Amrywiaethu incwm

Cydnabyddir yn gynyddol fod yn rhaid i fudidau gwirfoddol a chymunedol gael mynediad i ffynonellau nawdd neu incwm dibynadwy a rhagweladwy er mwyn sicrhau eu dyfodol ariannol hir dymor.

Mae llawer o ffynonellau nawdd ar gael i’r sector ar draws sbectrwm o gyfleoedd – o roi elusennol, rhoddion gwirfoddol a grantiau i ennill incwm o gyflwyno nwyddau neu wasanaethau o dan gontract, neu fasnachu (gwerthu) nwyddau neu wasanaethau ar y farchnad agored.

Gall Cyllid Cynaliadwy Cymru gynnig y teclynnau diagnostig canlynol i helpu mudiadau gwirfoddol a chymunedol i ddeall y ffynonellau hyn yn well ac archwilio’r potensial i’w mabwysiadu.

Mae gwahanol ffynonellau incwm yn cael eu cyrchu a’u rheoli mewn gwahanol ffyrdd ac maent yn cynnwys cynnal gwahanol berthnasoedd gyda’r unigolyn neu’r mudiad sy’n cyflwyno’r cyllid. Mae’r teclyn hwn yn trafod yr opsiynau incwm sydd ar gael i fudiadau gwirfoddol a chymunedol a’r perthnasoedd hyn.

Gall adolygu o ble y daw incwm ar hyn o bryd a nodi meysydd i’w datblygu gynorthwyo mudiadau i bennu a allai ymagwedd fwy amrywiol tuag at nawdd fod yn fanteisiol i’w gweithrediadau. Bwriad y teclyn hwn yw helpu mudiadau i ddysgu mwy am o ble y daw eu hincwm ac ystyried pa mor ddibynnol ydynt ar y ffynonellau hyn.

Mae’r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol yn Lloegr (NCVO) wedi caniatáu i Gyllid Cynaliadwy Cymru ddyblygu’r teclynnau diagnostig hyn.