Ymddiriedolwyr a llywodraethu

Pwy yw ymddiriedolwyr?
Mae ymddiriedolwyr elusennol yn unigolion sy’n ffurfio corff llywodraethu elusen. Fe’u gelwir yn ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu’n aelodau pwyllgor. Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am reoli’r gwaith o reoli a gweinyddu elusen. Mae gwybodaeth bellach am ymddiriedolwyr a rôl ymddiriedolwyr o ran codi arian ar gael gan gwefan Ymddiriedolwyr Cymru WCVA, Sefydliad Codi Arian a’r Comisiwn Elusennau.

Beth yw cyfrifoldebau ymddiriedolwyr?
Ymddiriedolwyr sydd â’r cyfrifoldeb terfynol dros gyfeirio busnes eu helusen ac mae’n rhaid iddynt dderbyn y cyfrifoldeb hwnnw. Maent yn sicrhau bod eu helusen yn ddiddyled, wedi’i rhedeg yn dda a’i bod yn cyflenwi’r canlyniadau elusennol er budd y cyhoedd y cafodd ei sefydlu ar eu cyfer.

Sicrhau cydymffurfiaeth
Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod eu helusen yn cydymffurfio â chyfreithiau elusennau a’r Comisiwn Elusennau, yn ogystal â deddfwriaethau a rheoleiddwyr eraill. Mae’n rhaid iddynt sicrhau hefyd bod y sefydliad yn bodloni’r gofynion, y pwrpas elusennol a’r amcanion, a nodir yn nogfen lywodraethu'r elusen ei hun. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr weithredu gyda gonestrwydd ac osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau neu gamddefnydd o arian neu asedau’r elusen.

Dyletswydd doethineb ariannol
Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod yr elusen yn ddiddyled ac y bydd yn parhau felly. Felly, mae angen iddynt ddeall sefyllfa ariannol y sefydliad a derbyn gwybodaeth reolaidd amdani. Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod arian ac asedau’r elusen yn cael eu defnyddio’n ddoeth, a hynny ar gyfer datblygu dibenion a buddiannau’r elusen. Mae’n rhaid iddynt hefyd osgoi gweithrediadau sy’n cyflwyno risg amhriodol naill ai’n ariannol neu i enw da’r sefydliad.

Dyletswydd gofal
Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr arfer gofal a sgiliau rhesymol, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad personol er mwyn sicrhau bod yr elusen yn cael ei rhedeg yn effeithiol ac effeithlon. Mae’n rhaid iddynt hefyd ystyried gofyn am gyngor proffesiynol allanol ar faterion a allai gyflwyno risg berthnasol i’r elusen, neu lle gallai’r ymddiriedolwyr fod yn gweithredu’n groes i’w dyletswyddau.

Beth gall yr ymddiriedolwyr ei wneud?
Nodir pwerau ymddiriedolwyr yn y ddogfen lywodraethu felly dylid cyfeirio ati bob amser i weld a yw gweithgaredd wedi’i ganiatáu ar gyfer y sefydliad.

Beth arall y dylem ei wybod?
Mae yna lawer o daflenni gwybodaeth ac adnoddau ar gael ar ymddiriedolwyr a llywodraethu yn cynnwys gwefan Ymddiriedolwyr Cymru WCVA. Mae hyfforddiant hefyd ar gael yn lleol i ymddiriedolwyr drwy Gyrsiau ar gyfer Cymunedau. Fel arall, cysylltwch â’ch cyngor gwirfoddol sirol lleol neu Lein gymorth WCVA i gael cyngor a chymorth ar ymddiriedolwyr.