Sut i wneud cais am arian strwythurol yr UE
Mae’n bwysig i sefydliadau’r trydydd sector ystyried yn gyntaf a ydynt yn y sefyllfa orau i:
1. Rheoli prosiect
2. Cyflwyno tendr i gyflenwi gwasanaethau o dan brosiect presennol
3. Elwa’n uniongyrchol ar brosiect a sefydlwyd i gefnogi’r trydydd sector
Argymhellir eich bod yn trafod syniad eich prosiect gyda Swyddog Tîm Ewropeaidd Gofodol (SET) neu Swyddog Datblygu Prosiect WEFO ac ymgynghori ar Ganllaw WEFO ar fynediad y trydydd sector i arian yr UE.
Mae’r camau canlynol yn ganllaw ar sut i wneud cais am arian o dan y rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol 2007-2013. Mae canllawiau ychwanegol ar gael ar sut i wneud cais am arian o dan y Rhaglenni Cydweithio Tiriogaethol.
- Gwnewch yn siŵr bod eich prosiect yn gymwys ar gyfer cymorth grant drwy ddarllen yr adran arweiniad i ymgeiswyr ar wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
- Deall sut y mae eich prosiect yn ‘cyd-fynd’ â fframweithiau strategol, sy’n disgrifio’r gweithgareddau a fydd yn cyflenwi blaenoriaethau’r rhaglen arian Ewropeaidd orau.
- Darllenwch adran syniadau am brosiectau ar wefan WEFO a thrafod cynigion eich prosiect gyda sefydliadau, rhanddeiliaid, partneriaid a chyd-arianwyr cyfatebol eraill a allai fod â diddordeb ynddynt.
- Siaradwch â’ch Swyddog Tîm Ewropeaidd Gofodol (SET) ynglŷn â gweithgaredd prosiect yn eich ardal ac arweiniad ar sut i wneud cais am arian.
- Ar ôl i chi ddilyn y camau uchod, efallai y byddwch yn gofyn i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Ar ôl i WEFO dderbyn eich cais, bydd swyddog datblygu prosiect (SDP) yn cysylltu â chi i drafod cynigion a’ch tywys drwy gam cyntaf y broses gwneud cais, sef cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys cofrestru gyda Gwasanaeth Ar-lein WEFO, y system ryngweithiol sy’n galluogi ymgeiswyr i gyflwyno, gweld a rheoli eu grantiau yn ddiogel ar-lein.
- Ar ôl cyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb, bydd WEFO yn cynnal asesiad cychwynnol yn erbyn y meini prawf dethol a blaenoriaethu. Bydd asesiad ffafriol yn arwain at yr ail gam – y cyfle i gyflwyno cynnig mwy manwl ar gyfer asesiad llawn gan WEFO.
- Os credwch y gallech fod mewn sefyllfa well i gyflenwi gwasanaethau o dan gontract prosiect presennol, yn hytrach na rheoli eich prosiect eich hun, cofrestrwch yn Sell2Wales er mwyn cael gwybodaeth am gyfleoedd tendro byw sy’n cael eu cyhoeddi ar Buy4Wales.
Adnoddau defnyddiol
- Gwneud cais am Arian Ewropeaidd – arweiniad gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)
- Sicrhau arian yr UE - trosolwg o'r broses – arweiniad WEFO
- Meini prawf dethol a blaenoriaethu – Arweiniad WEFO
- Mynediad y trydydd sector i arian Ewropeaidd – Arweiniad WEFO
- Nawdd, partneriaeth, caffael a grantiau prosiect – Arweiniad WEFO
- Cysylltwch â Llinell Gymorth WEFO ar 0845 010 3355 ar gyfer unrhyw ymholiadau ar wneud cais am arian Ewropeaidd, yn cynnwys sut i gofrestru ar WEFO Ar-lein

