Cyngor am arian Ewropeaidd 3-SET
Mae 3-SET - Tîm Ewropeaidd y trydydd sector - yn cefnogi sefydliadau’r trydydd sector sy’n ceisio elwa ar arian Ewropeaidd gyda gwybodaeth, cyngor, adnoddau a hyfforddiant.
Mae tîm 3-SET wedi’i arwain gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a rhan o rwydwaith Tîm Ewropeaidd Gofodol (SET) ehangach sy’n darparu gwasanaeth cydgysylltiedig er mwyn manteisio i’r eithaf ar Arian Strwythurol Ewropeaidd ar draws pob sector yng Nghymru.
Gall gynnig cyngor a chymorth wrth dendro a chaffael, rheoli risg a sicrhau ansawdd ac ymagweddau ar gyfer cyllid cynaliadwy.
Pwy all gael help 3-SET?
- Sefydliadau’r trydydd sector sy’n datblygu prosiectau cenedlaethol a rhanbarthol sydd wedi’u hariannu gan Ewrop
- Unrhyw sefydliad y trydydd sector sydd am ddysgu mwy am arian Ewropeaidd
- Noddwyr prosiectau’r sector cyhoeddus sy’n dymuno ymgysylltu â sefydliadau’r trydydd sector mewn trefniadau partneriaeth a chyflenwi prosiectau
Pa gyrsiau hyfforddi sydd ar gael?
- Sut i gyflwyno tendr
- Rheoli risg a sicrwydd ansawdd
- Rheoli prosiect ar gyfer staff y trydydd sector sy’n ymwneud â chyflenwi prosiectau sydd wedi’u hariannu gan Ewrop
Mae cyrsiau hyfforddiant 3-SET am ddim i’w mynychu gan staff a gwirfoddolwyr sefydliadau’r trydydd sector sy’n gallu dangos eu bod yn ymwneud â datblygu a/neu gyflenwi prosiectau sydd wedi’u hariannu gan Ewrop yng Nghymru.
Gwybodaeth ac adnoddau ar arian Ewropeaidd
- Cyfleoedd tendro ar gyfer prosiectau ariannu’r UE
- Digwyddiadau rhanbarthol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am arian Ewropeaidd
- Mae bwletin newyddion misol WCVA Newyddion Nawdd yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd arian Ewropeaidd presennol a cheisiadau am gynigion. I danysgrifio, cysylltwch â Desg Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu help@wcva.org.uk.
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) – y ffynhonnell wybodaeth ar-lein fwyaf ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru
- Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rheoli’r gwaith o gyflenwi rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru
- Timau Ewropeaidd Gofodol – ceir manylion cyswllt ar wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
- Taflenni gwybodaeth WCVA – cyfres K – nodiadau canllaw ar Arian Ewropeaidd
- Ewrop Uniongyrchol yng Nghymru – gwasanaeth gwybodaeth y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru
- Cynhadledd flynyddol ariannu’r trydydd sector i hyrwyddo ymagwedd ariannu gynaliadwy – cysylltwch â Desg Gymorth WCVA i gael gwybodaeth ar 0800 2888 329 neu help@wcva.org.uk
Ar gyfer ymholiadau ynglŷn ag Arian Ewropeaidd, cysylltwch i ddechrau gyda Judith Stone, Cydlynydd Broceriaeth a Phartneriaethau Ewropeaidd WCVA ar 029 2043 1744.
Cyngor gorau 3-SET ar gyfer gwneud cais am arian Ewropeaidd
O dan y rhaglenni newydd, gall sefydliadau elwa ar arian Ewropeaidd nid yn unig drwy reoli prosiectau neu fel buddiolwyr prosiectau, ond hefyd drwy dendro i gyflenwi eu gwasanaethau. Dyma ein cyngor gorau ar wneud cais am arian Ewropeaidd:
- Cysylltwch â WCVA i ymuno â rhestr bostio arian Ewropeaidd
- Edrych ar Wefan WEFO i gael arweiniad ar sut i wneud cais am Arian Ewropeaidd
- Deall sut mae eich prosiect yn cydweddu â fframweithiau strategol perthnasol, sy’n disgrifio’r gweithgareddau a fydd yn cyflenwi blaenoriaethau’r rhaglen arian Ewropeaidd orau
- Darllenwch adran syniadau am brosiectau ar wefan WEFO a thrafod cynigion eich prosiect gyda sefydliadau, rhanddeiliaid, partneriaeth a chyd-arianwyr cyfatebol eraill a allai fod â diddordeb ynddynt.
- Siaradwch â’ch Swyddog SET lleol ynglŷn â gweithgaredd prosiectau yn eich ardal chi, a Chydlynydd 3-SET yr UE ynglŷn â gweithgaredd prosiectau cenedlaethol a rhanbarthol, ac arweiniad ar sut i wneud cais am arian
- Siaradwch â’ch cyngor gwirfoddol sirol lleol (CVC) i gael gwybodaeth am brosiectau a rhwydweithiau lleol
- Os oes gennych unrhyw ymholiadau ar sut i wneud cais am arian Ewropeaidd, yn cynnwys sut i gofrestru ar WEFO Ar-lein, cysylltwch â Llinell Gymorth WEFO ar 0845 010 3355
- Os credwch y gallai eich sefydliad fod mewn sefyllfa well i gyflenwi gwasanaethau prosiectau, yn hytrach na rheoli prosiect, cofrestrwch yn Sell2Wales er mwyn cael gwybodaeth am gyfleoedd tendro byw.
- Cysylltwch â Desg Gymorth WCVA ar 0800 2888329, i danysgrifio ar gyfer e-fwletin Newyddion Nawdd y WCVA.
- Edrychwch ar wefan Cyllid Cynaliadwy Cymru i gael y newyddion diweddaraf, cyfleoedd tendro byw, dyddiadau ar gyfer cyrsiau hyfforddiant a digwyddiadau
Cysylltwch â 3-SET - i gael lleisio eich barn!
Hoffem glywed gennych gydag unrhyw gwestiynau, pryderon neu sylwadau ynglŷn â rhaglenni arian Ewropeaidd yng Nghymru! Mae WCVA yn cynrychioli’r trydydd sector ar amrywiaeth o weithgorau ac mae ein cyfraniadau yn cael eu llywio gan yr adborth a gawn gan grwpiau mewn digwyddiadau a thrwy gysylltiadau â phrosiectau. Cysylltwch â ni'n uniongyrchol gydag unrhyw faterion yr hoffech i ni eu codi. Yn anffodus, ni allwn godi materion sy’n ymwneud â phrosiectau penodol drwy’r dulliau hyn.

