Sgiliau codi arian
Pa sgiliau sydd eu hangen arnom?
Nid oes unrhyw grefft fytholegol neu fformiwla hud sy’n sicrhau llwyddiant wrth geisio codi arian. Yr hyn sydd ei angen yw prosiect da, sydd wedi’i ddiffinio a’i gostio’n glir ac sydd wedi’i gyflwyno’n dda i’r noddwr priodol. Isod ceir rhai o’r sgiliau y bydd angen i chi eu defnyddio i wneud cais da.
Ymchwil
Nid yw pobl sy’n newydd i godi arian yn aml yn gwybod ble i ddechrau. Ond dyma’r broblem hawsaf i’w datrys. Gwaith eich cyngor gwirfoddol sirol (CVC) a’r WCVA yw helpu gyda gwybodaeth sylfaenol am ffynonellau cyllid a chynnal chwiliadau penodol ar gyllid. Fel arall, gallwch chwilio am gyllid. Yna bydd angen i chi gysylltu â phob noddwr ar wahân i gael ffurflen gais a manylion pellach drwy fynd i’w gwefan, anfon neges e-bost atynt neu drwy eu ffonio. Bydd angen i chi hefyd gasglu ystadegau neu wybodaeth i arddangos bod yna angen am eich prosiect.
Ysgrifennydd
Gwerthu syniad da i rywun sydd â’r arian neu’r adnoddau i wneud iddo ddigwydd sydd wrth wraidd codi arian. Os gallwch ennyn eu diddordeb yn eich syniad byddant yn awyddus i’ch cefnogi. Felly mae’n hollbwysig eich bod yn cyflwyno achos da. Dewiswch rywun a all ysgrifennu’n glir a chryno er mwyn cyflwyno eich prosiect i noddwyr. Gall gwybod ble i ddechrau fod yn un o’r rhannau anoddaf o ysgrifennu cais. Er mwyn eich helpu gyda’r broses hon byddai’n fuddiol casglu grŵp bychan ynghyd er mwyn casglu syniadau ac awgrymiadau ar gyfer ateb pob cwestiwn.
Mae’r rhan fwyaf o noddwyr yn derbyn cannoedd o geisiadau pob blwyddyn. Dylech ystyried yn ofalus sut y gallwch wneud i’ch cais sefyll allan. Dylech sicrhau o leiaf eich bod yn ymwybodol o’r pethau a allai atal eich cais rhag derbyn y sylw y mae’n ei haeddu. Mae cyngor defnyddiol ar gwblhau cynigion a cheisiadau am gyllid hefyd ar gael.
Banciwr
Dewiswch rywun a all bennu costau realistig ar gyfer eich prosiect a nodi’r swm o arian sydd ei angen arnoch drwy lunio cyllideb. Mae angen i chi hefyd gadw golwg ar eich sefyllfa ariannol ar ôl i chi dderbyn yr arian. Gwiriwch yn erbyn cyllidebau, amserlenni, amcanion a chanlyniadau. Gwnewch addasiadau os ydych wedi gwyro oddi ar y trywydd cywir. Bydd hyn yn helpu i arddangos eich bod yn gwneud defnydd effeithiol o arian a bydd yn atgyfnerthu eich cais nesaf am gyllid.
Sut y gallwn wella ein ceisiadau?
Mae’n anochel y bydd rhai ceisiadau’n methu, a phan fydd hynny’n digwydd peidiwch â digalonni. Gall ddigwydd i rai o’r prosiectau gorau a’r bobl fwyaf profiadol ym maes codi arian. Gall cais fethu am nifer o resymau, ac mae rhai ohonynt y tu hwnt i’ch rheolaeth chi. Dyma rai o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros fethu.
Methiant i fodloni meini prawf noddwyr neu fethu’r dyddiad cau
Gall hyn fod yn un o’r rhesymau mwyaf rhwystredig dros fethu. Mae hefyd yn rheswm y gellir ei osgoi’n rhwydd. Bydd llawer o noddwyr yn fwy na pharod i drafod amlinelliad prosiect a’i addasrwydd ar gyfer ariannu gan arbed amser ac ymdrech i’r ymgeisydd a’r noddwr. Darllenwch ac ailddarllenwch feini prawf y noddwyr. Caniatewch amser digonol i gwblhau’r cais. Mae’n aml yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl yn arbennig os bydd yn rhaid i chi gyflwyno cyfrifon neu adroddiadau blynyddol i gyd-fynd â’ch cais.
Nid yw’r cais yn glir
Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i iaith sy’n gymhleth a blodeuog neu’n syml ni allai’r noddwr ddeall pam yr ydych am gael yr arian. Mae gofyn i rywun o’r tu allan i’r sefydliad ddarllen eich cais yn ffordd dda o sicrhau ei fod yn glir a hawdd i’w ddeall. Dylai noddwyr allu darllen disgrifiad byr o’r prosiect a deall yn union ar gyfer beth y mae angen yr arian arnoch a’r hyn rydych yn bwriadu ei wneud gyda’r arian.
Ni arddangoswyd yr angen am y prosiect
Nid yw ceisiadau nad ydynt yn dangos llawer o dystiolaeth o angen, os o gwbl, yn debygol o gael eu cefnogi. Os oes gennych dystiolaeth, yna dylech ei defnyddio i ddweud o ble y daw’r wybodaeth. Ni fydd noddwr mewn sefyllfa i ofyn a oes angen eich gwaith ac mae’n annhebygol y byddant yn rhagdybio bod yna angen dim ond am eich bod chi’n dweud hynny. Byddant am gael tystiolaeth amlwg mewn du a gwyn!
Cyllidebu gwael
Rheswm cyffredin arall dros fethiant yw cyllidebu gwael. Fel arfer bydd hyn yn digwydd am nad yw prosiectau wedi pennu costau realistig, efallai bod y ffigurau’n rhy uchel neu’n rhy isel, neu’n syml yn aneglur. Nodwch yn glir sut y byddwch yn gwario’r arian, gan gofio y bydd angen i chi gyfiawnhau’r costau gyda’r noddwr o bosibl. Seiliwch eich cyllideb ar ddyfynbrisiau cyfredol neu ddata o brosiectau tebyg, a all ffurfio sail eich costau.
Gwybodaeth golledig
Oherwydd bod angen llawer o wybodaeth mewn cais mae’n hawdd anghofio neu esgeuluso’r eitemau ychwanegol megis y balans banc diweddaraf neu gopïau o’ch dogfen lywodraethu neu’ch cyfansoddiad. Bydd rhai noddwyr yn rhoi rhestr wirio o’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt sy’n helpu i sicrhau bod yr holl ddogfennau cywir yn cael eu hanfon gyda’r cais. Pan na roddir rhestr wirio, dylech roi sylw arbennig i nodiadau canllaw ac edrych i weld pa ddogfennau sydd eu hangen. Hefyd, byddwch yn ymwybodol y gall noddwyr ofyn am fwy nag un copi o rai dogfennau. Er y bydd rhai noddwyr yn cysylltu ag ymgeisydd i ofyn am y wybodaeth golledig, ni fydd gan eraill yr amser na’r dyhead i wneud hynny.
Cynigion sydd o fudd i sefydliadau, nid pobl
Mae cais am gyllid i gadw eich grŵp (neu chi hyd yn oed) mewn gwaith yn llai deniadol i noddwr na chais i ddarparu gwasanaeth y mae angen mawr amdano. Yn yr un modd, mae ‘mae angen cyfrifiadur arnom’ yn cael llai o effaith na ‘gyda chyfrifiadur gallem gadw cofnodion yn fwy effeithlon, gan ryddhau amser i’w dreulio gyda defnyddwyr ein gwasanaeth’.
A allaf gael hyfforddiant ar sut i godi arian?
Mae eich cyngor gwirfoddol sirol a WCVAyn cynnig cyrsiau hyfforddi fforddiadwy a hygyrch ar godi arian a chyllid cynaliadwy. I gael gwybodaeth bellach am ddyddiadau a lleoliadau cyrsiau, cysylltwch â Lein Gymorth WCVA ar 0800 288 329, help@wcva.org.uk neu ymwelwch â www.coursesforcommunities.org.uk

