Iechyd a lles
Gwobrau Cymunedol Kerrygold
Eisiau cael gwybod beth yw barn y cyhoedd ym Mhrydain am eich gwaith? Os felly, beth am gymryd rhan yng Ngwobrau Cymunedol Kerrygold? Bydd yr enillwyr yn derbyn hyd at £2,000. Mae’r dyfarniadau’n agored i unrhyw brosiect lleol yn y DU sydd â’i staff yn aelodau o’r gymuned honno. Y peth mwyaf diddorol ymhlith y gofynion yw na ddylai’r prosiectau fod ynghlwm wrth elusennau cofrestredig cenedlaethol. Rhennir y prosiectau’n gategorïau: y celfyddydau; chwaraeon a lles; helpu eraill; adfywio ardal, natur a’r amgylchedd; byw cynaliadwy; sgiliau addysgu; annog ymgynnull cymunedol; arall. Mae’r gwobrau’n agored i brosiectau cymunedol yn y DU sy'n ceisio helpu'r gymuned yn union o'u hamgylch ac sydd â'u staff yn aelodau o'r gymuned honno. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.kerrygoldcommunityawards.co.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 16/7/10)
Cyllid creiddiol a hyfforddiant am ddim i elusennau iechyd – Gwobrau IMPACT 2011
Mae Gwobrau IMPACT GSK wedi’u cynllunio i wobrwyo elusennau sy’n gwneud gwaith rhagorol i wella iechyd pobl. Mae’n rhaid i fudiadau fod yn dair oed o leiaf, yn gweithio mewn maes yn ymwneud ag iechyd yn y DU, a gydag incwm rhwng £10,000 a £1.5 miliwn. Bydd hyd at 20 o wobrau yn cael eu dyfarnu, gyda phrif enillydd yn derbyn £35,000, naw enillydd arall yn derbyn £25,000 a’r rhai sy’n cael canmoliaeth arbennig a rhai sy’n dynn wrth sodlau’r enillwyr yn derbyn £5,000 a £3,000. Ar ben hynny, bydd 15 o'r enillwyr yn cael cynnig hyfforddiant am ddim sydd werth £4,000. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 24 Medi 2010. I wneud cais ewch i www.kingsfund.org.uk/gskimpactawards.
Sefydliad Elusennol W G Edwards
Nod y sefydliad yn bennaf yw darparu gofal ar gyfer pobl oedrannus. Prif nod y sefydliad yw darparu gofal ar gyfer pobl oedrannus drwy elusennau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer prosiectau cyfalaf a chynlluniau o ofal parhaus. Fodd bynnag, yn ogystal â hynny mae’r sefydliad yn ceisio cynnig cefnogaeth ariannol arall drwy: gefnogi cynifer o brosiectau ag sy’n bosib drwy roi grantiau llai; rhoi er mwyn ailwampio ac adeiladu prosiectau sydd bron â chael eu cwblhau yn lle’r rheini sydd yn y camau cynllunio; cefnogi gwahanol bobl hŷn megis y rheini sy’n ddall neu sy’n ddigartref; noddi unigolion ac eitemau a enwyd yn hytrach na chyfrannu at gronfa gyfun. Mae rhagor o fanylion ar gael gan www.wgedwardscharitablefoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 99)
RYA Sailability
Mae dau brif amcan i’r elusen: darparu neu gynorthwyo i ddarparu cyfleusterau hamdden neu alwedigaethau hamdden eraill ar gyfer pobl anabl gyda’r bwriad o wella eu cyflwr byw; a hyrwyddo ac annog pobl anabl i hwylio yn eu hamser hamdden drwy gydlynu ac integreiddio â’r strwythur presennol o gymdeithasau a chlybiau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ymddiriedolaeth yn rhoi grantiau er mwyn cynorthwyo i ddatblygu pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwylio; rhoddir grantiau i’r rhain dan y categorïau canlynol: recriwtio gwirfoddolwyr; hyfforddiant, darparu ar gyfer pobl anabl a phobl ifanc; darparu offer; a grant ar gyfer mân weithgareddau (rhaglen grantiau bach). Gall clybiau a chanolfannau sy’n perthyn i RYA, neu fudiadau sy’n awyddus i ddatblygu eu cyfleusterau ar gyfer pobl anabl ymgeisio am arian. Mae rhagor o fanylion ar gael gan www.rya.org.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 98)
Sefydliad Elusennol Maurice Wohl
Mae nodau’r sefydliad yn eang, er rhoddir pwyslais penodol ar achosion sy’n cefnogi’r meysydd canlynol: lles plant, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt (gan gynnwys addysg); hybu iechyd, lles a datblygu gwasanaethau meddygol; lliniaru tlodi, angen a thrallod; lles pobl oedrannus, pobl fethedig, pobl dan anfantais a phobl anabl, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt; a chefnogaeth i’r celfyddydau. Bydd y sefydliad hefyd yn ystyried rhoi nifer fach o gyfraniadau ariannol sylweddol i achosion teilwng sy’n dod o dan ei feysydd blaenoriaeth. Mae rhagor o fanylion ar gael gan Diane Morgan, ffôn 020 7383 5111.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 98)
Sefydliad Hedley
Mae’r sefydliad yn cefnogi gweithgareddau sy’n dwyn budd i bobl ifanc, pobl anabl a phobl nad oes gwella arnynt. Mae’r sefydliad yn defnyddio oddeutu saith deg y cant o’i gyllideb i roi grantiau yn bennaf i bobl ifanc ar gyfer addysg, hamdden, cefnogaeth, hyfforddiant, iechyd a lles. Defnyddir gweddill cyllideb y sefydliad i gefnogi pobl anabl a phobl nad oes gwella arnynt drwy ddarparu offer arbenigol a chymorth i ofalwyr. Gellir cael mwy o fanylion yn www.hedleyfoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 99)
Ymddiriedolaeth Dulverton
Mae'r ymddiriedolaeth yn rhoi grantiau i elusennau cofrestredig lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn y DU. Rhoddir blaenoriaeth i elusennau sy’n gweithio mewn meysydd lle mae amddifadedd a/neu unigrwydd difrifol. Rhoddir grantiau i fudiadau a ddaw dan y categorïau canlynol: pobl ifanc ac addysg; lles cyffredinol; cadwraeth; gwarchodaeth; heddwch a chymorth dyngarol; ac Affrica. Mae rhagor o fanylion ar gael gan www.dulverton.org.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Ymddiriedolaeth Beatrice Laing
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau yn y categorïau canlynol: plant ac ieuenctid – lles plant, addysg, datblygu ieuenctid; iechyd a meddyginiaeth – caethiwed/ailsefydlu, anabledd/anfantais gorfforol, gwasanaethau brys, ymchwil a lles meddygol, iechyd meddwl/anfantais feddyliol; cymorth dramor – prosiectau datblygu, prosiectau cymorth; crefydd – gwaith maes, crefydd: cartref, crefydd: unigolion, crefydd: tramor; a lles cymdeithasol – lluoedd arfog, prosiectau cymunedol, gostwng lefelau troseddu/lles carchar, yr henoed, tai, prosiectau lles. Gellir cael mwy o fanylion gan Elizabeth A Harley, Gweinyddwr, ffôn 020 8238 8890.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Gwahoddiad i ymgeisio am Ddyfarniadau Gwasanaethau Cyhoeddus y Guardian
Mae Dyfarniadau Gwasanaethau Cyhoeddus y Guardian yn agored i fudiadau’n ymwneud â chomisiynu neu gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus, boed yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. Mae’r categorïau’n cael eu rhannu fel a ganlyn:
Cyflwyno gwasanaethau: plant a phobl ifanc; anghenion cymhleth; gofalwyr; teuluoedd a chymunedau; gofalu am bobl hŷn; tai ac adfywio; cludiant a symudoledd.
Arloesedd a chynnydd: cynaliadwyedd; trawsnewid; gwasanaethau’r cwsmer; gwaith partneriaeth; amrywiaeth a chydraddoldeb; datblygu sgiliau (newydd ar gyfer 2010)
Mae’n rhaid i’r holl brosiectau sy’n ymgeisio am y dyfarniadau ddangos eu bod wedi gweithredu newid a gwelliant effeithiol rhwng 17 Gorffennaf 2009 ac 16 Gorffennaf 2010. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 16 Gorffennaf.
Ymddiriedolaeth Childwick
Mae Ymddiriedolaeth Childwick yn darparu cyllid i elusennau cofrestredig ar gyfer helpu pobl a chanddynt anableddau, hyrwyddo iechyd, helpu hen bobl anghenus ac ar gyfer lles pobl sy’n gysylltiedig â’r byd rasio ceffylau. Mae'r grantiau sydd ar gael ar gyfer prosiectau yn y categorïau canlynol: iechyd; y byd rasio; cymunedau Iddewig. Nid oes isafswm nac uchafswm grant wedi’i bennu, er bod y rhan fwyaf o grantiau yn y categori iechyd rhwng £2,000 a £10,000 fel arfer, gyda nifer fach o symiau mwy sylweddol i’w dyrannu ar gyfer prosiectau mwy. Mae’r Ymddiriedolwyr yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau ym mis Mai a mis Rhagfyr fel arfer, a gellir gwneud ceisiadau unrhyw adeg.
Sefydliad Bupa – Cronfa Sbarduno Philip Poole-Wilson
Mae’r Gronfa hon yn gwahodd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n gysylltiedig ag ymchwil, neu ymchwilwyr mewn prifysgolion sydd â diddordeb mewn iechyd neu ofal cymdeithasol, i ymgeisio am nawdd ar gyfer prosiectau ymchwil peilot/arbrofol yn y meysydd canlynol: llawdriniaeth; epidemioleg a meddygaeth ataliol; gwybodaeth am iechyd a chyfathrebu rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol iechyd; iechyd yn y gwaith; iechyd meddwl pobl hŷn. Mae gan y Gronfa gyfanswm o £200,000 y flwyddyn i ddarparu grantiau sbarduno unigol o hyd at £20,000 i bob cais. Y dyddiad cau blynyddol ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Gorffennaf, er mwyn i’r cynigion gael eu hystyried yng nghyfarfod mis Tachwedd y Bwrdd. Mae manylion pellach ar gael yma.
Gwobrau Iechyd Integredig
Mae Sefydliad y Tywysog er Iechyd Integredig wedi bod yn rhoi sylw i gynlluniau gofal iechyd arloesol a hygyrch ers 2005 drwy gyfrwng y Gwobrau Iechyd Integredig. Drwy dynnu sylw at brosiectau ac ymarferwyr enghreifftiol mae’n gobeithio annog ehangu iechyd integredig. Yn 2010, gwahoddir ceisiadau am y gwobrau canlynol: cylch bywyd; gwlad; goroeswyr; gwobr traethawd gan fyfyriwr; ymarfer sy’n seiliedig ar gomisiynu; gwobr ymddiriedolaeth gofal sylfaenol. Y nod yw dathlu ymagweddau arloesol tuag at iechyd a lles.
Skinners’ Company – Elusen Lady Neville
Nod Elusen Lady Neville y Skinners' Company yw dosbarthu cyllid grant i amrywiaeth eang o weithgareddau a buddiannau yn sector gwirfoddol y DU. Mae grantiau gwerth hyd at £1,000 ar gael i fudiadau sy’n gallu dangos y byddai’r grant yn gwneud cyfraniad pendant a phwysig at eu prosiect neu weithgarwch. Derbynnir ceisiadau gan elusennau cofrestredig a mudiadau dielw yn y DU sy’n cyflogi llai na phedwar aelod o staff llawn amser ac sy’n gweithio yn un o bedwar maes blaenoriaeth yr Elusen: anabledd; treftadaeth leol; cymunedau lleol; y celfyddydau perfformio a gweledol. Cynhelir cyfarfodydd o’r pwyllgor dyfarnu grantiau ym mis Mai a Thachwedd pob blwyddyn. Felly, dylid ystyried canol mis Mawrth a chanol Medi fel dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Mawrth 10)
Ymddiriedolaeth Elusennol C
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol C yn dyfarnu grantiau i fudiadau gwirfoddol yn y DU sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys: prosiectau sydd o fudd i bobl ag anableddau corfforol neu feddyliol; cadwraeth adeiladau neu waith treftadaeth; ac amddiffyn yr amgylchedd. Dyfernir grantiau fel arfer i elusennau cofrestredig. Nid oes isafswm i’r grantiau a roddir ond bydd yr uchafswm fel arfer yn £5,000, er bod ceisiadau’n cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod a gellir dyfarnu symiau mwy mewn rhai amgylchiadau. Gellir gwneud cais unrhyw bryd.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update, Mawrth 10)
Macmillan – grantiau i’ch helpu chi i helpu eraill
Mae cyllid ar gael ar gyfer grwpiau hunangymorth a chefnogaeth canser ledled y DU. Gall grwpiau newydd wneud cais am gyllid gwerth hyd at £500 a grwpiau sefydledig wneud cais am hyd at £3,000. Gellid defnyddio’r cyllid i dalu am bethau fel costau digwyddiad, gweithgareddau hyrwyddo neu ddeunyddiau i’r grŵp (h.y. cyfrifiaduron, gliniaduron a deunyddiau arddangos). Caiff ceisiadau gan grwpiau newydd eu hasesu'n fisol. Ceir rhagor o fanylion yma neu drwy anfon e-bost at resources@macmillan.org.uk.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)
Sefydliad Hedley
Mae Sefydliad Hedley yn rhoi grantiau i elusennau cofrestredig yn y DU. Ei brif nod yw cefnogi prosiectau sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant ac iechyd a lles pobl ifanc yn y DU. Mae hefyd yn cyllido prosiectau sy’n rhoi cymorth i ofalwyr pobl anabl a phobl sy’n derfynol sâl, ac yn rhoi cyllid i brynu cyfarpar meddygol arbenigol. £3,000 yw’r grant cyfartalog a ddyfernir. Caiff grantiau eu dyfarnu ar sail unwaith ac am byth a dim ond er mwyn talu am gostau prosiect y ceir eu defnyddio yn hytrach na chostau craidd, refeniw, cyflog neu drafnidiaeth. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau am grant. Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd yn 2010: 29 Medi, 24 Tachwedd. Rhaid i geisiadau ddod i law o leiaf tair wythnos cyn y cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael eu hystyried.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)
Grantiau Calon Iach
Mae'r Grantiau Calon Iach yn cefnogi prosiectau arloesol a luniwyd i hyrwyddo iechyd y galon ac i atal neu leihau peryglon clefyd y galon mewn grwpiau neu gymunedau penodol. Mae’r grantiau hyn ar gael i grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol ac ymchwilwyr yn y DU. Mae grantiau gwerth hyd at £10,000 ar gael ar gyfer prosiectau iechyd y galon yn unig, yn hytrach na phrosiectau cyffredinol yn ymwneud â ffyrdd iach o fyw. Rhaid i brosiectau ganolbwyntio ar iechyd y galon, a hyrwyddo hynny’n frwd, drwy gydol y prosiect. Derbynnir ceisiadau mewn dau rownd gyllido y flwyddyn: yn ystod mis Ionawr a Chwefror ar gyfer rownd grantiau mis Mai; ac yn ystod mis Gorffennaf ac Awst ar gyfer rownd grantiau mis Tachwedd.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)
Ymddiriedolaeth Dulverton
Mae Ymddiriedolaeth Dulverton yn rhoi cyllid grant i fudiadau elusennol yn y DU sy’n gweithio yn y meysydd canlynol: pobl ifanc ac addysg; lles cyffredinol, cadwraeth; gwarchodaeth; heddwch a chymorth dyngarol; Affrica. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig dau fath o grant:
- Grantiau Mawr heb derfyn penodol - sydd ar gael i elusennau gyda llai na £50 miliwn o incwm blynyddol ac sy'n gweithio'n genedlaethol neu ledled rhanbarthau daearyddol y DU.
- Grantiau Bach hyd at £3,500 – sydd ar gael i elusennau llai gyda llai na £400,000 o incwm blynyddol sydd fel arfer yn gweithio ar lefel leol neu sirol.
Gellir gwneud cais unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)
Cronfa Her Iechyd - Gwaith a Lles
Bydd Cronfa Her Gwaith Iechyd a Lles yn derbyn £4 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd. Caiff ei chefnogi gan Adran Gwaith a Phensiynau’r Llywodraeth, a’i nod yw helpu partneriaethau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar iechyd a lles eu gweithwyr. Mae’n rhaid i brosiectau fod yn newydd. Mae’n angenrheidiol fod y busnesau a’r mudiadau a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen yn weithredol ers o leiaf dwy flynedd. Rhoddir blaenoriaeth i gynigion arloesol i wella lles meddyliol mewn busnesau/mudiadau bychain. Bydd dwy rownd ymgeisio. Mae’r cyntaf ar agor nawr ar gyfer prosiectau a fydd yn digwydd yn 2010. Bydd yr ail yn rhedeg o Fis Medi i Fis Rhagfyr 2010 am grantiau ar gyfer 2011. Mae £4 miliwn ar gael dros y ddwy flynedd, a bydd grantiau’n amrywio o £1,000 i £50,000. Gwnewch gais nawr am brosiectau a fydd yn cael eu cynnal rhwng Mis Ebrill 2010 a Mis Mawrth 2011.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 4/11/09)
Grantiau Comic Relief UK
Bu rhywfaint o newidiadau i ddyddiadau cau ar gyfer ceisiadau i raglen grantiau Comic Relief UK. Mae’r blaenoriaethau’n ymdrin â phobl ifanc y cam-fanteisir arnynt yn rhywiol ac sy’n cael eu masnachu, alcohol a phobl ifanc, sicrhau newid drwy chwaraeon, cam-drin domestig a rhywiol a phobl ifanc, menywod sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches, iechyd meddwl, ac iechyd meddwl a phobl ifanc. Nid yw manylion y rhaglenni i gefnogi pobl hŷn a gofalwyr ifanc wedi eu cyhoeddi eto. Fe’ch anogir i wneud cais pan fyddwch yn barod, ond ystyrir ceisiadau ar amseroedd penodedig.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 18/11/09)
Comisiynau ‘Unlimited’
Mae Comisiynau Unlimited yn rhan o agwedd bedair-ffordd at ddathlu celfyddyd, diwylliant a chwaraeon pobl anabl fel rhan o Olympiad Diwylliannol Llundain 2012. Mae cronfa gomisiwn gwerth £1.5 miliwn wedi'i sefydlu i gefnogi'r broses o gynhyrchu gwaith o safon gan arlunwyr anabl neu fyddar a mudiadau celfyddydol a arweinir gan bobl anabl neu fyddar ledled y DU. Mae pedair elfen i’r rhaglen: Comisiynau Unlimited; Talent Unlimited; Unlimited yn Cyflwyno ac Unlimited yn Rhyngwladol. Croesewir ceisiadau ar gyfer Comisiynau Unlimited gan arlunwyr anabl neu fyddar a mudiadau celfyddydol sy'n cael eu harwain gan bobl fyddar neu anabl ledled y DU sydd am ddatblygu eu gwaith, rhoi hwb i’w harferion celfyddydol, herio rhagdybiaethau a chreu partneriaethau newydd gyda digwyddiadau a chanolfannau arddangos. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y wefan neu cysylltwch â swyddfa’ch cyngor celfyddydau - Jennifer.stoves@artswales.org.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 21/10/09)
Ymddiriedolaeth Tudor
Nod Ymddiriedolaeth Tudor yw cefnogi gwaith sy’n rhoi sylw i anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ariannol pobl sydd ar gyrion ein cymdeithas. Mae gan yr ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn cael gwybod sut mae mudiadau’n rhoi sylw i’r anghenion hyn a’r achosion sydd wrth eu gwraidd; mae am annog twf, dilyniant a datblygiad – nid cadw pethau fel y maent yn unig. Prif ddiddordeb yr Ymddiriedolaeth yw cynorthwyo mudiadau llai nad oes ganddynt ddigon o adnoddau, sy'n cynnig gwasanaethau uniongyrchol ac yn mynd ati i gynnwys y bobl y maent yn gweithio gyda hwy wrth gynllunio. Gellir cael mwy o fanylion gan www.tudortrust.org.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 90)
Sefydliad y Teulu Taylor
Bwriad y sefydliad yw helpu a chynorthwyo plant a phobl ifanc, yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig, ym maes addysg, iechyd, hamdden a’r celfyddydau perfformio. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.thetaylorfamilyfoundation.co.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 91)
Y Gymdeithas er Cynorthwyo Menywod Mewn Cynni
Y llynedd, yn ogystal â gweithio gydag unigolion yn unig yn ôl ei harfer, aeth y Gymdeithas er Cynorthwyo Menywod Mewn Cynni ati i gynorthwyo mudiadau yn y DU sy’n gweithio gyda menywod mewn tlodi. Bu’n llwyddiant, ac felly bydd yr un peth yn digwydd yn 2010. Mae £50,000 ar gael i ddarparu grantiau i fudiadau o'r fath ac mae gan yr ymddiriedolwyr ddiddordeb mewn clywed naill ai gan fudiad bach sydd angen grant i gefnogi ei waith craidd, neu fudiad mwy sydd â phrosiect penodol mewn golwg. Mae'n ofynnol bod y ceisiadau’n ymwneud â phrosiectau sydd er budd menywod mewn angen ariannol yn unig. Ni chaiff y prosiectau fod er budd dynion na phlant mewn unrhyw ffordd, ac ni chânt gynorthwyo menywod nad ydynt mewn angen ariannol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 26 Mawrth 2010. Rhaid gwneud y ceisiadau drwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 29/10/09)
Sefydliad Redrow
Nodau'r Sefydliad yw lliniaru tlodi a salwch yn y DU ac, yn benodol, darparu llety a chymorth perthnasol, gan gynnwys gofal seibiant, yn enwedig i blant, yr henoed a'r rheini sy'n wael neu’n fethedig. Mae’r ymddiriedolaeth yn awyddus i gefnogi ceisiadau lle bydd y grant yn cynorthwyo i ddarparu nodau neu amcanion ac yn cael effaith anghymesur a sylweddol yn ariannol ar yr elusen sy’n ei dderbyn. I gael mwy o fanylion cysylltwch â Sefydliad Redrow, Redrow House, Parc Dewi Sant, Sir y Fflint CH5 3RX. Ffôn 01244 520044.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 92)
Ymddiriedolaeth Ymarferol Old Possum’s
Prif nod yr ymddiriedolaeth yw gwella gwybodaeth a gwerthfawrogiad o unrhyw faterion hanesyddol, celfyddydol, archeolegol, esthetig, llenyddol, cerddorol neu theatraidd o ddiddordeb. Mae’n fwy tebygol y rhoddir cyllid i brosiectau sy'n cynnwys plant a phobl ifanc, pobl anabl neu bobl sydd dan anfantais; a chymunedau. Gellir cael rhagor o fanylion yma.
Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer
Defnyddir y grantiau i gefnogi ystod eang iawn o achosion da, gan gynnwys: plant; pobl ifanc; yr henoed a phobl fethedig; ysbytai a chartrefi; pobl ddall a phobl fyddar; pobl anabl; pobl dan anfantais meddwl; ymchwil feddygol ac ymchwil arall; dibenion morol; y lluoedd arfog; mudiadau gofalu; mudiadau gwirfoddol a chronfeydd ac ymddiriedolaethau eraill, ysgolion a cholegau; gweithgareddau hamdden; anifeiliaid a bywyd gwyllt; a chyrff crefyddol. I gael manylion ymgeisio cysylltwch ag ysgrifenyddion yr ymddiriedolaeth: Ward Hadaway, Sandgate House, 102 Quayside, Newcastle upon Tyne NE1 3DX.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 92)
Ymddiriedolaeth Elusennol G D
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi dewis blaenoriaethu ei grantiau yn y meysydd elusennol canlynol: lliniaru dioddefaint anifeiliaid; gwarchod yr amgylchedd; hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl; cynorthwyo pobl ddigartref. Mae’n well gan yr Ymddiriedolaeth gynorthwyo elusennau sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Elusennau er y bydd yn ystyried mudiadau eraill cyn belled â bod pwrpas y grant yn elusennol. Gellir cael rhagor o fanylion gan Ymddiriedolaeth Elusennol G D, 50 Broadway, San Steffan, Llundain, SW1H 0BL. Ffôn 020 7227 7000.
Grantiau Drinkaware
Mae Drinkaware wedi newid y meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer ei raglen o grantiau sydd wedi'u hanelu at newid diwylliant yfed y DU er gwell. Dylai gweithgareddau ddylanwadu ar ymddygiad y cyhoedd a dod o hyd i ffyrdd arloesol o godi ymwybyddiaeth o effeithiau alcohol, gan leihau camddefnydd ohono a chwtogi ar y niwed sy’n digwydd o ganlyniad i alcohol. Rhoddir grantiau o hyd at £100,000 ledled y DU. Does dim dyddiad cau. Mae ceisiadau'n cael eu prosesu fel maent yn cyrraedd. Gellir cael yr holl wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf ar wneud cais ar yma.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 6 Awst 09)
Sefydliad Elusennol Bernard Sunley
Mae’r Sefydliad yn rhoi grantiau i rai mewn amryw o gategorïau gan gynnwys: addysg; ieuenctid; y gymuned; yr amgylchedd/cadwraeth; iechyd a lles. Fel arfer, rhoddir grantiau sydd rhwng £200 a £5,000. Rhoddir grantiau i elusennau cofrestredig yn unig, gan gynnwys ysgolion yn y DU. Nid oes ffurflen gais – dylid cyflwyno pob cais ar ffurf llythyr esboniadol i’r Cyfarwyddwr. Gellir cael rhagor o fanylion yn Bernard Sunley Charitable Foundation, 20 Berkley Square, Llundain W1J 6LH. Ffôn: 020 7408 2198, ffacs: 020 7499 5859, ebost office@sunleyfoundation.com.
Comic Relief – Rhaglen Grantiau Rhyngwladol
Mae Comic Relief, a gododd dros £78 miliwn yn ddiweddar o ganlyniad i’w Diwrnod Trwyn Coch, wedi cyhoeddi canllawiau sydd wedi’u diwygio’n llwyr ar gyfer eu rhaglen grantiau rhyngwladol ar gyfer 2009-12. Gan ddefnyddio’r pennawd ‘A just world free from poverty’, mae’r meysydd sy’n cael blaenoriaeth yn cynnwys: masnach; pobl wedi’u heffeithio gan HIV/AIDS; pobl wedi’u heffeithio gan wrthdaro; plant a phobl ifanc sy’n byw ar y stryd ac sy’n gweithio; pobl sy’n byw mewn slymiau trefol; merched a genethod; chwaraeon dros newid; mudiadau bach ac sy’n cael eu harwain gan alltudion. Mae rhagor o fanylion am y Rhaglen Grantiau Rhyngwladol a Rhaglen Grantiau’r DU ar gael yma.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 15 Mehefin 09)
Grŵp Ymddiriedolaeth Joshua
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi mudiadau crefyddol, sefydliadau addysg uwch a phellach a sefydliadau sy’n gofalu am y gwael a’r tlawd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi mudiadau o’r Deyrnas Unedig a thramor. Mae rhagor o fanylion ar gael oddi wrth R Grussgott, ffôn 020 8238 2888, e-bost info@shearsandpartners.co.uk.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)
Sefydliad John Ellerman
Mae’r sefydliad yn rhoi pwyslais arbennig ar gynorthwyo elusennau sy’n gweithio â phobl hŷn, yn enwedig rhai dros 75 oed ac sy’n byw mewn tlodi ac unigrwydd. Croesewir ceisiadau gan elusennau cenedlaethol sy’n gweithio gyda neu ar ran pobl hŷn ac yn arbennig rhai sy’n darparu cymorth mewn ffyrdd ymarferol, yn fwyaf arbennig i: leihau unigrwydd a mynd i’r afael â thlodi; hyrwyddo iechyd a lles; annog cysylltiad teuluol a rhwng y cenedlaethau; a gwella ansawdd tai, diogelwch a gofal preswyl. Mae’r elusen hefyd yn dyfarnu grantiau yn y pum categori canlynol: iechyd ac anabledd; lles cymdeithasol; cadwraeth; gwaith tramor.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 88)
Help the Homeless
Sefydlwyd Help the Homeless gyda’r nod pennaf o gynorthwyo gofal a thriniaeth i bobl sengl ddigartref, gan gydnabod bod digartrefedd yn gallu ymestyn y tu hwnt i’r canfyddiad cyffredin o bobl ddigartref – ond ei fod yn hytrach yn gallu effeithio ar bob math o bobl sydd heb gartref o ganlyniad i bob math o wahanol amgylchiadau. Dyfernir grantiau bedair gwaith y flwyddyn (Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref) ac yn y rhan fwyaf o achosion i gynorthwyo i brynu offer cyfalaf. Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio grantiau tuag at gostau rhedeg. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)
Cronfa Ymddiriedolaeth Baily Thomas
Mae’r gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n ymdrin ag anabledd dysgu, sy’n cael ei ddiffinio fel anawsterau dysgu difrifol ac awtistiaeth. Rhoddir grantiau i brosiectau sy’n gweithio â phlant ac oedolion, a rhoddir arian at: waith cyfalaf/ adeiladu/atgyweirio cartrefi preswyl, nyrsio a gofal seibiant ac ysgolion; cynlluniau cyflogi, gan gynnwys gwaith coed, crefftau, argraffu a garddwriaeth; cynlluniau chwarae a chynlluniau therapi chwarae; canolfannau gweithgareddau dydd a chymdeithasol, gan gynnwys costau adeiladu a chostau rhedeg; cymorth i deuluoedd, gan gynnwys cynlluniau gofal seibiant; cynlluniau byw’n annibynnol; cynlluniau cefnogaeth yn y gymuned a phyllau nofio a therapi dŵr ac ystafelloedd snoezelen. Derbynnir ceisiadau gan elusennau cofrestredig. Mae ragor o fanylion ar gael yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 88)
Llurgunio Organau Rhywiol Merched
Mae rhaglen newydd wedi’i lansio i roi grantiau i fudiadau yn y DU sy’n gweithio ar brosiectau cymunedol, ataliol i ddiogelu merched rhag yr arfer o lurgunio organau rhywiol merched. Gwahoddir ceisiadau gan fudiadau cymunedol, yn enwedig mudiadau merched, sy’n dymuno datblygu prosiectau i weithio â phobl ifanc, arweinwyr ffydd a / neu’r gymuned ehangach i godi ymwybyddiaeth o lurgunio o’r fath ac i rymuso cymunedau i gefnu ar yr arfer. Nid oes ffurflen gais. Yn hytrach gofynnir i ymgeiswyr ateb cyfres o gwestiynau mewn dim mwy na phum dalen A4. Mae’r cwestiynau, ynghyd â chanllawiau, ar gael yn www.esmeefairbairn.org.uk/fgm.html.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 23 Ebrill 09)
Ymddiriedolaeth Drinkaware
Mae grantiau rhwng £2,000 a £100,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol. Mae mudiadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc dan 18 oed yn gymwys i wneud cais. Mae rhagor o fanylion ar gael o www.drinkaware.co.uk.
(Ffynhonnell: Bwletin YWS 20)
Sefydliad Sobell
Bydd y Sefydliad yn cefnogi ceisiadau gan elusennau cofrestredig sy’n gweithio yn y meysydd canlynol: gofal a thriniaeth feddygol, gan gynnwys gofal seibiant a hosbisau; gofal i oedolion a phlant ag anableddau corfforol a meddyliol; addysg a hyfforddiant i oedolion a phlant ag anableddau corfforol a dysgu; gofal a chefnogaeth i bobl hŷn; gofal a chefnogaeth i blant; digartrefedd. Mae manylion pellach ar gael yn www.sobellfoundation.org.uk neu e-bostiwch enquiries@sobellfoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)
Ymddiriedolaeth Elusennol P F
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo amrywiaeth eang o achosion elusennol yn y DU, gan gynnwys: atal tlodi; hyrwyddo – tlodi, addysg, crefydd, iechyd neu arbed bywydau, dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol, y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth, chwaraeon amatur, hawliau dynol, datrys gwrthdaro neu gymodi, neu hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb neu amrywiaeth, amddiffyn neu wella’r amgylchedd; cymorth i rai mewn angen oherwydd ieuenctid, henaint, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall. Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig ynghyd â gwybodaeth lawn i D Pocknee, Secretary, P F Charitable Trust, c/o R F Trustee Co Ltd, Ely House, 37 Dover Street, Llundain WIS 4NJ. Ffôn 020 7409 5685.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)
Elusen Margaret Davies
Mae mudiadau elusennol cofrestredig, sy’n gweithio er budd pobl Cymru, yn cael eu cefnogi yn y meysydd canlynol: y celfyddydau gweledol; y celfyddydau perfformio; addysg; iechyd a gofal cymdeithasol a darpariaeth i bobl ifanc. Mae rhagor o fanylion ar gael oddi wrth Elusen Margaret Davies, Y Swyddfeydd, Plas Dinam, Llandinam, Powys SY17 5DQ. Ffôn 01686 689172.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)
Legacy Trust UK
Nod yr ymddiriedolaeth yw dyfarnu grantiau i unigolion neu fudiadau i ddibenion elusennol, sy’n cynnwys y meysydd canlynol: diwylliant; addysg; chwaraeon, iechyd a gweithgareddau elusennol eraill sydd o fudd i’r gymuned. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i ariannu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a chwaraeon yn y gobaith o sicrhau y bydd dylanwad Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn parhau ar eu hôl mewn cymunedau ledled y DU. Mae manylion pellach ar gael yn yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)
Sefydliad Djanogly
Mae’r Sefydliad yn cefnogi datblygiadau mewn: meddygaeth, addysg, lles cymdeithasol a’r celfyddydau. Rhoddir grantiau hefyd i ariannu prosiectau sy’n lleddfu trallod ac sy’n hybu lles pobl hŷn a phobl ifanc. Mae manylion pellach ar gael oddi wrth Sefydliad Djanogly, ffôn 020 7930 9845.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)
Sefydliad Charles Hayward
Mae’r Sefydliad yn ariannu costau cyfalaf yn bennaf ac weithiau, bydd cyllid prosiect ar gael ar gyfer gweithgareddau sefydlu neu ddatblygu os nad ydynt yn rhan o ofynion refeniw arferol y mudiad. Mae’r Sefydliad yn ariannu’r categorïau canlynol ar hyn o bryd: treftadaeth a chadwraeth; cyfiawnder troseddol; hosbisau; pobl hŷn; tramor; cynlluniau grant bach hyd at £5,000.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)

