth ei waddol. Bydd y sefydliad yn rhedeg peilot dwy i dair blynedd, ac wedi hynny, gallai gynyddu swm yr arian sydd ar gael ar gyfer buddsoddi cymdeithasol.
(Ffynhonnell: Trydydd Sector Ar-lein, 2/10/09)

Porticus UK/Ymddiriedolaeth Waterside
Mae Ymddiriedolaeth Waterside/Porticus UK yn gwahodd ceisiadau gan fudiadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sydd am gryfhau'r berthynas ymhlith teuluoedd, cyfoethogi addysg a hyrwyddo moeseg a dysg gymdeithasol yr Eglwys Gatholig yn ymarferol. Er bod y ffydd Gatholig yn ganolog i waith yr Ymddiriedolaeth, a bod rôl y gwŷr lleyg yn flaenoriaeth benodol, derbynnir ceisiadau gan fudiadau o unrhyw ffydd, neu fudiadau di-ffydd. Mae’r grantiau’n tueddu i amrywio o £10,000 i £25,000. Mae gan y rhaglen bedwar maes: cryfhau gwerthoedd teuluoedd; cyfoethogi addysg; trawsnewid drwy ffydd; a moeseg ymarferol. Derbynnir ceisiadau fel y cyrhaeddant. Mae gwybodaeth am ymgeisio ar gael yma.

Cronfa Fuddsoddi Leol De-ddwyrain Cymru (LIF) Cymru De-ddwyrain Cymru
Cynllun grant hyblyg yw Cronfa Fuddsoddi Leol De-ddwyrain Cymru (CFL) sy’n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth awdurdodau leol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen. Diben penodol y Gronfa Fuddsoddi Leol yw cefnogi ystod o Fusnesau Bach a Chanolig (BBChau). Bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos bod cyfran sylweddol o’u gweithgaredd yn cael ei gyflawni o fusnes i fusnes a bod ganddynt allu i ‘ychwanegu gwerth’ neu gynnig budd sylweddol i’r economi leol. Y yw eich busnes yn Rhondda Cynon Taf cysylltwch a’r Uned Cymorth Busnes ar 01433 495169 neu e-bostio invest@rctcbc.gov.uk. A yw eich busnes mewn rhan arall o Dde-ddwyrain Cymru cysylltwch a’ch adwdurdod lleol chi.

Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol
Ers Jiwbili Aur Ei Mawrhydi, mae’r Frenhines wedi cyflwyno’r wobr genedlaethol fawreddog hon i gannoedd o grwpiau gwirfoddoli yn y DU. Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol gyfwerth â’r MBE ac mae’n cydnabod y cyfraniad neilltuol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu cymunedau lleol. Os gwyddoch am grŵp gwirfoddoli sy’n rhoi o’i amser i helpu eraill yn eich cymuned leol ac sy’n haeddu cydnabyddiaeth, enwebwch ef am wobr. Mae enwebu’n hawdd: ewch i www.queensawardvoluntary.gov.uk, ebost queensaward@consol.co.uk, neu ffoniwch 020 7781 2397.

Sefydliad Elusennol Bernard Sunley
Mae’r Sefydliad yn rhoi grantiau i rai mewn amryw o gategorïau gan gynnwys: addysg; ieuenctid; y gymuned; yr amgylchedd/cadwraeth; iechyd a lles. Fel arfer, rhoddir grantiau sydd rhwng £200 a £5,000. Rhoddir grantiau i elusennau cofrestredig yn unig, gan gynnwys ysgolion yn y DU. Nid oes ffurflen gais – dylid cyflwyno pob cais ar ffurf llythyr esboniadol i’r Cyfarwyddwr. Gellir cael rhagor o fanylion yn Bernard Sunley Charitable Foundation, 20 Berkley Square, Llundain W1J 6LH. Ffôn: 020 7408 2198, ffacs: 020 7499 5859, ebost office@sunleyfoundation.com.

Meini prawf ariannu newydd gan Sefydliad y Nationwide
Mae Sefydliad y Nationwide wedi cyhoeddi meini prawf ariannu newydd ar gyfer elusennau cofrestredig yn y DU. Bydd ei raglenni grant newydd Money Matters a Homes Matter yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau tai ac allgau ariannol. O dan y rhaglen bydd y Sefydliad yn dyrannu grantiau i elusennau cofrestredig sy’n: mynd i’r afael ag allgau ariannol, sy’n effeithio ar grwpiau difreintiedig yn y DU; sy’n rhoi sylw i faterion tai a digartrefedd ymhlith grwpiau agored i niwed yn y DU. Mae Rhaglen Grantiau Bach y Sefydliad hefyd yn derbyn ceisiadau. Mae’n dyrannu grantiau’n barhaus sy’n werth hyd at £5,000 i elusennau cofrestredig ag incwm o dan £500,000.
(Ffynhonnell: UK Fundraising News – Rhif 242)

Ymddiriedolaeth Tudor
Mae Ymddiriedolaeth Tudor wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n berthnasol i'r cyfnod rhwng Ebrill 2009 a Mawrth 2011. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio ar draws y DU gan ddelio ag amrywiaeth o faterion: pobl ifanc; pobl hŷn; anghenion y gymuned; creu a chynnal perthynas; tai; iechyd meddwl; camddefnyddio sylweddau; dysgu; sicrwydd ariannol; cyfiawnder troseddol. Mae dau gam i’r broses o wneud cais. Mae ceisiadau cam-cyntaf yn cael eu prosesu fel maent yn cyrraedd. Mae'r canllawiau llawn ar gael yma.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 1 Ebrill 09)

Arian i Bawb — Cymru
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru wedi lansio rhaglen Arian i Bawb newydd gwerth £2.4 miliwn. Mae grantiau rhwng £500 a £5,000 ar gael i grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a chynghorau cymuned neu dref, ysgolion a chyrff iechyd ledled Cymru.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 6 Ebrill 09)

Sefydliad Sobell
Bydd y Sefydliad yn cefnogi ceisiadau gan elusennau cofrestredig sy’n gweithio yn y meysydd canlynol: gofal a thriniaeth feddygol, gan gynnwys gofal seibiant a hosbisau; gofal i oedolion a phlant ag anableddau corfforol a meddyliol; addysg a hyfforddiant i oedolion a phlant ag anableddau corfforol a dysgu; gofal a chefnogaeth i bobl hŷn; gofal a chefnogaeth i blant; digartrefedd. Mae manylion pellach ar gael yn www.sobellfoundation.org.uk neu e-bostiwch enquiries@sobellfoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)

Ymddiriedolaeth Elusennol P F
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo amrywiaeth eang o achosion elusennol yn y DU, gan gynnwys: atal tlodi; hyrwyddo – tlodi, addysg, crefydd, iechyd neu arbed bywydau, dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol, y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth, chwaraeon amatur, hawliau dynol, datrys gwrthdaro neu gymodi, neu hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb neu amrywiaeth, amddiffyn neu wella’r amgylchedd; cymorth i rai mewn angen oherwydd ieuenctid, henaint, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall. Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig ynghyd â gwybodaeth lawn i D Pocknee, Secretary, P F Charitable Trust, c/o R F Trustee Co Ltd, Ely House, 37 Dover Street, Llundain WIS 4NJ. Ffôn 020 7409 5685.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)

Elusen Margaret Davies
Mae mudiadau elusennol cofrestredig, sy’n gweithio er budd pobl Cymru, yn cael eu cefnogi yn y meysydd canlynol: y celfyddydau gweledol; y celfyddydau perfformio; addysg; iechyd a gofal cymdeithasol a darpariaeth i bobl ifanc. Mae rhagor o fanylion ar gael oddi wrth Elusen Margaret Davies, Y Swyddfeydd, Plas Dinam, Llandinam, Powys SY17 5DQ. Ffôn 01686 689172.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)

Legacy Trust UK
Nod yr ymddiriedolaeth yw dyfarnu grantiau i unigolion neu fudiadau i ddibenion elusennol, sy’n cynnwys y meysydd canlynol: diwylliant; addysg; chwaraeon, iechyd a gweithgareddau elusennol eraill sydd o fudd i’r gymuned. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i ariannu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a chwaraeon yn y gobaith o sicrhau y bydd dylanwad Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn parhau ar eu hôl mewn cymunedau ledled y DU. Mae manylion pellach ar gael yn yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)

Sefydliad Djanogly
Mae’r Sefydliad yn cefnogi datblygiadau mewn: meddygaeth, addysg, lles cymdeithasol a’r celfyddydau. Rhoddir grantiau hefyd i ariannu prosiectau sy’n lleddfu trallod ac sy’n hybu lles pobl hŷn a phobl ifanc. Mae manylion pellach ar gael oddi wrth Sefydliad Djanogly, ffôn 020 7930 9845.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)

Sefydliad Charles Hayward
Mae’r Sefydliad yn ariannu costau cyfalaf yn bennaf ac weithiau, bydd cyllid prosiect ar gael ar gyfer gweithgareddau sefydlu neu ddatblygu os nad ydynt yn rhan o ofynion refeniw arferol y mudiad. Mae’r Sefydliad yn ariannu’r categorïau canlynol ar hyn o bryd: treftadaeth a chadwraeth; cyfiawnder troseddol; hosbisau; pobl hŷn; tramor; cynlluniau grant bach hyd at £5,000.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)

Sefydliad Baring

Mae Sefydliad Baring wedi cyhoeddi na fydd yn gwahodd dim ceisiadau newydd i’w raglen grantiau annibyniaeth Cryfhau’r Sector Gwirfoddol yn 2009. Mae hynny am bod y Sefydliad yn teimlo bod safon y ceisiadau yn 2008 mor uchel nes iddo ddwyn ymlaen dyraniad gwario eleni er mwyn ariannu mwy o brosiectau bryd hynny. Mae’r ymddiriedolwyr yn disgwyl rhoi grantiau newydd yn 2010, ym mlwyddyn olaf y rhaglen. Bydd manylion ymgeisio ar gael ar ddechrau 2010.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 20 Chwefror 09)

Sefydliad LankellyChase
Mae Sefydliad LankellyChase wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf, 2009-14. Bydd y Sefydliad yn parhau i gefnogi gwaith yn y DU, gan ganolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol, rhoi sylw i achosion amhoblogaidd a gweithio ar bynciau na fyddant fel arfer yn denu arian elusennol. Caiff ceisiadau gan grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig y sector gwirfoddol eu croesawu’n arbennig o fewn y meysydd blaenoriaeth, sef: celfyddydau, chwalu cylchoedd cam-drin, caethiwed a chymuned, meddyliau rhydd a thawel a phobl leol, llefydd lleol.

Mae benthyciadau ar gael hefyd, yn ogystal â chanllawiau arbennig a ffurflenni cais.

Trefniadau newydd ar waith i gefnogi eglwysi hanesyddol
Mae partneriaeth newydd wedi’i sefydlu gyda’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Eglwysi i gefnogi cymunedau lleol i reoli a gwella’r defnydd a wneir o Adeiladau Rhestredig Gradd 1 a Gradd 2 gan gymunedau. Y nod yw dangos ffyrdd newydd o weithio gyda chynulleidfaoedd eglwysi a chymunedau mewn ardaloedd difreintiedig i osgoi colli eglwysi hanesyddol a dangos sut y gall adfywio adeilad eglwys hanesyddol fod yn gatalydd ar gyfer adnewyddu cymuned. Gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw adeg drwy e-bost neu drwy’r post.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 3 Mawrth 09)

Cyllid i Hyrwyddo Cynhwysiant Ariannol
Mae Sefydliad Friends Provident yn dyfarnu grantiau o hyd at £200,000 i fudiadau di-elw ar gyfer prosiectau sy’n mynd i’r afael ag allgáu ariannol mewn cymunedau difreintiedig. Dosberthir y cyllid drwy’r Rhaglen Cynhwysiant Ariannol 2009-2012. Bydd y Sefydliad yn ystyried ceisiadau am waith a fydd yn cyfrannu’n strategol i gynhwysiant ariannol yn y DU yn y pen draw. Bydd y Sefydliad yn ystyried ceisiadau am arian cyfalaf neu refeniw, cronfeydd craidd neu gostau prosiectau. Mae’r gwaith a gefnogwyd yn flaenorol drwy’r Sefydliad yn cynnwys; sicrhau bod cyngor ar reoli arian ar gael i bobl ifanc ar ffonau symudol a theledu digidol rhyngweithiol; prosiect ymchwil i edrych ar yr anawsterau y mae pobl sydd ag anableddau dysgu'n eu profi wrth geisio cael mynediad at wasanaethau bancio. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 30 Gorffennaf 2010.
(Ffynhonnell: Grants Online, Mehefin 10)

Rhaglen Siopau Gwledig
Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyngor a chymorth ariannol i fusnesau a chymunedau gwledig ledled Cymru, gan gau’r bwlch yn y ddarpariaeth o ffynonellau ariannu traddodiadol. Targedir y gefnogaeth at fusnesau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol mewn pentrefi ac aneddiadau gwledig. Os mai dim ond un siop sydd mewn pentref, gall perchnogion y siop honno dderbyn gwerth diwrnod a hanner o gyngor adwerthu arbenigol. Ar ôl derbyn cyngor, gall busnesau wneud cais am hyd at £5,000 i helpu i roi mesurau ar waith i wneud y busnes yn fwy cynaliadwy. Cynigir cymorth mewn amgylchiadau lle mae cymuned eisoes wedi colli ei siop leol hefyd. Bydd grantiau o hyd at £10,000 yn caniatáu i wasanaethau gael eu hadfer. Gellir cyflwyno cais unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Bulletin, 2 Mehefin 10)