Gwirfoddolwyr
A yw gwirfoddolwyr yn addas ar gyfer codi arian?
Mae eich gwirfoddolwyr mewn sefyllfa ddelfrydol i ymgymryd â gweithgareddau codi arian, yn arbennig gwaith wyneb yn wyneb â’r cyhoedd. Fel arfer maent yn teimlo’n gryf iawn am waith y sefydliad a gallant roi profiad uniongyrchol i ddarpar noddwyr y maent yn trafod y gwahaniaeth y mae eich sefydliad yn ei wneud gyda hwy.
Beth y gallwn ofyn i’n gwirfoddolwyr ei wneud?
Gellir gofyn i wirfoddolwyr wneud pob math o weithgareddau. Fodd bynnag, byddwch yn ofalus wrth ofyn i wirfoddolwr wneud yr un gwaith â gweithiwr cyflogedig. Dylech gynnig amrywiaeth o weithgareddau i wirfoddolwyr er mwyn iddynt allu dewis y rhai sy’n gweddu orau i’w sgiliau a’u diddordeb. Hefyd, edrychwch ar ffyrdd i helpu eich gwirfoddolwyr drwy hyfforddiant a chymorth. Mae hyfforddiant ar gael i wirfoddolwyr drwy Gyrsiau ar gyfer Cymunedau ac mae’n cynnwys cyrsiau achrededig i reolwyr gwirfoddol
Mae How2Fundraise yn rhoi llawer o syniadau ac adnoddau i wirfoddolwyr sy’n codi arian. Mae’r Sefydliad Codi Arian hefyd wedi cynhyrchu canllaw ar ddefnyddio gwirfoddolwyr i godi arian.
Ble y gallwn ddod o hyd i wirfoddolwyr?
Dylech ofyn i ddechrau i’ch aelodau neu gefnogwyr, esboniwch yr hyn y byddwch yn disgwyl i’r gwirfoddolwyr ei wneud a’r cymorth y gallwch ei gynnig iddynt. Dylech hefyd gysylltu â’ch canolfan gwirfoddolwyr leol, a fydd yn gallu rhoi manylion pobl sy’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal i chi a gallant hysbysebu eich angen am wirfoddolwyr hefyd. Mae Gwirfoddoli Cymru yn wefan sy’n hysbysebu manylion y cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf wedi’u trefnu yn ôl ardaloedd daearyddol (awdurdod lleol) ac yn ôl pwnc (o waith cyngor a chwnsela i gadwraeth, codi arian, chwaraeon, gwaith gyda phobl ifanc a llawer mwy).
Beth arall y dylem ei wybod?
Mae yna ystod eang o daflenni gwybodaeth ac adnoddau ar gael i helpu sefydliadau i reoli a chefnogi gwirfoddolwyr. Mae hyfforddiant hefyd ar gael yn lleol ar gyfer gwirfoddolwyr drwy Gyrsiau ar gyfer Cymunedau ac mae’n cynnwys cyrsiau achrededig ar gyfer rheolwyr gwirfoddol. Fel arall, cysylltwch â’ch cyngor gwirfoddol sirol lleol neu Lein Gymorth y WCVA i gael cyngor a chymorth ar wirfoddoli.
- Ystyried gwirfoddoli
- Datblygu strategaeth gwirfoddoli
- Cynllunio polisi gwirfoddoli
- Recriwtio, dethol a sefydlu gwirfoddolwyr
- Recriwtio gwirfoddolwyr sy’n gallu siarad Cymraeg
- Amrywiaeth ym maes gwirfoddoli
- Sut i gadw gwirfoddolwyr
- Sicrhau bod eich gwirfoddolwyr yn ddiogel
- Asesiad risg – gwirfoddolwyr sy’n gweithio o gartref
- Gwirfoddoli i weithio gydag oedolion a phlant sy’n agored i niwed
- Gwiriadau cofnodion troseddol
- Gwirfoddolwyr a’r gyfraith
- Gwirfoddolwyr a budd-daliadau lles
- Treuliau gwirfoddolwyr
- Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
- Sut i weithio gyda gwirfoddolwyr y mae’n anodd eu lleoli
- Cyfrif amser gwirfoddolwyr wrth wneud cais am nawdd

