Tai

Rhaglen Grantiau Bach (DU) Sefydliad y Nationwide
Mae Sefydliad y Nationwide yn dyfarnu grantiau i elusennau cofrestredig yn y DU sy’n cynnig cefnogaeth ariannol a/neu gefnogaeth yn ymwneud â thai i’r rhai sydd wedi goroesi cael eu cam-drin yn y cartref a phobl hŷn. Ymhlith y rhaglenni cyllido y mae’r Sefydliad yn eu defnyddio i ddyfarnu grantiau i’r rhai sydd wedi goroesi cael eu cam-drin yn y cartref a phobl hŷn mae datblygu gallu ariannol, brwydro yn erbyn eithrio ariannol a chefnogi anghenion am dai. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau ar gyfer gwaith sy’n cynnwys teuluoedd buddiolwyr; ceisiadau ar gyfer gwaith sy’n anelu at fwy nag un nod a gwaith yn cefnogi’r grwpiau hynny sydd wedi’u datgan fel rhai o ardaloedd difreintiedig. Y grant mwyaf sydd ar gael yw £5,000 ac i fod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau cofrestredig gyda throsiant blynyddol sy’n llai na £500,000. Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Cylchlythyr Cyllido Grants Online, Gorffennaf 10)

Sefydliad Elusennol W G Edwards
Nod y sefydliad yn bennaf yw darparu gofal ar gyfer pobl oedrannus. Prif nod y sefydliad yw darparu gofal ar gyfer pobl oedrannus drwy elusennau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer prosiectau cyfalaf a chynlluniau o ofal parhaus. Fodd bynnag, yn ogystal â hynny mae’r sefydliad yn ceisio cynnig cefnogaeth ariannol arall drwy: gefnogi cynifer o brosiectau ag sy’n bosib drwy roi grantiau llai; rhoi er mwyn ailwampio ac adeiladu prosiectau sydd bron â chael eu cwblhau yn lle’r rheini sydd yn y camau cynllunio; cefnogi gwahanol bobl hŷn megis y rheini sy’n ddall neu sy’n ddigartref; noddi unigolion ac eitemau a enwyd yn hytrach na chyfrannu at gronfa gyfun. Mae rhagor o fanylion ar gael gan www.wgedwardscharitablefoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 99)

Rhaglen grantiau bach Sefydliad y Nationwide
Gall elusennau sy’n gweithio er budd pobl hŷn neu bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig wneud cais am grantiau bach i wella eu hanghenion tai neu i fynd i’r afael ag allgáu ariannol. Mae Rhaglen Grantiau Bach Sefydliad y Nationwide yn rhoi grantiau bob deufis. Mae grantiau gwerth hyd at £5,000 ar gael i elusennau cofrestredig gyda llai na £500,000 o incwm. Os hoffech wneud cais am gyllid a chael gwybod mwy am y meini prawf, dylech fynd i www.nationwidefoundation.org.uk neu anfon e-bost i enquiries@nationwidefoundation.org.uk.

Gwobr Menywod a Digartrefedd Val Feld
Mae’r Wobr hon yn awr ar agor ar gyfer ceisiadau yn 2010 a’i bwriad yw cydnabod arloesedd a ffyrdd newydd o ymateb i fenywod ag anghenion tai ledled Cymru. Ceir defnyddio’r Wobr ar gyfer gwasanaethau, ymchwil gweithredu neu ddarn o waith academaidd. Gall hefyd helpu grwpiau i sefydlu cronfa/prosiect newydd neu helpu i ddatblygu prosiect sydd eisoes ar waith. Caiff unigolion a mudiadau sy’n cynnal ymchwil i faterion sy’n ymwneud â menywod, tai a digartrefedd wneud cais. Mae’r wobr ariannol yn £3,000.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)

Ymddiriedolaeth Elusennol G D
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi dewis blaenoriaethu ei grantiau yn y meysydd elusennol canlynol: lliniaru dioddefaint anifeiliaid; gwarchod yr amgylchedd; hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl; cynorthwyo pobl ddigartref. Mae’n well gan yr Ymddiriedolaeth gynorthwyo elusennau sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Elusennau er y bydd yn ystyried mudiadau eraill cyn belled â bod pwrpas y grant yn elusennol. Gellir cael rhagor o fanylion gan Ymddiriedolaeth Elusennol G D, 50 Broadway, San Steffan, Llundain, SW1H 0BL. Ffôn 020 7227 7000.

Sefydliad John Ellerman
Mae’r sefydliad yn rhoi pwyslais arbennig ar gynorthwyo elusennau sy’n gweithio â phobl hŷn, yn enwedig rhai dros 75 oed ac sy’n byw mewn tlodi ac unigrwydd. Croesewir ceisiadau gan elusennau cenedlaethol sy’n gweithio gyda neu ar ran pobl hŷn ac yn arbennig rhai sy’n darparu cymorth mewn ffyrdd ymarferol, yn fwyaf arbennig i: leihau unigrwydd a mynd i’r afael â thlodi; hyrwyddo iechyd a lles; annog cysylltiad teuluol a rhwng y cenedlaethau; a gwella ansawdd tai, diogelwch a gofal preswyl. Mae’r elusen hefyd yn dyfarnu grantiau yn y pum categori canlynol: iechyd ac anabledd; lles cymdeithasol; cadwraeth; gwaith tramor.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 88)

Help the Homeless
Sefydlwyd Help the Homeless gyda’r nod pennaf o gynorthwyo gofal a thriniaeth i bobl sengl ddigartref, gan gydnabod bod digartrefedd yn gallu ymestyn y tu hwnt i’r canfyddiad cyffredin o bobl ddigartref – ond ei fod yn hytrach yn gallu effeithio ar bob math o bobl sydd heb gartref o ganlyniad i bob math o wahanol amgylchiadau. Dyfernir grantiau bedair gwaith y flwyddyn (Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref) ac yn y rhan fwyaf o achosion i gynorthwyo i brynu offer cyfalaf. Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio grantiau tuag at gostau rhedeg. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)

Meini prawf ariannu newydd gan Sefydliad y Nationwide
Mae Sefydliad y Nationwide wedi cyhoeddi meini prawf ariannu newydd ar gyfer elusennau cofrestredig yn y DU. Bydd ei raglenni grant newydd Money Matters a Homes Matter yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau tai ac allgau ariannol. O dan y rhaglen bydd y Sefydliad yn dyrannu grantiau i elusennau cofrestredig sy’n: mynd i’r afael ag allgau ariannol, sy’n effeithio ar grwpiau difreintiedig yn y DU; sy’n rhoi sylw i faterion tai a digartrefedd ymhlith grwpiau agored i niwed yn y DU. Mae Rhaglen Grantiau Bach y Sefydliad hefyd yn derbyn ceisiadau. Mae’n dyrannu grantiau’n barhaus sy’n werth hyd at £5,000 i elusennau cofrestredig ag incwm o dan £500,000.
(Ffynhonnell: UK Fundraising News – Rhif 242)