Rhoi gan gwmnïau
Rhoddion ariannol
- Rhoddion o arian yw’r ffodd fwyaf amlwg ond hefyd y ffordd fwyaf costus i fusnesau gefnogi elusennau.
- Mae busnesau mawr, fel Legal and General, yn creu Ymddiriedolaethau, gyda’r nod o gefnogi achosion lleol.
- Mae rhoddion ac Ymddiriedolaethau elusennol yn dynadwy cyn treth.
- O dan y cynllun Cymorth Rhodd, gall busnesau wneud rhoddion i elusennau ac wedyn gallant dynnu gwerth y rhodd o’r cyfrifiadau elw cyn treth ar ddiwedd y flwyddyn.
Rhoddion ymarferol
- Mae’n aml yn haws ac yn fwy fforddiadwy i gwmnïau roi ‘pethau’ yn hytrach nag arian, megis nwyddau, eitemau ar gyfer rafflau, hen stoc i’w hailwerthu neu eu cynnig mewn arwerthiant, cyngor technegol am ddim neu ganiatáu i elusennau ddefnyddio cyfleusterau am ddim neu’n rhatach, ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.
- Gall eitemau sy’n cael eu cynhyrchu i’w gwerthu, neu eitemau a ddefnyddir i gynhyrchu nwyddau masnachu (e.e. cyfrifiaduron/dodrefn) fod yn dynadwy cyn treth o dan y cynllun Cymorth Rhodd os ydynt yn cael eu rhoi i elusen. Mae ad-daliad treth llawn ar gael hefyd ar eitemau sydd heb ‘werth llyfr’ megis stoc sy’n dod i ben neu sydd wedi’u difrodi.
Secondiadau neu wirfoddoli gan gyflogeion
Gellir cynnig amser staff er budd elusennau trwy:
- Cyflogeion yn gwirfoddoli – sy’n gyfle i wella sgiliau cyflogeion a hybu cysylltiad y cwmni â’r gymuned,
- Sgiliau proffesiynol – megis cwmnïau sy’n gweithio ym myd y gyfraith, cyfrifwyr, hysbysebu neu gysylltiadau cyhoeddus. Gellir cynnig y sgiliau defnyddiol hyn am ddim.
- Secondiadau - helpu staff i ddatblygu sgiliau mewn cyd-destun newydd am gyfnod penodol. Yn arbennig o briodol i ddatblygu sgiliau rheolwyr canol.
Busnesau'n hysbysebu
- Gall elusennau ddenu llawer o gyhoeddusrwydd trwy gael sylw yn y cyfryngau ac mewn digwyddiadau, ac mae hyn yn arwain at gyfleoedd i fusnesau hysbysebu’u hunain.
- Manteision cysylltiad gyda digwyddiadau elusennau a’r cyfryngau yw bod busnesau’n gallu dangos eu hewyllys da a’u cefnogaeth i achosion da.
- Gall cyfleoedd i hysbysebu gynnwys; hysbysebu masnachol i gyrraedd cynulleidfa darged (e.e. hysbysebu ‘blaen tŷ’, hysbysebu mewn Adroddiad Blynyddol, hysbysebu mewn rhaglenni cynadleddau neu mewn digwyddiadau codi arian).
- Nid yw talu am hysbyseb yr un fath â rhodd yng ngolwg yr awdurdodau treth; gall yr elusen sy’n derbyn orfod talu TAW gan fod hysbysebu’n cael ei gyfrif fel cytundeb busnes.
Noddi
- Mae noddi yn gytundeb busnes rhwng cwmni ac elusen ac nid yw’n cyfrif fel rhodd yng ngolwg yr awdurdodau treth.
- Nid oes rhaid i noddi busnesau fod ar ffurf arian yn unig, gall mathau eraill gynnwys nwyddau (megis car), gwasanaethau e.e. cludiant am ddim, hyrwyddo am ddim, disgownt ar wasanaethau neu nwyddau a brynir.
Bydd cytundeb nawdd yn cynnwys rhyw fath o fudd i’r cwmni. Mae enghreifftiau o fudd yn cynnwys:
- Gwella delwedd y cwmni, trwy ei gysylltiad ag achos da
- Cael hyrwyddo nwyddau am ddim, nwyddau’n cael eu cysylltu ag achos da.
- Bwriad i ddiddanu cwsmeriaid (posibl).
- Gwaith hyrwyddo ar y cyd (marchnata sy’n gysylltiedig ag achos); mae elusennau’n cymryd rhan mewn gweithgarwch hyrwyddo i helpu marchnata cynnyrch masnachol e.e. ymgyrch Nwy Prydain/ Help the Aged.
Adnoddau defnyddiol:
- Elusennau’n gweithio â busnes – Codes of Fundraising Practice, Institute of Fundraising
Rhoi trwy'r Gyflogres
- Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn gynllun yn y gweithle lle mae cyflogeion yn cytuno i roi i elusen yn uniongyrchol o’u cyflog.
- Mae’r rhodd yn cael ei thynnu’n syth o’u cyflog gan y cyflogwr a’i hanfon yn uniongyrchol at yr elusen a enwebir, trwy Asiantaeth Rhoi trwy’r Gyflogres, sy’n derbyn y rhodd, ynghyd â’r dreth (a fyddai wedi mynd i’r Trysorlys fel arall).
- Mae’r cynllun yn un hawdd i’w redeg, ac mae’n agored i bob elusen â chyflogres, beth bynnag fo’u maint.
- Fel arfer codir tâl gweinyddu bychan er bod y gwasanaeth ar gael am ddim i bob cyflogwr yng Nghymru trwy WCVA. Ar gael am ddim trwy WCVA.
- Bydd cyflogwyr sy’n defnyddio’r cynllun Rhoi trwy’r Gyflogres yn derbyn Marc Safon, Tystysgrif a Logo i gydnabod a gwobrwyo cyfranogiad eu cyflogeion a’u cefnogaeth i elusennau.
Adnoddau defnyddiol:
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
- Canolfan Rhoi trwy'r Gyflogres
- Cynllun Rhoi trwy'r Gyflogres WCVA
- Marc Safon

