Cymysgedd o gyllid

Gall meddwl am ystod ehangach o ffynonellau cyllid helpu eich sefydliad i arallgyfeirio ei ffrydiau incwm a dod yn fwy ariannol gynaliadwy yn y tymor hir. Mae llawer o ffynonellau cyllid i’w hystyried ac amryw arfau diagnostig i’ch helpu i ddod o hyd i’r gymysgedd gywir o gyllid.

Cyllid grant
Ni allai’r rhan fwyaf o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol fodoli heb ryw fath o gyllid grant. Gall cyllid grant fod yn ffordd werthfawr o gryfhau cyllidebau i ddatrys problemau penodol neu fynd ymlaen ag ymagwedd newydd arloesol.

Mae llawer o sefydliadau, yn anffodus neu’n ddianghenraid, yn dibynnu’n llwyr ar grantiau. Ni argymhellir cadw eich wyau i gyd yn yr un ‘fasged gyllid’. Cyllidwyr fydd y cyntaf i’ch annog i beidio â dibynnu arnynt. Yn hytrach na dibynnu ar un grant mawr gan y Gronfa Loteri Fawr gallech ystyried mynd at ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol fel Lloyds TSB Foundation neu Comic Relief.

Rhoi a chodi arian cyhoeddus
Mae rhoi a chodi arian cyhoeddus yn ymwneud â gofyn i bobl am arian neu roddion i barhau nodau elusennol y sefydliadau neu gynnal prosiectau penodol. Mae sawl ffordd i gynhyrchu incwm drwy roi a chodi arian cyhoeddus, er enghraifft ffioedd aelodaeth, casgliadau ar y stryd, digwyddiadau codi arian, rhoi drwy’r gyflogres, Cymorth Rhodd, cymynroddion a nawdd corfforaethol.

Asedau cudd
Gellir defnyddio asedau, rhai ffisegol ac anweledig, mewn ffyrdd amrywiol i gynorthwyo sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i gyflawni cynaliadwyedd ariannol tymor hir. Gellir defnyddio offer segur, ystafelloedd a sgiliau staff i godi incwm. Gallech rentu’r swyddfa sbâr yn fan cyfarfod cyhoeddus, caniatáu i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio eich llungopïwr neu ffacs am ffi fechan, troi’r ystafell gyfrifiaduron segur yn ganolfan adnoddau i’r gymuned neu ddarparu gwasanaethau gweinyddu i sefydliadau eraill yn yr ardal.

Masnachu
Nid yw masnachu yn golygu troi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn fusnesau masnachol, ond galluogi sefydliadau i fod yn fwy ariannol gynaliadwy drwy fanteisio ar gyfleoedd i fasnachu.

Mae llawer o wahanol fathau o fasnachu ond mae’r cyfan yn gysylltiedig â gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar y farchnad agored. Ystyriwch beth y gallwch ei werthu. Pa asedau sydd gennych? Efallai mai pobl, eiddo neu sgiliau fydd hyn. Sut y gallwch ei werthu a phwy a fydd yn ei brynu? Meddyliwch yn ddargyfeiriol i gael y gwerth real o’ch asedau.

Contractio
Mae caffael a darparu gwasanaeth cyhoeddus yn broses sy’n esblygu yn y trydydd sector. Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus o dan gontract yn un dewis y gallai sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ei ystyried i ennill incwm. Mae darparu gwasanaeth cyhoeddus yn cynnig llawer o gyfleoedd a chontractau hwy na chyllidwyr traddodiadol. Fodd bynnag, mae’r broses yn gyfreithiol rwymedigol i’r ddwy ochr a dylech ddewis contractau’n ofalus, gan sicrhau bod y canlyniadau a fwriedir yn cyd-fynd â chenhadaeth a nodau eich sefydliad. Dylech sicrhau hefyd fod gan eich sefydliad y sgiliau a’r adnoddau cywir i dendro am gontractau sector cyhoeddus a’u rheoli.

Gallwch weld pa gyfleoedd tendro sydd ar gael i brosiectau a ariennir gan Ewrop a thendrau sector cyhoeddus o dan yr adran y diweddaraf am gyllid.

Cyllid benthyciad
Mae argaeledd a hygyrchedd cyllid benthyciad i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Defnyddir benthyciadau os oes angen llawer iawn o arian i brynu eiddo, tir neu offer, neu sefydlu prosiectau a mentrau newydd. Fel arall, wrth i sefydliadau ddatblygu ffrydiau incwm newydd, fel contractio neu fasnachu, efallai hefyd y bydd angen buddsoddiad sylweddol arnynt i greu gwasanaethau newydd. Pa fuddsoddiad bynnag sydd ei angen i ysgogi twf sefydliadol, gall cyllid benthyciad fod yn opsiwn ymarferol.

Nid ffrwd incwm mo cyllid benthyciad ond arf galluogi ariannol. Nid yw’n disodli grantiau ond ystyrir yn syml ei fod yn ffordd arall o gyllido sefydliad. Gall y sector elwa ar fenthyciadau mewn llawer o wahanol ffyrdd ond nid ydynt yn briodol i bawb. Ni ddylid ystyried cyllid benthyciad oni fydd o fudd i’ch sefydliad a bod strwythurau a systemau priodol ar waith i’w ad-dalu.

Os hoffech wybod mwy am gyllid cynaliadwy neu syniadau ar sut i arallgyfeirio eich cymysgedd o gyllid cysylltwch â ni neu eich cyngor gwirfoddol sirol lleol.