Ymchwil
Grantiau Ymchwil ac Arloesedd (DU)
Mae Sefydliad Nuffield yn gwahodd ceisiadau drwy gyfrwng ei raglen Grantiau Ymchwil ac Arloesedd. Mae’r Sefydliad yn cefnogi mudiadau elusennol a dielw sydd â syniadau creadigol i ddatgan y newidiadau a’r ymyriadau a fydd yn cael effaith ymarferol ar ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr. Ar hyn o bryd, ceir tair rhaglen grant sy’n cefnogi ymchwil ac arloesedd er mwyn sicrhau newid cymdeithasol buddiol, a’r rhain yw; Y Gyfraith mewn Cymdeithas Gymdeithasol - mae’r rhaglen hon yn hybu defnydd a dealltwriaeth o’r system gyfiawnder sifil; Plant a Theuluoedd - mae’r rhaglen hon yn helpu i sicrhau bod y fframwaith cyfreithiol a sefydliadol yn cael ei addasu yn y dull gorau posibl er mwyn diwallu anghenion plant a theuluoedd; a Drws Agored - mae’r rhaglen hon ar gyfer prosiectau sy’n hybu lles cymdeithasol, ond heb fod yn rhan o’u prif feysydd. Fel rheol, mae’r grantiau rhwng £5,000 a £150,000.
(Ffynhonnell: Cylchlythyr Cyllido Grants Online, Gorffennaf 10)
Ymddiriedolaeth Beatrice Laing
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau yn y categorïau canlynol: plant ac ieuenctid – lles plant, addysg, datblygu ieuenctid; iechyd a meddyginiaeth – caethiwed/ailsefydlu, anabledd/anfantais gorfforol, gwasanaethau brys, ymchwil a lles meddygol, iechyd meddwl/anfantais feddyliol; cymorth dramor – prosiectau datblygu, prosiectau cymorth; crefydd – gwaith maes, crefydd: cartref, crefydd: unigolion, crefydd: tramor; a lles cymdeithasol – lluoedd arfog, prosiectau cymunedol, gostwng lefelau troseddu/lles carchar, yr henoed, tai, prosiectau lles. Gellir cael mwy o fanylion gan Elizabeth A Harley, Gweinyddwr, ffôn 020 8238 8890.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, Rhifyn 100)
Cronfa Ymchwil Gymdeithasol Syniadau Newydd
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwahodd cynigion dan ei Chronfa Ymchwil Gymdeithasol Syniadau Newydd. Nod y gronfa yw cefnogi prosiectau ymchwil ar raddfa fach sy’n ymdrin â themâu sy’n amlwg yn berthnasol i’r amcanion strategol a amlinellir yn Cymru’n Un: rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru. Mae’r meysydd polisi y maent yn croesawu cynigion ar eu cyfer fel a ganlyn: cymunedau; diogelwch cymunedol; llywodraeth leol; cydraddoldeb; gwasanaethau cyhoeddus a pherfformiad; tai; plant; addysg, dysgu gydol oes a sgiliau; ac iechyd. Gellir gwneud cais am grant hyd at £10,000, a gaiff ei dalu mewn dau daliad. Byddwch yn cael y taliad cyntaf ar ôl cyflwyno adroddiad interim a’r ail daliad ar ôl gorffen.
Sefydliad Bupa – Cronfa Sbarduno Philip Poole-Wilson
Mae’r Gronfa hon yn gwahodd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n gysylltiedig ag ymchwil, neu ymchwilwyr mewn prifysgolion sydd â diddordeb mewn iechyd neu ofal cymdeithasol, i ymgeisio am nawdd ar gyfer prosiectau ymchwil peilot/arbrofol yn y meysydd canlynol: llawdriniaeth; epidemioleg a meddygaeth ataliol; gwybodaeth am iechyd a chyfathrebu rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol iechyd; iechyd yn y gwaith; iechyd meddwl pobl hŷn. Mae gan y Gronfa gyfanswm o £200,000 y flwyddyn i ddarparu grantiau sbarduno unigol o hyd at £20,000 i bob cais. Y dyddiad cau blynyddol ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Gorffennaf, er mwyn i’r cynigion gael eu hystyried yng nghyfarfod mis Tachwedd y Bwrdd. Mae manylion pellach ar gael yma.
Gwobr Menywod a Digartrefedd Val Feld
Mae’r Wobr hon yn awr ar agor ar gyfer ceisiadau yn 2010 a’i bwriad yw cydnabod arloesedd a ffyrdd newydd o ymateb i fenywod ag anghenion tai ledled Cymru. Ceir defnyddio’r Wobr ar gyfer gwasanaethau, ymchwil gweithredu neu ddarn o waith academaidd. Gall hefyd helpu grwpiau i sefydlu cronfa/prosiect newydd neu helpu i ddatblygu prosiect sydd eisoes ar waith. Caiff unigolion a mudiadau sy’n cynnal ymchwil i faterion sy’n ymwneud â menywod, tai a digartrefedd wneud cais. Mae’r wobr ariannol yn £3,000.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Ionawr 10)
Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington
Mae Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington yn dyfarnu grantiau i fudiadau elusennol yn y Deyrnas Unedig a thramor. Yn 2010, mae grantiau o rhwng £1,000 a £10,000 ar gael i brosiectau yn y meysydd canlynol: plant, ieuenctid, yr henoed a phrosiectau ymchwil meddygol sy'n ymdrin â’r boblogaeth hŷn. Croesewir ceisiadau gan fudiadau elusennol yn y DU. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 1 Mehefin a 1 Tachwedd bob blwyddyn.
www.austin-hope-pilkington.org.uk/
(Ffynhonnell: Y diweddaraf gan Grantfinder, Tachwedd 09)
Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer
Defnyddir y grantiau i gefnogi ystod eang iawn o achosion da, gan gynnwys: plant; pobl ifanc; yr henoed a phobl fethedig; ysbytai a chartrefi; pobl ddall a phobl fyddar; pobl anabl; pobl dan anfantais meddwl; ymchwil feddygol ac ymchwil arall; dibenion morol; y lluoedd arfog; mudiadau gofalu; mudiadau gwirfoddol a chronfeydd ac ymddiriedolaethau eraill, ysgolion a cholegau; gweithgareddau hamdden; anifeiliaid a bywyd gwyllt; a chyrff crefyddol. I gael manylion ymgeisio cysylltwch ag ysgrifenyddion yr ymddiriedolaeth: Ward Hadaway, Sandgate House, 102 Quayside, Newcastle upon Tyne NE1 3DX.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 92)
Y Cyngor Prydeinig – Grantiau Ymchwil Dysgu Saesneg (Eltra)
Nod y cynllun newydd hwn yw dyrannu nifer o grantiau i hwyluso ymchwil arloesol a fydd o fudd i ddysgu ac addysgu Saesneg ledled y byd. Gall unrhyw berson sy’n byw yn y DU ac sydd â chysylltiad â sefydliad addysg yn y DU fod yn gymwys i wneud cais. Mae manylion pellach ar gael ar wefan Cyngor Prydeinig.
Ymddiriedolaeth Nominet
Gwahoddir ceisiadau i gefnogi cynlluniau Rhyngrwyd yn y DU ac yn rhyngwladol yn y sectorau addysg, ymchwil a datblygu, diogelwch ac allgau cymdeithasol. Dylai prosiectau gyd-fynd ag anghenion grwpiau targed yr Ymddiriedolaeth, sef pobl ifanc, pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl â salwch, a rhai sydd dan anfantais ac agored i niwed yn gyffredinol. Fel y gellid disgwyl, gwneir ceisiadau ar-lein. Mae holiadur cymhwysedd cychwynnol ar gael. Cyfeiriad gwefan yr Ymddiriedolaeth yw www.nominettrust.org.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 1 Mai 09)

