Grantiau – addas ar gyfer nawdd

Gall arian grant fod yn ffordd werthfawr o gynyddu cyllidebau er mwyn datrys problemau penodol neu i fwrw ymlaen â dull arloesol newydd o weithredu. Er bod y broses yn gallu bod yn llafurus, gall yr enillion posibl yn sgil mynd ar drywydd grantiau mewn ffordd gyson, strategol fod yn anferth. Er budd dealltwriaeth, byddai’n ddefnyddiol yn y lle cyntaf rhoi diffiniad i ‘arian grant’:

‘Arian grant yw pan gaiff cronfa o arian ei neilltuo at ddiben penodol, fel arfer i gyflawni amcanion y cyllidwyr, heb fod rhaid ei ad-dalu. Fel arfer, mae’n golygu bod asiantaeth neu fudiad yn asesu eich cynllun arfaethedig i ymgymryd â rhaglen o waith yn erbyn cyfres o feini prawf y maent wedi’u creu. Os nad ydych yn bodloni’u meini prawf, ni fyddwch yn llwyddo.’

Ni fyddai’r rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn bodoli heb arian grant ar ryw ffurf neu’i gilydd. Bydd yr adran hon yn archwilio pob agwedd ar baratoi cynnig am nawdd, ysgrifennu ceisiadau cryno a chadarn a rheoli prosiectau a gaiff eu cyllido â grant. Bydd hefyd yn tanlinellu’r angen i ddatblygu dull o ymdrin â chyllid yn y tymor hir trwy weithio tuag at gynaliadwyedd.

Gydol yr adran hon, mae adnoddau defnyddiol ar gael – astudiaethau achos, dolennau gwe i ffynonellau pellach o wybodaeth ac amrywiol ganllawiau i’w lawrllwytho.