Codi arian yn y gymuned
Codi arian mewn digwyddiadau
Os am lwyddo, mae’n rhaid i ddigwyddiadau gael eu cynllunio’n dda ac maent yn ddibynnol ar waith staff neu wirfoddolwyr ymroddedig ac adnoddau digonol. Meddyliwch am ba fath o ddigwyddiad fyddai'n fwyaf priodol ar gyfer eich grŵp targed a faint o arian byddai’i angen i drefnu’r digwyddiad.
Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau codi arian y gellid eu trefnu yn y gymuned:
- Boreau coffi a digwyddiadau cymdeithasol eraill
- Ffeiriau crefft
- Gwerthu celf neu waith arall
- Sioeau ffasiwn
- Dawns
- Disgo
- Picnic a thripiau i’r teulu
- Arwerthiannau
Adnoddau defnyddiol:
- Digwyddiadau Codi Arian – Codes of Fundraising Practice, Institute of Fundraising
Digwyddiadau noddedig a her
- Mae llawer o rasys a digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled y DU lle mae croeso i’r rhai sy’n cymryd rhan godi arian at achos da ar yr un pryd.
- Gall unigolion gymryd rhan mewn taith gerdded neu feicio mewn gwlad dramor; fel arfer bydd y cyfranogwyr yn talu eu costau eu hunain ac yn gofyn i ffrindiau a theulu eu noddi.
- A ydych chi’n gwybod am unrhyw ddigwyddiadau lleol neu genedlaethol y gallai rhoddwyr eu defnyddio i godi arian?
- Bydd angen i fudiadau gwirfoddol a chymunedol sy’n trefnu eu digwyddiadau eu hunain ystyried eu hatebolrwydd posibl pe bai rhywbeth yn mynd o’i le a gwneud yn siwr eu bod yn cynnal asesiad risg llawn.
- Os yw’r mudiad gwirfoddol neu gymunedol yn trefnu digwyddiad noddedig, gwnewch yn siwr bod y digwyddiad yn cwrdd â’r gofynion iechyd a diogelwch ac nad yw’n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol.
- Cofiwch cynnwys datganiad Cymorth Rhodd a 'blwch ticio' ar eich ffurflenni codi arian fel bod gan eich rhoddwyr yr opsiwn i hawlio Cymorth Rhodd ar eu arian noddedig.
Ciniawau ac adloniant
Gellir cyfuno gwerthu tocynnau i fynychu ciniawau a digwyddiadau codi arian eraill gydag adloniant, megis raffl neu arwerthiant codi arian. Gellir edrych ar y canlynol fel arfer da wrth drefnu digwyddiadau o’r fath:
- Cysylltwch â’r awdurdod lleol i ganfod a oes angen trwydded.
- Sicrhewch fod yr holl wirfoddolwyr a staff a fydd ar ddyletswydd yn gwybod yn union beth maent i fod i’w wneud.
- Gwnewch yn siwr bod y lleoliad yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a bod mynediad i’r adeilad yn rhwydd i bawb.
Ystyriwch paratoi ffurflenni awdurdodi ar gyfer eich gwahoddedigion i wneud yn sicr bod nhw'n gallu hawlio Cymorth Rhodd ar eu rhoddion yn y digwyddiadau. Ceisiwch ddim i ofyn i bobl i ddisgyn eu arian mewn i bwcedi, fel arallddewis, pam nad ydych chi'n darparu amlenni ar bob cadair neu sedd fel bod eich rhoddwyr yn gallu awdurdodi eu Cymorth Rhodd.
Ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid
Gall ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid fod yn ffynhonnell o wirfoddolwyr ymroddgar a brwdfrydig. Efallai yr hoffent eich helpu trwy drefnu digwyddiad i godi arian ac ymwybyddiaeth.
Arferion da wrth weithio gyda phobl ifanc:
- Gofynnwch am ganiatâd y pennaeth cyn dechrau gwneud dim arall.
- Cadwch oed a gallu’r bobl ifanc mewn cof pan fyddwch yn cynllunio digwyddiadau codi arian.
- Gwnewch yn siwr bod y gweithgareddau’n ddiogel a chyfreithlon.
- Cofiwch cynnwys datganiad Cymorth Rhodd a 'blwch ticio' ar eich ffurflenni codi arian fel bod gan eich rhoddwyr yr opsiwn i hawlio Cymorth Rhodd ar eu arian noddedig.
Clybiau a chymdeithasau
Mae grwpiau cymunedol lleol fel Clybiau Rotari yn aml yn codi arian i elusennau. Arferion da wrth weithio gyda chlybiau a chymdeithasau:
- Rhowch wybod i’r grŵp pa lefel o gefnogaeth y gall y mudiad gwirfoddol neu gymunedol ei roi iddo.
- Gall atebolrwydd y mudiad ar gyfer y digwyddiad ddibynnu ar lefel y gefnogaeth a roddir, e.e. os yw’r digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghanolfan y mudiad yn hytrach nag yn adeilad y clwb neu gymdeithas sy’n cefnogi.
- Cofiwch ddiolch i’r grŵp am eu gwaith a chynigiwch gydnabyddiaeth iddynt.

