Ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol

Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol yn rhoi tua £3.6 biliwn mewn grantiau i elusennau (gan gynnwys sefydliadau crefyddol a phrifysgolion) yn y DU bob blwyddyn. Mae bron 10,000 o ymddiriedolaethau elusennol yn y DU ac maent yn amrywio llawer o ran maint a chwmpas. Oherwydd eu bod mor amrywiol mae’n arbennig o bwysig ymchwilio’n drylwyr iddynt ac yna targedu eich ceisiadau am grantiau’n ofalus.

Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol yn hoffi noddi’r mathau canlynol o brosiectau:

  • Dulliau newydd o fynd i’r afael â phroblemau
  • Grwpiau difreintiedig a lleiafrifol sy’n cael anhawster defnyddio gwasanaethau cyffredin, neu y mae’r ddarpariaeth ar eu cyfer yn annigonol
  • Ymatebion i anghenion a phroblemau newydd neu rai newydd eu darganfod
  • Gwaith sy’n anodd ei ariannu trwy ddulliau codi arian confensiynol
  • Pryniadau neu brosiectau untro
  • Gwaith tymor byr neu ganolig sy’n debygol o arwain at fuddiannau tymor hir neu ddenu nawdd tymor hir o ffynhonnell arall.

Mae’r ymddiriedolaethau mwyaf yn dosbarthu sawl miliwn o bunnoedd y flwyddyn, ond mae’r mwyafrif llethol yn rhai llai ac yn fwy tebygol o ddosbarthu ychydig filoedd o bunnoedd yn unig. Gall rhai roi arian i unrhyw bwrpas elusennol, ond bydd eraill yn cyfyngu’u hunain i feysydd (addysg neu’r celfyddydau, dyweder) neu fuddiolwyr penodol (plant neu bobl hyn, er enghraifft).

Daw incwm y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau o waddoliad a roddwyd gan unigolyn, teulu neu gwmni cyfoethog. Mae rhai ymddiriedolaethau’n cael eu hincwm o ffynonellau eraill, fel apeliadau teledu neu godi arian; mae enghreifftiau’n cynnwys Plant mewn Angen a Comic Relief.

Prif fanteision nawdd gan ymddiriedolaeth elusennol yw:

  • Bydd rhai’n dosbarthu cyfandaliadau mawr
  • Yr unig reswm dros eu bodolaeth yw rhoi arian i achosion da
  • Bydd rhai’n fodlon bod yn fentrus a rhoi arian i achosion amhoblogaidd
  • Maent yn hyblyg
  • Gall grwpiau ddatblygu perthynas hirdymor gyda rhai ymddiriedolaethau

Y prif anfanteision yw:

  • Dim ond symiau bach sydd gan y rhan fwyaf i’w roi
  • Gallant gymryd amser hir i benderfynu a yw eich cais yn cael ei dderbyn
  • Mae’n ffynhonnell nawdd gystadleuol iawn
  • Efallai y bydd amodau ynghlwm wrth yr arian

Adnoddau defnyddiol

  • Mae taflen wybodaeth WCVA – 7.4.3 Ymddiriedolaethau a sefydliadau – yn rhoi manylion am yr ymddiriedolaethau sy’n rhoi grantiau i fudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru, sydd â chysylltiad arbennig â Chymru neu sy’n enwi Cymru fel ardal lle maent yn dosbarthu grantiau.
  • Mae’r wybodaeth sydd ar gael am ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol wedi gwella’n sylweddol ac erbyn hyn mae CD-ROMau, cronfeydd data a meddalwedd chwiliadwy ar gael. Mae’r Directory of Social Chnage (www.dsc.org.uk) a Funderfinder (www.funderfinder.org.uk) yn arloeswyr yn y maes.
  • Mae llawer o gynghorau gwirfoddol sirol (CGSau) hefyd yn cadw gwybodaeth am ymddiriedolaethau elusennol lleol (insert link to Help section).
  • Mae modd chwilio ar-lein trwy gofrestr y Comisiwn Elusennau www.charitycommission.gov.uk
  • Mae gan GuideStar UK wefan sy’n caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio cronfa ddata o elusennau yn y DU www.guidestar.org.uk
  • Cymdeithas y Sefydliadau Elusennol www.acf.org.uk
  • Sefydliad Cymorth yr Elusennau www.cafonline.org
  • Trust Fundraising wedi’i olygu gan Antony Clay, Sefydliad Cymorth yr Elusennau a’r Directory of Social Change, 1999