Cynnwys cais neu gynning da
Mae’r rhan fwyaf o gyllidwyr yn derbyn miloedd o geisiadau y flwyddyn. Ystyriwch yn ofalus sut y gellwch chi wneud i'ch cais neu eich cynnig sefyll allan. Dylech o leiaf fod yn ymwybodol o’r maglau a allai rwystro eich cais rhag cael y sylw haeddiannol.
Bydd angen i chi wneud nifer o bwyntiau allweddol a fydd yn dal sylw’r cyllidwyr, yn ennyn diddordeb yn eich gwaith, ac yn ‘gwerthu’ eich prosiect neu’ch cynnig. Gofynnwch i chi eich hun:
- Pam ar y ddaear y dylai unrhyw un ein cefnogi?
- Beth sydd mor bwysig am yr hyn a wnawn?
- Pam fod hyn yn angenrheidiol?
- Beth fydd hyn yn ei gyflawni?
- A pham y dylai’r cyllidwr arbennig hwn fod eisiau’i gefnogi?
Chwe elfen hanfodol o gais neu gynnig:
Pwy ydych chi
Math o fudiad, gweithgareddau allweddol, cenhadaeth, nodau ac amcanion.
Yr angen yr ydych yn ei ddiwallu
Disgrifiwch y broblem, cefnogi hynny â thystiolaeth a dweud pam ei bod yn bwysig.
Yr ateb a gynigiwch
Byddwch yn glir ynghylch union ganlyniadau neu ganlyniadau disgwyliedig eich gwaith, a sut y caiff y rhain eu mesur. Byddwch yn realistig – gwnewch yn siwr fod beth yr ydych eisiau ei wneud yn ymarferol, eich bod yn ei wneud mewn da bryd a’i fod yn rhoi gwerth am arian. Diffiniwch yn glir sut y byddwch chi’n goresgyn unrhyw broblemau. Cefnogwch eich achos – edrychwch ar gymunedau / meysydd busnes eraill lle mae prosiect cyffelyb wedi’i gynnal.
Pam y dylech ei wneud
Angen sefydlu hygrededd. Pam mai eich grŵp chi ddylai redeg y prosiect? Beth sy’n wahanol am y ffordd y byddwch chi yn gwneud pethau? Pa mor effeithiol fyddwch chi wrth reoli’r prosiect? Gwerthwch eich achos. Mae llwyddiant yn magu llwyddiant.
Y swm sydd ei angen arnoch
Dadansoddiad o gostiadau e.e. cyfalaf yn erbyn refeniw, cyllidebau, adennill costau’n llawn.
Y dyfodol sydd gennych
Beth fydd yn digwydd pan fydd y grant yn rhedeg allan? Cynaliadwyedd – pwysleisiwch hyfywedd tymor hir.

