Adnoddau defnyddiol
- Mae Guide to Loans and Other Forms of Finance (lawrlwytho’r PDF 850kb), a gynhyrchir gan Brosiect Cyllid Cynaliadwy NCVO ar gyfer yr Adain Gyllid, yn cynnig cyflwyniad i gyrchu benthyciadau a disgrifiad o amrywiaeth o sefyllfaoedd lle y gellir defnyddio benthyciadau.
- A Brief Guide to Loan Finance (lawrlwytho’r PDF 175kb) – cynlluniwyd y cyhoeddiad ar gyfer ymddiriedolwyr sy’n ystyried cyllid benthyciadau ar gyfer eu mudiad, neu ar gyfer y rheiny sy’n dymuno cael mwy o wybodaeth am y materion sy'n codi. Mae’n cyflwyno’r manteision, yn cyflwyno rhai ffactorau y dylid eu hystyried ac yn eich cyfeirio tuag at wybodaeth bellach.
- Sefydlodd y Tasglu Buddsoddiad Cymunedol a lansiwyd yn 2000 y sail ar gyfer llawer o’r datblygiad o ran menter gymdeithasol yn y DU. Mae eu gwefan yn cynnwys llawer o’r mentrau benthyciadau sydd ar gael i’r sector ar hyn o bryd. Am fanylion pellach gweler www.enterprising-communities.org.uk
- Mae’r Comisiwn Elusennau yn cynnig arweiniad ar elusennau a buddsoddiad cymdeithasol. Am fanylion pellach gweler www.charity-commission.gov.uk/supportingcharities/casi.asp
- Mae Venturesome wedi cynhyrchu cyfres o bapurau yn amlinellu yr hyn a ddysgwyd ganddynt o’r profiadau a rannwyd gan fuddsoddwyr, elusennau a chyfryngwyr. Mae Approaches to funding charitable work: tracking developments – Ionawr 2006 yn cynnig crynodeb defnyddiol o hanes a sefyllfa bresennol mentrau benthyciadau a chyllid ar gyfer y sector ac yn diweddaru papurau tebyg a gynhyrchwyd yn 2003 a 2004.

