Mesur yr anfesuradwy

Y peth anoddaf i’w wneud yw cofnodi pethau na ellwch mo’u cyfrif - fel effaith eich prosiect ar y gwirfoddolwr di-waith swil sy’n newid ei agwedd yn llwyr, ac sy’n meithrin sgiliau newydd neu hyder i ymgymryd â chwrs o hyfforddiant. Fodd bynnag, peidiwch â dibynnu ar gofio’r newidiadau hyn - cadwch gofnod o ddatblygiadau arwyddocaol neu ffeiliau cynnydd ar y bobl sy’n gweithio ar y prosiect. Mae’n waith caled, ond gall fod yn arf cryf pan fyddwch chi eisiau denu nawdd y flwyddyn nesaf.