Cymorth a gwybodaeth i godi arian

Diweddaru canllawiau ar godi arian

Mae’r UK Workforce Hub a’r Sefydliad Codi Arian wedi cydweithredu i ddiwygio a gwella’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Codi Arian. Mae’r safonau hyn wedi’u llunio ar gyfer codwyr arian, y sawl sy’n codi arian fel rhan o’u gwaith a’r sawl sy’n rheoli codi arian, boed hynny’n wirfoddol neu fel rhan o swydd gyflogedig.

Bydd codwyr aran yn gallu defnyddio’r safonau mewn ffordd sy’n benodol ar gyfer eu rôl, gan fod y Safonau newydd yn cynnwys unedau ar godi arian grant, codi arian corfforaethol, rhoddion mawr a marchnata uniongyrchol. Bydd mudiadau gwirfoddol a chymunedol ledled y DU yn gallu ymgorffori’r Safonau fel rhan o’u harferion recriwtio, dethol, hyfforddi a datblygu er mwyn gwella sgiliau’r codwyr arian.

I weld y safonau, a gymeradwywyd ar 14 Ebrill 2008, ewch i wefan yr UK Workforce Hub yn www.ukworkforcehub.org.uk/fnos08

Rhoi'n Treth Effeithiol

Nod y prosiect Cymru’n Rhoi yw i hyrwyddo rhoi'n dreth effeithiol er budd elusennau ac unigolion.

Darllennwch golwg cyffredinol o rhoi'n dreth effeithiol - 7.10 Dulliau o roi arian sy’n effeithiol o ran treth

Darlwytho Gwneud i'r rhoddion ymestyn ymhellach. Canllawiau terfynol i'r dull mwyaf treth effeithiol o gyfrannu.

Diogelu data

Bydd angen i unrhyw fudiad sy’n debygol o fod yn cadw gwybodaeth am roddwyr neu fuddiolwyr sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Yn fyr, dylai elusennau ystyried y canlynol:

  • Peidiwch â chadw unrhyw wybodaeth am gefnogwr neu fuddiolwr na fyddai eich mudiad yn hapus i’w rhannu gyda’r person hwnnw.
  • Peidiwch â defnyddio gwybodaeth mewn ffordd a fyddai’n mynd yn groes i ddymuniad y rhoddwr.
  • Peidiwch â rhannu data mewn ffordd a fyddai’n mynd yn groes i ddymuniad y rhoddwr.

Adnoddau defnyddiol:

Y Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol

  • Mae’n rhoi gwybodaeth lawn a rhestr bostio am ddim am eu cyhoeddiadau a hyfforddiant diweddaraf. www.dsc.org.uk Ffôn: 08450 77 77 07.

Codau ymarf codi arian

Oherwydd natur ddynamig codi arian, mae llawer o ddeddfau sy’n berthnasol mewn gwahanol amgylchiadau. Mae’r Directory of Social Change yn cynhyrchu Codau Ymarfer Codi Arian i gynorthwyo elusennau i lynu wrth y safonau uchaf.

Rheoleiddio casgliadau arian

Mae Cymdeithas Rheoleiddio Codi Arian Cyhoeddus yn cynnwys casgliadau elusennol cyhoeddus a wneir o ddrws i ddrws, ar y stryd ac mae hefyd yn cynnwys gofyn i bobl roi trwy ddebyd uniongyrchol. Gwefan y Gymdeithas Rheoleiddio Codi Arian Cyhoeddus www.PFRA.org.uk Ffôn: 020 7401 8452

Y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr

Mae gan y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr bwerau i ymchwilio i weithgareddau codi arian a gall hefyd ddarparu cyngor ar faterion cyfreithiol. Gwefan: www.charity-commission.gov.uk.

Y Bwrdd Safonau Codi Arian

Mae’r Bwrdd Safonau Codi Arian yn gynllun i hunan reoleiddio codi arian. Mae’r cynllun yn caniatáu i elusennau ymuno, derbyn Codau Ymarfer y Sefydliad Codi Arian yn ffurfiol a chreu system gwyno ar gyfer rhoddwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan yn www.fsboard.org.uk.

Y Swyddfa Gwybodaeth i Elusennau

Mae’r Swyddfa’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf perthnasol i fudiadau gwirfoddol a chymunedol ledled Prydain. Mae ei gwasanaethau’n cynnwys y cylchlythyr gwybodaeth Oddments (ar ffurf copi caled); eFriff llawnach sy’n cael ei gyhoeddi ddeg gwaith y flwyddyn; hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori pwrpasol; a Mannau Cyllido lle gall grwpiau gael gafael ar wybodaeth am nawdd lle mae’r Swyddfa yn chwilio trwy’r gronfa ddata ar ran grwpiau ac yn awgrymu ffynonellau nawdd perthnasol eraill. Mae’r costau'n amrywio a gellir eu gweld trwy fynd i wefan Y Swyddfa Gwybodaeth i Elusennau neu trwy ffonio: 01924 239063.

Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGSau)

Gwaith y cynghorau gwirfoddol sirol yw cynnig cyngor a gwybodaeth i fudiadau gwirfoddol lleol. Maent yn cefnogi gweithredu gwirfoddol trwy gefnogi gwirfoddoli, cynghori ar arferion da, darparu gwybodaeth ar ffynonellau nawdd ynghyd â phob math o bethau eraill.

Lawrlwythwch y rhestr lawn o CGSau yng Nghymru

Desg Gymorth WCVA

Gwybodaeth, cefnogaeth a phob math o gymorth i’r trydydd sector.
Ffôn: 0800 2888 329
E-bost: help@wcva.org.uk
www.wcva.org.uk