Dechrau codi arian

Lle wyf yn dechrau?
Gall y syniad o godi arian am y tro cyntaf deimlo’n eithaf llethol. Fodd bynnag, mae cynllunio da yn hanfodol i lwyddiant codi arian, a’r lle gorau i ddechrau yw drwy baratoi cynnig prosiect. Wrth ddisgrifio eich prosiect, dylech:

  • Esbonio pwy ydych chi
  • Nodi’r broblem yn glir a darparu tystiolaeth ar gyfer hyn
  • Esbonio’r hyn rydych yn bwriadu ei wneud gyda’r arian
  • Esbonio sut y bydd eich camau gweithredu yn gwneud gwahaniaeth
  • Dylech gynnwys y costau ar gyfer y prosiect

Pan fydd y wybodaeth hon gennych, gallwch ddechrau nodi ffynonellau cyllid priodol.

Pwy ddylai godi arian?
Mae angen i un person fod yn bennaf gyfrifol er mwyn sicrhau bod pethau’n cael eu cyflawni ac nad yw amserlenni’n cael eu hesgeuluso. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw un unigolyn yn ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb. Gallai un person ysgrifennu’r cais ond gall bobl eraill gyfrannu drwy gasglu gwybodaeth e.e. tystiolaeth a chostau. Dylech hefyd chwilio mewn mannau eraill am gymorth:

  • Mae Gwirfoddolwyr yn adnodd gwerthfawr i ymdrechion codi arian sefydliad ac maent yn adnodd sy’n cael ei anwybyddu’n aml. Mae gwefan 'How2fundraise' y Sefydliad Codi Arian yn darparu ffynonellau gwybodaeth gwych ar gyfer pobl sy’n codi arian ar sail wirfoddol.
  • Gall pobl sy’n codi arian ar sail broffesiynol fod yn ddefnyddiol iawn wrth godi arian, fodd bynnag, mae eu harbenigedd yn costio. Mae’n rhaid i chi bwyso a mesur y gost dan sylw yn erbyn yr arian y gallant ei godi. Mae gan WCVA a’r Sefydliad Codi Arian gronfeydd data o hyfforddwyr ac ymgynghorwyr os oes gennych ddiddordeb yn hyn.

Nid yw codi arian mor anodd â hynny, ac mae’n werth rhoi cynnig arni eich hun. Mae’r WCVA a’r cynghorau gwirfoddol sirol lleol yn cynnig llawer o gyngor a chymorth am ddim.

Pwy arall y dylem eu cynnwys?
Dylech hefyd gynnwys safbwyntiau’r bobl y mae’r prosiect wedi’i anelu ar eu cyfer. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn gallu profi bod angen y prosiect. Mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o noddwyr yn chwilio amdano mewn ceisiadau am eu bod yn awyddus i wybod bod eich prosiect yn mynd i lwyddo.