Pobl hŷn
Sefydliad Elusennol W G Edwards
Nod y sefydliad yn bennaf yw darparu gofal ar gyfer pobl oedrannus. Prif nod y sefydliad yw darparu gofal ar gyfer pobl oedrannus drwy elusennau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer prosiectau cyfalaf a chynlluniau o ofal parhaus. Fodd bynnag, yn ogystal â hynny mae’r sefydliad yn ceisio cynnig cefnogaeth ariannol arall drwy: gefnogi cynifer o brosiectau ag sy’n bosib drwy roi grantiau llai; rhoi er mwyn ailwampio ac adeiladu prosiectau sydd bron â chael eu cwblhau yn lle’r rheini sydd yn y camau cynllunio; cefnogi gwahanol bobl hŷn megis y rheini sy’n ddall neu sy’n ddigartref; noddi unigolion ac eitemau a enwyd yn hytrach na chyfrannu at gronfa gyfun. Mae rhagor o fanylion ar gael gan www.wgedwardscharitablefoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 99)
Ymddiriedolaeth Beatrice Laing
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau yn y categorïau canlynol: plant ac ieuenctid – lles plant, addysg, datblygu ieuenctid; iechyd a meddyginiaeth – caethiwed/ailsefydlu, anabledd/anfantais gorfforol, gwasanaethau brys, ymchwil a lles meddygol, iechyd meddwl/anfantais feddyliol; cymorth dramor – prosiectau datblygu, prosiectau cymorth; crefydd – gwaith maes, crefydd: cartref, crefydd: unigolion, crefydd: tramor; a lles cymdeithasol – lluoedd arfog, prosiectau cymunedol, gostwng lefelau troseddu/lles carchar, yr henoed, tai, prosiectau lles. Gellir cael mwy o fanylion gan Elizabeth A Harley, Gweinyddwr, ffôn 020 8238 8890.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Ymddiriedolaeth Childwick
Mae Ymddiriedolaeth Childwick yn darparu cyllid i elusennau cofrestredig ar gyfer helpu pobl a chanddynt anableddau, hyrwyddo iechyd, helpu hen bobl anghenus ac ar gyfer lles pobl sy’n gysylltiedig â’r byd rasio ceffylau. Mae'r grantiau sydd ar gael ar gyfer prosiectau yn y categorïau canlynol: iechyd; y byd rasio; cymunedau Iddewig. Nid oes isafswm nac uchafswm grant wedi’i bennu, er bod y rhan fwyaf o grantiau yn y categori iechyd rhwng £2,000 a £10,000 fel arfer, gyda nifer fach o symiau mwy sylweddol i’w dyrannu ar gyfer prosiectau mwy. Mae’r Ymddiriedolwyr yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau ym mis Mai a mis Rhagfyr fel arfer, a gellir gwneud ceisiadau unrhyw adeg.
Rhaglen grantiau bach Sefydliad y Nationwide
Gall elusennau sy’n gweithio er budd pobl hŷn neu bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig wneud cais am grantiau bach i wella eu hanghenion tai neu i fynd i’r afael ag allgáu ariannol. Mae Rhaglen Grantiau Bach Sefydliad y Nationwide yn rhoi grantiau bob deufis. Mae grantiau gwerth hyd at £5,000 ar gael i elusennau cofrestredig gyda llai na £500,000 o incwm. Os hoffech wneud cais am gyllid a chael gwybod mwy am y meini prawf, dylech fynd i www.nationwidefoundation.org.uk neu anfon e-bost i enquiries@nationwidefoundation.org.uk.
Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington
Mae Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington yn dyfarnu grantiau i fudiadau elusennol yn y Deyrnas Unedig a thramor. Yn 2010, mae grantiau o rhwng £1,000 a £10,000 ar gael i brosiectau yn y meysydd canlynol: plant, ieuenctid, yr henoed a phrosiectau ymchwil meddygol sy'n ymdrin â’r boblogaeth hŷn. Croesewir ceisiadau gan fudiadau elusennol yn y DU. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 1 Mehefin a 1 Tachwedd bob blwyddyn.
www.austin-hope-pilkington.org.uk/
(Ffynhonnell: Y diweddaraf gan Grantfinder, Tachwedd 09)
Sefydliad Redrow
Nodau'r Sefydliad yw lliniaru tlodi a salwch yn y DU ac, yn benodol, darparu llety a chymorth perthnasol, gan gynnwys gofal seibiant, yn enwedig i blant, yr henoed a'r rheini sy'n wael neu’n fethedig. Mae’r ymddiriedolaeth yn awyddus i gefnogi ceisiadau lle bydd y grant yn cynorthwyo i ddarparu nodau neu amcanion ac yn cael effaith anghymesur a sylweddol yn ariannol ar yr elusen sy’n ei dderbyn. I gael mwy o fanylion cysylltwch â Sefydliad Redrow, Redrow House, Parc Dewi Sant, Sir y Fflint CH5 3RX. Ffôn 01244 520044.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 92)
Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer
Defnyddir y grantiau i gefnogi ystod eang iawn o achosion da, gan gynnwys: plant; pobl ifanc; yr henoed a phobl fethedig; ysbytai a chartrefi; pobl ddall a phobl fyddar; pobl anabl; pobl dan anfantais meddwl; ymchwil feddygol ac ymchwil arall; dibenion morol; y lluoedd arfog; mudiadau gofalu; mudiadau gwirfoddol a chronfeydd ac ymddiriedolaethau eraill, ysgolion a cholegau; gweithgareddau hamdden; anifeiliaid a bywyd gwyllt; a chyrff crefyddol. I gael manylion ymgeisio cysylltwch ag ysgrifenyddion yr ymddiriedolaeth: Ward Hadaway, Sandgate House, 102 Quayside, Newcastle upon Tyne NE1 3DX.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 92)
Sefydliad Baring - y celfyddydau a phobl hŷn
Mae Sefydliad Baring yn bwriadu lansio rhaglen ariannu newydd ym mis Hydref 2009 i gefnogi mudiadau celfyddydol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithio gyda phobl hŷn. Bydd y rhaglen hon ar waith am bum mlynedd a bydd yn werth cyfanswm o £3 miliwn. Bydd y rhaglen newydd ar gyfer y celfyddydau a phobl hŷn yn gwahodd ceisiadau drwy gyfrwng pum rownd ymgeisio flynyddol. Rhoddir grantiau ar gyfer costau craidd i fudiadau celfyddydol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithio gyda phobl hŷn.
Ar hyn o bryd, mae'r Sefydliad wrthi'n cynhyrchu adroddiad mapio sy'n edrych ar yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd ym maes y celfyddydau a phobl hŷn, a'r bwriad yw cyhoeddi'r adroddiad ym mis Medi 2009. Os ydych yn gweithio i fudiad celfyddydol sy'n gweithio gyda phobl hŷn, mae Sefydliad Baring yn awyddus i glywed gennych yn awr, nid i gael cais gennych, dim ond i gael gwybod eich bod yno ac ymhle rydych chi'n gweithio. Dylech anfon e-bost gyda'ch manylion at David Cutler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Baring, e-bost david.cutler@uk.ing.com.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 15 Gorffennaf 09)
Sefydliad John Ellerman
Mae’r sefydliad yn rhoi pwyslais arbennig ar gynorthwyo elusennau sy’n gweithio â phobl hŷn, yn enwedig rhai dros 75 oed ac sy’n byw mewn tlodi ac unigrwydd. Croesewir ceisiadau gan elusennau cenedlaethol sy’n gweithio gyda neu ar ran pobl hŷn ac yn arbennig rhai sy’n darparu cymorth mewn ffyrdd ymarferol, yn fwyaf arbennig i: leihau unigrwydd a mynd i’r afael â thlodi; hyrwyddo iechyd a lles; annog cysylltiad teuluol a rhwng y cenedlaethau; a gwella ansawdd tai, diogelwch a gofal preswyl. Mae’r elusen hefyd yn dyfarnu grantiau yn y pum categori canlynol: iechyd ac anabledd; lles cymdeithasol; cadwraeth; gwaith tramor.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 88)
Sefydliad Sobell
Bydd y Sefydliad yn cefnogi ceisiadau gan elusennau cofrestredig sy’n gweithio yn y meysydd canlynol: gofal a thriniaeth feddygol, gan gynnwys gofal seibiant a hosbisau; gofal i oedolion a phlant ag anableddau corfforol a meddyliol; addysg a hyfforddiant i oedolion a phlant ag anableddau corfforol a dysgu; gofal a chefnogaeth i bobl hŷn; gofal a chefnogaeth i blant; digartrefedd. Mae manylion pellach ar gael yn www.sobellfoundation.org.uk neu e-bostiwch enquiries@sobellfoundation.org.uk.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)
Ymddiriedolaeth Elusennol P F
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo amrywiaeth eang o achosion elusennol yn y DU, gan gynnwys: atal tlodi; hyrwyddo – tlodi, addysg, crefydd, iechyd neu arbed bywydau, dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol, y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth, chwaraeon amatur, hawliau dynol, datrys gwrthdaro neu gymodi, neu hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb neu amrywiaeth, amddiffyn neu wella’r amgylchedd; cymorth i rai mewn angen oherwydd ieuenctid, henaint, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall. Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig ynghyd â gwybodaeth lawn i D Pocknee, Secretary, P F Charitable Trust, c/o R F Trustee Co Ltd, Ely House, 37 Dover Street, Llundain WIS 4NJ. Ffôn 020 7409 5685.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)
Sefydliad Djanogly
Mae’r Sefydliad yn cefnogi datblygiadau mewn: meddygaeth, addysg, lles cymdeithasol a’r celfyddydau. Rhoddir grantiau hefyd i ariannu prosiectau sy’n lleddfu trallod ac sy’n hybu lles pobl hŷn a phobl ifanc. Mae manylion pellach ar gael oddi wrth Sefydliad Djanogly, ffôn 020 7930 9845.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)
Sefydliad Charles Hayward
Mae’r Sefydliad yn ariannu costau cyfalaf yn bennaf ac weithiau, bydd cyllid prosiect ar gael ar gyfer gweithgareddau sefydlu neu ddatblygu os nad ydynt yn rhan o ofynion refeniw arferol y mudiad. Mae’r Sefydliad yn ariannu’r categorïau canlynol ar hyn o bryd: treftadaeth a chadwraeth; cyfiawnder troseddol; hosbisau; pobl hŷn; tramor; cynlluniau grant bach hyd at £5,000.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)

