Menter gymdeithasol
Gwobrau Gweithredu Lefel Sylfaenol Prydain 2010
Drwy enwebiadau a phroses ddethol gan banel o arbenigwyr, mae’r wobr hon yn ceisio cydnabod cyflawniadau mudiadau lleol sy’n gweithio ar lawr gwlad ac entrepreneuriaid cymdeithasol; sydd wedi bod ar flaen y gad o ran hyrwyddo newid cymdeithasol, a gwella ansawdd bywydau drwy weithredoedd sydd wedi cael effaith barhaus ar lefel gymunedol. Gofynnir am enwebiadau ar gyfer enillwyr posib o bob cwr o'r DU. Byddai enwebiadau’n cael eu hystyried ar gyfer wyth categori gwobr. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 4 Medi 2010. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen wobrau, cliciwch yma.
Sefydliad Bill a Melinda Gates yn lansio cronfa buddsoddiad cymdeithasol
Mae elusennau yn y Deyrnas Unedig ymhlith y rheiny sy’n gymwys i ymgeisio am fenthyciadau a buddsoddiad gan ymddiriedolaeth ddyngarol fwyaf y byd - Sefydliad Bill a Melinda Gates [Saesneg yn unig]. Mae’r Sefydliad wedi lansio cronfa buddsoddiad cymdeithasol werth $400m (£252m) a fydd yn cynnig cyllid benthyg, tansgrifeniad a buddsoddiadau ecwiti ar gyfer mudiadau nid-er-elw a busnesau sydd â phwrpas cymdeithasol. Dywedodd y sefydliad, ymddiriedolaeth ddyngarol fwyaf y byd, ei bod am wneud ei harian mor effeithiol â phosib yn wyneb lleihad yng ngwerth marchnadoedd ecwiti sydd, fe gredir, wedi tocio 20 y cant oddi ar werth ei waddol. Bydd y sefydliad yn rhedeg peilot dwy i dair blynedd, ac wedi hynny, gallai gynyddu swm yr arian sydd ar gael ar gyfer buddsoddi cymdeithasol.
(Ffynhonnell: Trydydd Sector Ar-lein, 2/10/09)
Prosiect Cymorth i fentrau cymdeithasol Canolfan Cydweithredol Cymru
Bydd y Prosiect Cymorth i Fentrau Cymdeithasol yn cynorthwyo o leiaf 150 o fudiadau sy’n weithredol eisoes ac mae’n gobeithio creu dros 50 o fentrau cymdeithasol newydd a 300 o swyddi fel rhan o raglen pum mlynedd. Bydd y Prosiect yn cynnig pecynnau cymorth datblygu sefydliadol gan ddefnyddio amrywiaeth o gyflenwyr wedi’u caffael. Bydd y cymorth yn cael ei roi ar ffurf cyngor ac arweiniad, mentora a hyfforddi, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Hefyd, bydd y prosiect newydd yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad y mae mentrau cymdeithasol a chydweithredol yn ei wneud at adfywio cymdeithasol ac economaidd. Mae’r cymorth ar gael ar unrhyw adeg.
Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyngor a chymorth ariannol i fusnesau a chymunedau gwledig ledled Cymru, gan gau’r bwlch yn y ddarpariaeth o ffynonellau ariannu traddodiadol. Targedir y gefnogaeth at fusnesau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol mewn pentrefi ac aneddiadau gwledig. Os mai dim ond un siop sydd mewn pentref, gall perchnogion y siop honno dderbyn gwerth diwrnod a hanner o gyngor adwerthu arbenigol. Ar ôl derbyn cyngor, gall busnesau wneud cais am hyd at £5,000 i helpu i roi mesurau ar waith i wneud y busnes yn fwy cynaliadwy. Cynigir cymorth mewn amgylchiadau lle mae cymuned eisoes wedi colli ei siop leol hefyd. Bydd grantiau o hyd at £10,000 yn caniatáu i wasanaethau gael eu hadfer. Gellir cyflwyno cais unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: Grantfinder Update Bulletin, 2 Mehefin 10)

