Chwaraeon ac adloniant

Gwobrau Cymunedol Kerrygold
Eisiau cael gwybod beth yw barn y cyhoedd ym Mhrydain am eich gwaith? Os felly, beth am gymryd rhan yng Ngwobrau Cymunedol Kerrygold? Bydd yr enillwyr yn derbyn hyd at £2,000. Mae’r dyfarniadau’n agored i unrhyw brosiect lleol yn y DU sydd â’i staff yn aelodau o’r gymuned honno. Y peth mwyaf diddorol ymhlith y gofynion yw na ddylai’r prosiectau fod ynghlwm wrth elusennau cofrestredig cenedlaethol. Rhennir y prosiectau’n gategorïau: y celfyddydau; chwaraeon a lles; helpu eraill; adfywio ardal, natur a’r amgylchedd; byw cynaliadwy; sgiliau addysgu; annog ymgynnull cymunedol; arall. Mae’r gwobrau’n agored i brosiectau cymunedol yn y DU sy'n ceisio helpu'r gymuned yn union o'u hamgylch ac sydd â'u staff yn aelodau o'r gymuned honno. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.kerrygoldcommunityawards.co.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 16/7/10)

Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn agored i geisiadau gan grwpiau sy’n cyflwyno prosiectau rhanbarthol. Mae’r rheolau wedi cael eu newid. Y tri newid yw: rowndiau unigol ar gyfer mudiadau o bob maint; newid yn y swm y gellir gwneud cais amdano ac mae nifer y geiriau yn y ceisiadau’n cael eu cyfrif. Mae pob agwedd arall yn aros yr un fath. Y pedwar maes ar gyfer y grantiau yw: chwaraeon, y celfyddydau, yr amgylchedd a chymunedau.

Mae’r tair rownd ar wahân ar gyfer pob categori ymgeisio fel a ganlyn:

Rhanbarthol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu rhanbarth yng Nghymru neu ardal awdurdod lleol wneud cais am hyd at £7,500. Y dyddiad cau yw 6 Medi (hanner dydd).

Lleol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu eu cymuned leol neu eu tref wneud cais am hyd at £2,500. Y dyddiad cau yw 22 Rhagfyr 2010 (hanner dydd).

Cenedlaethol: gall mudiadau sydd â chylch gorchwyl i wasanaethu Cymru gyfan wneud cais am hyd at £12,500. Mae’r cynllun yn agored o ddechrau mis Mawrth tan ddydd Gwener 22 Ebrill 2011 (hanner dydd).

Sylwer os ydych wedi derbyn grant yna ni allwch ailymgeisio nes i 3 blynedd fynd heibio o ddyddiad eich llythyr cynnig.

Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau wedi’u diweddaru ar gael o www.millenniumstadiumtrust.co.uk.

Sefydliad Peter Cruddas
Mae Sefydliad Peter Cruddas yn dyfarnu grantiau i elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU ar gyfer rhaglenni sy’n helpu pobl ifanc ddifreintiedig ac sydd wedi ymddieithrio i fwrw ymlaen â’u haddysg ac, yn fwy cyffredinol, i ddatblygu’u potensial nail ai drwy chwaraeon neu hamdden, rhaglenni gwirfoddol neu drwy ryw ffordd arall. Nid oes lleiafswm nac uchafswm ar gyfer lefel y grant, a gellir ariannu prosiectau am fwy na blwyddyn.

Grantiau Comic Relief UK
Bu rhywfaint o newidiadau i ddyddiadau cau ar gyfer ceisiadau i raglen grantiau Comic Relief UK. Mae’r blaenoriaethau’n ymdrin â phobl ifanc y cam-fanteisir arnynt yn rhywiol ac sy’n cael eu masnachu, alcohol a phobl ifanc, sicrhau newid drwy chwaraeon, cam-drin domestig a rhywiol a phobl ifanc, menywod sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches, iechyd meddwl, ac iechyd meddwl a phobl ifanc. Nid yw manylion y rhaglenni i gefnogi pobl hŷn a gofalwyr ifanc wedi eu cyhoeddi eto. Fe’ch anogir i wneud cais pan fyddwch yn barod, ond ystyrir ceisiadau ar amseroedd penodedig.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 18/11/09)

Comisiynau ‘Unlimited’
Mae Comisiynau Unlimited yn rhan o agwedd bedair-ffordd at ddathlu celfyddyd, diwylliant a chwaraeon pobl anabl fel rhan o Olympiad Diwylliannol Llundain 2012. Mae cronfa gomisiwn gwerth £1.5 miliwn wedi'i sefydlu i gefnogi'r broses o gynhyrchu gwaith o safon gan arlunwyr anabl neu fyddar a mudiadau celfyddydol a arweinir gan bobl anabl neu fyddar ledled y DU. Mae pedair elfen i’r rhaglen: Comisiynau Unlimited; Talent Unlimited; Unlimited yn Cyflwyno ac Unlimited yn Rhyngwladol. Croesewir ceisiadau ar gyfer Comisiynau Unlimited gan arlunwyr anabl neu fyddar a mudiadau celfyddydol sy'n cael eu harwain gan bobl fyddar neu anabl ledled y DU sydd am ddatblygu eu gwaith, rhoi hwb i’w harferion celfyddydol, herio rhagdybiaethau a chreu partneriaethau newydd gyda digwyddiadau a chanolfannau arddangos. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y wefan neu cysylltwch â swyddfa’ch cyngor celfyddydau - Jennifer.stoves@artswales.org.uk.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 21/10/09)

Sefydliad y Teulu Taylor
Bwriad y sefydliad yw helpu a chynorthwyo plant a phobl ifanc, yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig, ym maes addysg, iechyd, hamdden a’r celfyddydau perfformio. Gellir cael rhagor o fanylion yn www.thetaylorfamilyfoundation.co.uk.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 91)

Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer
Defnyddir y grantiau i gefnogi ystod eang iawn o achosion da, gan gynnwys: plant; pobl ifanc; yr henoed a phobl fethedig; ysbytai a chartrefi; pobl ddall a phobl fyddar; pobl anabl; pobl dan anfantais meddwl; ymchwil feddygol ac ymchwil arall; dibenion morol; y lluoedd arfog; mudiadau gofalu; mudiadau gwirfoddol a chronfeydd ac ymddiriedolaethau eraill, ysgolion a cholegau; gweithgareddau hamdden; anifeiliaid a bywyd gwyllt; a chyrff crefyddol. I gael manylion ymgeisio cysylltwch ag ysgrifenyddion yr ymddiriedolaeth: Ward Hadaway, Sandgate House, 102 Quayside, Newcastle upon Tyne NE1 3DX.
(Ffynhonnell: Adroddiad Cyllid Elusennau, rhifyn 92)

Gwobrau Sport Relief UnLtd
Mae UnLtd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ei Wobrau Sport Relief. Croesewir ceisiadau gan bobl ifanc yn y DU sydd rhwng 11 a 21 oed ac sydd am ddefnyddio chwaraeon neu’r celfyddydau i oresgyn problemau yn eu cymuned ac i ddod â phobl at ei gilydd. Gall gwerth y grantiau fod hyd at £10,000. Gallwch hefyd ffonio 0845 367 0770 neu e-bostio sportreliefawards@unltd.org.uk. Gellir llwytho ffurflen gais i lawr yn www.culturegroup.co.uk/UnLtd/USRappform.pdf ac mae’n cynnwys arweiniad defnyddiol i’r math o wybodaeth y bydd disgwyl i berson ifanc ei rhoi.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 8/9/09)

Gwobr Cyflawnwyr Ifanc
Bwriad y cynllun gwobrau i Gyflawnwyr Ifanc yw cydnabod gwirfoddolwyr ifanc (rhwng 16 a 25 oed) yn y gymuned, y celfyddydau, yr amgylchedd a chwaraeon ac mae ar agor ar gyfer enwebiadau hyd at 27 Medi. Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.youngachievers.co.uk/.

Cash 4 Clubs
Mae Cash 4 Clubs, corff sy'n rhoi grantiau bychain i glybiau chwaraeon yn y gymuned, wedi ehangu ei gylch gorchwyl ac, o hyn ymlaen, bydd yn gweithio ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig. Gwahoddir y ceisiadau cyntaf yn awr gan fudiadau chwaraeon ar lawr gwlad y mae angen grant o hyd at £1,000 arnynt i wella cyfleusterau, i brynu offer newydd, i dalu am hyfforddiant neu i ddatblygu cynaliadwyedd y clwb mewn rhyw ffordd.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 1 Gorffennaf 09)

Grantiau’r Cyngor Chwaraeon yng Nghymru
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn rhedeg nifer o gynlluniau sy’n cynnig grantiau ar lefel gymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys: y Gist Gymunedol, Sportsmatch Cymru, a Grant Datblygu.

Y Gist Gymunedol
Rhoddir grantiau’r Gist Gymunedol i brosiectau bach sy’n annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn amlach. Dyfernir hyd at £1,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Mae’r cynllun wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd bellach.

Sportsmatch Cymru
Trefniadau nawdd newydd mewn chwaraeon sy’n gyfle i sicrhau arian cyfatebol £ am £ gan Sportsmatch Cymru ar gyfer cynlluniau sy’n costio rhwng £300 a £50,000.

Grant Datblygu
Mae’r Grant Datblygu yn cefnogi prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn cymunedau. Dylai’r prosiectau un ai fod yn newydd neu’n codi safon gweithgareddau cyfredol. Fe’u dyfernir ar gyfer prosiectau mwy na’r rhai sy’n gymwys i dderbyn cymorth y Gronfa Gymunedol. Mae’r grantiau’n amrywio rhwng £1,001 a £25,000 a gellir eu gwario ar fân gyfleusterau fel llif oleuadau neu fannau lle gellir chwarae nifer o gemau gwahanol, neu ar gyfer cynlluniau refeniw neilltuol sy’n cefnogi datblygiad pobl drwy hyfforddiant neu ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl.

Mae manylion llawn am grantiau Cyngor Chwaraeon Cymru ar gael yma.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 7 Mai 09)

Ymddiriedolaeth Elusennol Helen & Geoffrey De Freitas
Rhoddir grantiau ar gyfer prosiectau yn y meysydd canlynol: i helpu cadwraeth cefn gwlad ac amgylchedd Prydain; i ddiogelu treftadaeth Prydain; ac i gynorthwyo pobl ddifreintiedig trwy gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, canolfannau cynghori a chelfyddydau cymunedol a hamdden. Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig at: Ms F de Freitas, Helen & Geoffrey De Freitas Charitable Trust, 6 New Street, Llundain EC4A 3BF.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 87)

Ymddiriedolaeth Elusennol P F
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo amrywiaeth eang o achosion elusennol yn y DU, gan gynnwys: atal tlodi; hyrwyddo – tlodi, addysg, crefydd, iechyd neu arbed bywydau, dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol, y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth, chwaraeon amatur, hawliau dynol, datrys gwrthdaro neu gymodi, neu hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb neu amrywiaeth, amddiffyn neu wella’r amgylchedd; cymorth i rai mewn angen oherwydd ieuenctid, henaint, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall. Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig ynghyd â gwybodaeth lawn i D Pocknee, Secretary, P F Charitable Trust, c/o R F Trustee Co Ltd, Ely House, 37 Dover Street, Llundain WIS 4NJ. Ffôn 020 7409 5685.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 85)

Legacy Trust UK
Nod yr ymddiriedolaeth yw dyfarnu grantiau i unigolion neu fudiadau i ddibenion elusennol, sy’n cynnwys y meysydd canlynol: diwylliant; addysg; chwaraeon, iechyd a gweithgareddau elusennol eraill sydd o fudd i’r gymuned. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i ariannu amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a chwaraeon yn y gobaith o sicrhau y bydd dylanwad Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn parhau ar eu hôl mewn cymunedau ledled y DU. Mae manylion pellach ar gael yn yma.
(Ffynhonnell: Charity Funding Report, Rhif 86)

Wells Sports Foundation
Mae’r sefydliad newydd, Wells Sports Foundation, newydd ddechrau rhoi grantiau i glybiau chwaraeon ac ysgolion i helpu i ariannu prosiectau a fydd yn cynyddu nifer y bobl ifanc a fydd yn cymryd rhan mewn chwaraeon heddiw ac yn y dyfodol. Mae’n bosib cael grantiau o hyd at £2,000 ac maent ar gael ledled Cymru, Yr Alban a Lloegr. Mae’r Cynllun Grantiau Chwaraeon yn awyddus i ariannu prosiectau sy'n cefnogi datblygiad a chynaliadwyedd clybiau chwaraeon. Gall hyn gynnwys prosiectau lle mae angen cyfarpar sy’n ganolog i gynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan, archwiliadau Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer gwirfoddolwyr, cymwysterau hyfforddi a chyrsiau dyfarnu. Mae’n bosib llwytho taflen Cwestiynau Cyffredin yn www.wellsportsfoundation.org/media/24837/faqs.pdf. Mae’r Cwestiynau Cyffredin yn hynod o bwysig i ymgeiswyr y tu allan i Loegr. Derbynnir ceisiadau ar unrhyw adeg.
(Ffynhonnell: fundinginformation.org, 2 Mehefin 10)