Rhyngwladol
Sefydliad Elusennol Maurice Wohl
Mae nodau’r sefydliad yn eang, er rhoddir pwyslais penodol ar achosion sy’n cefnogi’r meysydd canlynol: lles plant, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt (gan gynnwys addysg); hybu iechyd, lles a datblygu gwasanaethau meddygol; lliniaru tlodi, angen a thrallod; lles pobl oedrannus, pobl fethedig, pobl dan anfantais a phobl anabl, a’r gofal a’r gefnogaeth iddynt; a chefnogaeth i’r celfyddydau. Bydd y sefydliad hefyd yn ystyried rhoi nifer fach o gyfraniadau ariannol sylweddol i achosion teilwng sy’n dod o dan ei feysydd blaenoriaeth. Mae rhagor o fanylion ar gael gan Diane Morgan, ffôn 020 7383 5111.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 98)
Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh
Amcan yr ymddiriedolaeth yw cefnogi sefydliadau elusennol cyffredinol. Mae’r achosion a gefnogir gan yr ymddiriedolaeth fel arfer yn dod dan y categorïau canlynol: lles cymdeithasol; llenyddiaeth, celfyddydau a threftadaeth; achosion amgylcheddol; cadwraeth a lles anifeiliaid; gofal iechyd ac ymchwil feddygol; addysg a hyfforddiant; amrywiol; ac apeliadau dramor. Dim ond i elusennau cofrestredig sy’n brofiadol yn eu maes gwaith y rhoddir grantiau a rhoddir ystyriaeth benodol i elusennau sy’n rhoi pwyslais ar Gristnogaeth. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.marshchristiantrust.org.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Ymddiriedolaeth Dulverton
Mae'r ymddiriedolaeth yn rhoi grantiau i elusennau cofrestredig lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn y DU. Rhoddir blaenoriaeth i elusennau sy’n gweithio mewn meysydd lle mae amddifadedd a/neu unigrwydd difrifol. Rhoddir grantiau i fudiadau a ddaw dan y categorïau canlynol: pobl ifanc ac addysg; lles cyffredinol; cadwraeth; gwarchodaeth; heddwch a chymorth dyngarol; ac Affrica. Mae rhagor o fanylion ar gael gan www.dulverton.org.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Cynllun Grant Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol 2010-2011
Bydd Grant Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol yn cefnogi cyfleoedd i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig a chymunedau lleiafrifoedd ethnig wirfoddoli ar lefel ryngwladol.
Mae cynllun Grantiau Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol yn anelu at roi blaenoriaeth i ddarparu cyfleoedd yn uniongyrchol gydag ystod eang o bobl ifanc (16 - 25 oed), ac ar eu cyfer, ac yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fudiadau sy’n gweithio â’r canlynol: pobl ifanc o gymunedau difreintiedig: yn benodol o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a chymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; pobl ifanc a chanddynt anableddau corfforol neu anableddau dysgu; pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed; pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEETS).
Bydd y cynllun yn rhoi hyd at £30,000 o gyllid prosiect am flwyddyn ar gyfer rhaglen weithgareddau strwythuredig a fydd yn cynnig profiadau gwirfoddoli rhyngwladol o safon i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Y dyddiad cau ar gyfer pob cais fydd 16 Mehefin 2010. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw'n cael eu hystyried. Gofynnir i’r ymgeiswyr anfon copi o fersiwn derfynol eich cais dros e-bost at GwirVol@wcva.org.uk os gwelwch yn dda, yn ogystal ag anfon copi caled wedi’i lofnodi, gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo i brosesu eich cais cyn gynted ac mor effeithlon â phosibl. Rhaid i Swyddfa WCVA ym Mae Caerdydd dderbyn y copi caled wedi’i lofnodi erbyn 16 Mehefin 2010.
Y Cyngor Prydeinig – Grantiau Ymchwil Dysgu Saesneg (Eltra)
Nod y cynllun newydd hwn yw dyrannu nifer o grantiau i hwyluso ymchwil arloesol a fydd o fudd i ddysgu ac addysgu Saesneg ledled y byd. Gall unrhyw berson sy’n byw yn y DU ac sydd â chysylltiad â sefydliad addysg yn y DU fod yn gymwys i wneud cais. Mae manylion pellach ar gael ar wefan Cyngor Prydeinig.
Comic Relief – Rhaglen Grantiau Rhyngwladol
Mae Comic Relief, a gododd dros £78 miliwn yn ddiweddar o ganlyniad i’w Diwrnod Trwyn Coch, wedi cyhoeddi canllawiau sydd wedi’u diwygio’n llwyr ar gyfer eu rhaglen grantiau rhyngwladol ar gyfer 2009-12. Gan ddefnyddio’r pennawd ‘A just world free from poverty’, mae’r meysydd sy’n cael blaenoriaeth yn cynnwys: masnach; pobl wedi’u heffeithio gan HIV/AIDS; pobl wedi’u heffeithio gan wrthdaro; plant a phobl ifanc sy’n byw ar y stryd ac sy’n gweithio; pobl sy’n byw mewn slymiau trefol; merched a genethod; chwaraeon dros newid; mudiadau bach ac sy’n cael eu harwain gan alltudion. Mae rhagor o fanylion am y Rhaglen Grantiau Rhyngwladol a Rhaglen Grantiau’r DU ar gael yma.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 15 Mehefin 09)
Ymddiriedolaeth Elusennol Equitable
Nod yr Ymddiriedolaeth yw hybu addysg pobl ifanc o dan 25 oed, yn enwedig rhai ag unrhyw fath o anabledd meddyliol neu gorfforol neu sy’n profi anfantais mewn unrhyw ffordd. Rhennir y grantiau’n dri chategori: prosiectau neu wasanaethau addysgol eu natur sy’n cefnogi dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc anabl yn y DU, yn enwedig rhai sy’n cefnogi cyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol neu gyfleoedd dysgu galwedigaethol; a phrosiectau tramor a fydd yn helpu i gynyddu cyfranogiad, neu wella safon addysg plant a phobl ddifreintiedig neu anabl mewn gwledydd datblygol. Gellir defnyddio’r grantiau a roddir gan yr Ymddiriedolaeth tuag at gostau prosiectau, gwariant cyfalaf, offer a/neu gostau cyflog. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)
Cronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID)
Mae Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer ei Phrif Raglen Grantiau Ymwybyddiaeth o Ddatblygu ar gyfer 2010 -11. Mae’r Gronfa’n agored i unrhyw fudiad neu rwydwaith yn y DU sy’n dymuno gweithio o fewn agenda’r DU i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dlodi byd-eang a sut y gellir ei leihau. Bydd y grantiau’n amrywio rhwng £10,000 a £100,000 y flwyddyn, ac mae’r arian hwn yn cynnwys prosiectau sy’n dechrau ar ôl Ebrill 2010. Gall y grantiau gael eu dyfarnu am hyd at dair blynedd.
Yn ogystal â’r rhaglen Prif Grantiau, mae gan yr Adran raglen Grantiau Bach. Mae hon yn dyfarnu grantiau ar gyfer pob un o wledydd y DU ac mae’n werth rhwng £1,000 a £10,000 y prosiect. Mae’r dyddiad cau’n debygol o fod tua diwedd mis Hydref 2009. Mae gwybodaeth lawn a ffurflenni cais ar gael yma.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 3 Mehefin 09)
Ymddiriedolaeth Nominet
Gwahoddir ceisiadau i gefnogi cynlluniau Rhyngrwyd yn y DU ac yn rhyngwladol yn y sectorau addysg, ymchwil a datblygu, diogelwch ac allgau cymdeithasol. Dylai prosiectau gyd-fynd ag anghenion grwpiau targed yr Ymddiriedolaeth, sef pobl ifanc, pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl â salwch, a rhai sydd dan anfantais ac agored i niwed yn gyffredinol. Fel y gellid disgwyl, gwneir ceisiadau ar-lein. Mae holiadur cymhwysedd cychwynnol ar gael. Cyfeiriad gwefan yr Ymddiriedolaeth yw www.nominettrust.org.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 1 Mai 09)
Sefydliad Waterloo
Mae’r Sefydliad yn ymddiddori mewn prosiectau sy’n helpu ar raddfa fyd-eang, yn enwedig mewn meysydd sy’n ymdrin ag anghydraddoldeb cyfoeth a materion hinsawdd. Ei nod yw cynorthwyo’r gymuned fyd-eang a’r gymuned leol yng Nghymru trwy gyfrwng y pedair prif raglen ganlynol: datblygiad byd; datblygiad plant, yr amgylchedd a phrosiectau yng Nghymru.

