Monitro a gwerthuso canlyniadau
Mae monitro a gwerthuso canlyniadau yn dod yn fwy ac yn fwy pwysig i gyllidwyr. Mae y Gronfa Loteri Fawr a’r Gwasanaeth Gwerthuso Elusennau wedi cyhoeddi canllawiau yn ddiweddar ar y modd y mae angen i fudiadau ganolbwyntio ar ganlyniadau unrhyw brosiect yn eu ffurflenni cais. Mae’n hanfodol, felly, eich bod yn dechrau mynd ati ar unwaith i fonitro eich gweithgareddau, neu’n parhau i wneud hynny, ac yn casglu tystiolaeth i’w chynnwys mewn ceisiadau at y dyfodol.

