Rhoi a chodi arian gan y cyhoedd

Mae rhoi a chodi arian gan y cyhoedd yn golygu gofyn i bobl am arian i gefnogi nodau elusennol y mudiad neu i redeg prosiectau penodol; mae arian a roddir fel rhodd, oni ddywedir yn wahanol, yn anghyfyngedig, a gellir ei wario ar gostau ‘craidd’ y mudiad.

Dylai codi arian olygu mwy na chynhyrchu’r adnoddau sydd eu hangen i alluogi’r mudiad i oroesi o un flwyddyn i’r nesaf; mae codi arian hefyd yn golygu creu mudiad hyfyw a sefydlog, a fydd yn gallu cynnal ei hun yn y dyfodol.

Mae digonedd o adnoddau defnyddiol yn yr adran hon – astudiaethau achos, dolenni at wefannau sy'n cynnwys ffynonellau gwybodaeth bellach ac amrywiaeth o ganllawiau y gallwch eu lawrlwytho.