Arian y Loteri
Mae’r Loteri Genedlaethol yn ffynhonnell bwysig i fudiadau gwirfoddol a chymunedol. Mantais fawr arian y Loteri yw ei bod yn gallu rhoi symiau cymharol fawr o arian, ond yn achos rhai o’u cronfeydd bydd rhaid i chi ddod o hyd i arian cyfatebol o ffynhonnell arall i gyd-fynd â’u harian hwy.
Mae arian y Loteri’n cael ei ddosbarthu gan bedwar corff dosbarthu ar ddeg sy’n penderfynu’n annibynnol pa brosiectau a fu’n llwyddiannus yn eu cais am grant. Y cyrff dosbarthu sy’n berthnasol i Gymru yw:
- Y Gronfa Loteri Fawr – sefydlwyd yn sgil uno’r Gronfa Gymunedol a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd. Mae hon yn gronfa sy’n ymdrechu i drawsnewid cymunedau, ac mae arian ar gael i grwpiau bach sy’n gweithio ar lefel leol ac i brosiectau cyfalaf mawr, gyda’r nod o adfywio cymunedau.
- Cyngor Celfyddydau Cymru – sy'n gyfrifol am ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n dosbarthu nawdd i sefydliadau celfyddydol ac unigolion ar gyfer prosiectau celfyddydol penodol.
- Cyngor Ffilmiau’r DU – dyma’r asiantaeth strategol a gefnogir gan y Llywodraeth ar gyfer ffilmiau yn y DU. Ei phrif nod yw symbylu diwydiant a diwylliant ffilm cystadleuol, llwyddiannus a bywiog yn y DU, a hybu’r mwynhad a’r ddealltwriaeth fwyaf posibl o sinema yng ngwledydd a rhanbarthau’r DU.
- Cyngor Chwaraeon Cymru – yw’r mudiad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a hamdden. Mae’n rhedeg nifer o gynlluniau gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad a gwella perfformiad mewn chwaraeon yng Nghymru.
- Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri – yn rhoi grantiau i ddiogelu ac agor treftadaeth y genedl. Mae’n ariannu costau cyfalaf mawr amgueddfeydd, adeiladau hanesyddol, tir a chasgliadau, ac mae hefyd wedi cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau grant llai a chanolig, gan gynnwys Eich Treftadaeth a’r Cynllun Treftadaeth Lleol.
Adnoddau defnyddiol
- Taflen wybodaeth WCVA – 7.4.2 Arian y Loteri – mae’n cynnwys manylion am gynlluniau grant y Gronfa Loteri Fawr a chyrff Loteri eraill sydd ar gael i fudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru.
- Mae gwefan achosion da’r Loteri Genedlaethol yn cael ei rhedeg ar y cyd gan bob un o gyrff cyllido’r Loteri yn y DU. Mae’r safle’n eich galluogi i chwilio am wybodaeth am raglenni sy’n cynnig grantiau.

