Lle y gallaf gael gafael ar gyllid?
Pa ffynonellau cyllid sydd ar gael i ni?
Er bod pobl yn dueddol o feddwl am grantiau wrth chwilio am gyllid, mae yna lawer o ffynonellau cyllid eraill y dylid eu hystyried. Mae angen archwilio’r ffynonellau cyllid hyn ymhellach i weld a allai eich sefydliad elwa arnynt a helpu i arallgyfeirio eich sylfaen gyllid. Mae Porth Cyllid Trydydd Sector Cymru yn darparu man cychwyn da i wneud hyn. Mae’r adran ffynonellau cyllid yn darparu crynodeb o ffynonellau cyllid amgen sydd ar gael i chi.
Sut y gallaf ganfod ffynonellau cyllid?
Y lle gorau i ddechrau yw chwilio am gyllid. Mae yna nifer o gronfeydd data ar-lein y gallwch chwilio drwyddynt, a’r cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw tanysgrifio iddynt. Mae WCVA a’ch cyngor gwirfoddol sirol lleol yn gallu defnyddio’r cronfeydd data hyn a gallent chwilio ar eich rhan. Fel arall, gallwch chwilio am gyllid eich hun. Bydd y chwiliad yn cynhyrchu rhestr o ddarpar noddwyr. Bydd angen ymchwilio’n drylwyr i’r noddwyr hyn er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni meini prawf y noddwr.
Pa ffynhonnell gyllid sydd orau?
Mae gan bob ffynhonnell gyllid ei manteision a’i hanfanteision ei hun. Wrth i’ch sefydliad dyfu dylech geisio ysgrifennu strategaeth codi arian a chynhyrchu incwm o nifer o ffynonellau cyllid. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio eich gweithgareddau codi arian yn y dyfodol a lledaenu eich incwm ar draws ffynonellau cyllid gwahanol. Ni ddylech ddibynnu ar ddim ond un neu ddau o gyllidwyr. Bydd hyn yn sicrhau dyfodol eich sefydliad pan fydd ceisiadau yn methu neu os daw prosiect i ben ac nid oes gennych arian.
Sut y gallwn gael arian gan y cyhoedd?
Mae taflen wybodaeth Rhoi - ffynonellau cyllid yn darparu manylion am y gwahanol ffyrdd o godi arian gan y cyhoedd. Gall arian sy’n cael ei gynhyrchu o’r ffynhonnell hon ddeillio o roddion, prynu nwyddau neu docynnau raffl, noddi, aelodaeth neu drwy roddion. Mae yna ffyrdd o wneud mwy o arian hefyd drwy roddion cyhoeddus oherwydd gall elusennau cofrestredig hawlio treth yn ôl ar roddion drwy Gymorth Rhodd.
Pa grantiau sydd ar gael?
Mae yna lawer o gyrff sy’n rhoi grantiau o arian Ewropeaidd i lywodraeth ganolog (Cynulliad Cymru) neu awdurdodau leol i’r Loteri Genedlaethol ac ymddiriedolaethau elusennol a sefydliadau. Mae gan yr holl ffynonellau cyllid hyn eu prosesau eu hunain ar gyfer gwneud cais am gyllid ac ni fydd dau ohonynt yr union yr un fath.
Mae’r Loteri Genedlaethol drwy’r Gronfa Loteri Fawr yn cynnig amrywiaeth o grantiau. Mae’r rhain yn amrywio o grantiau bychain o £5,000 i grantiau llawer mwy o hyd at £1 filiwn. Mae cyfranogiad cymunedol i bobl ddifreintiedig wrth wraidd arian y loteri.
Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol yn darparu tua £2 biliwn mewn grantiau bob blwyddyn. Mae gan bob un ohonynt feini prawf a phrosesau gwneud cais gwahanol ac fel arfer mae ganddynt lai o amodau o gymharu â ffynonellau cyllid eraill. Un anfantais yw bod llawer o ymddiriedolaethau ond yn cwrdd ychydig o weithiau’r flwyddyn, mae yna lawer o gystadleuaeth am arian ac nid yw’r mwyafrif o ymddiriedolaethau yn awyddus i noddi grwpiau yn yr hirdymor nac ar sail ailadrodd. Mae’r Gymdeithas Sefydliadau Elusennol yn darparu gwybodaeth bellach am sefydliadau ac elusennau sy’n rhoi grantiau yn y DU.
Mae Grantiau - addas ar gyfer nawdd yn darparu gwybodaeth bellach am ysgrifennu ceisiadau am gyllid.
Beth yw’r cyfyngiadau?
Mae’n rhaid i bob noddwr ddarparu manylion meini prawf ariannu ar gyfer prosiectau y maent yn dymuno eu hariannu. Mae’n bwysig eich bod yn darllen y rhain yn ofalus oherwydd mae methu â gwneud hyn yn aml yn golygu bod llawer o geisiadau’n cael eu gwrthod. Ymhlith y cyfyngiadau cyffredin mae:
- Dim ond yn ariannu elusennau cofrestredig
- Dim ond yn ariannu eitemau cyfalaf
- Dim ond yn ariannu prosiectau neu fentrau newydd
- Nid ydynt yn ariannu costau staff
Rhestrir cyfyngiadau fel y rhain yn nodiadau meini prawf a chanllawiau’r noddwyr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu darllen oherwydd gallai arbed amser ac ymdrech i chi!

