Ysgrifennu llythyr
Nid yw rhai cyllidwyr yn meddu ar ffurflenni safonol a’r ffordd fwyaf arferol o gyflwyno cais i ymddiriedolaethau elusennol yw trwy lythyr. Wrth ysgrifennu llythyr rhaid i chi, yn gyntaf, sicrhau bod y cyllidwr yn cymryd diddordeb yn eich syniad neu’ch prosiect, ac yna rhoi holl wybodaeth angenrheidiol iddynt er mwyn iddyn fedru gwneud penderfyniad.
Beth dylid ei gynnwys mewn llythyr?
- Teitl eich prosiect – gall teitl anghyffredin wneud i chi sefyll allan ymysg eraill
- Hanes eich mudiad – beth yr ydych chi’n ei wneud, eich cenhadaeth, nodau ac amcanion, ers pryd rydych chi'n bodoli, sawl defnyddiwr sydd gennych chi, pam eich bod chi’n wahanol, eich llwyddiannau, pa gefnogaeth yr ydych chi wedi’i derbyn.
- Crynodeb o’r prosiect – yn gryno, mae’n nodi’n union faint yr ydych chi’n ymgeisio amdano, a faint y bydd hynny’n ei gostio.
- Pam eich bod eisiau’r arian – gwybodaeth benodol am yr anghenion neu’r problemau yr ydych wedi’u nodi, gyda chefnogaeth tystiolaeth annibynnol a phwy fydd yn elwa o’ch prosiect.
- Disgrifiad o’r prosiect – beth ydych chi’n bwriadu ei wneud i ddiwallu’r anghenion yr ydych chi wedi’u nodi, beth fydd hynny’n ei gyflawni (canlyniadau), graddfeydd amser a sut y byddwch chi’n mesur llwyddiant.
- Dadansoddiad o’r costau – efallai y bydd angen i chi gynhyrchu cyllideb fanwl ar ddalen ar wahân.
- Pam dylen nhw eich cyllido? - a yw’n cyd-fynd â meini prawf y cyllidwyr
- Cynaliadwyedd ariannol – copi o’r cyfrifon diweddaraf, beth sy’n digwydd pan fydd yr arian yn rhedeg allan?
- Pwy arall sy’n eich cefnogi – mae cyllidwyr yn hoffi cefnogi llwyddiant

