Cyflawni prosiect a gyllidir trwy grant

Eich cais am grant, yn aml iawn, yw’r cam cyntaf i fesur a gwerthuso eich prosiect. Hwn yw’r datganiad mwyaf cynhwysfawr o’r hyn y byddwch yn ei wneud os bydd eich cais yn llwyddo. Bydd angen systemau arnoch, felly, ar gyfer cofnodi gwybodaeth, monitro a gwerthuso eich cynnydd a’ch perfformiad yn union fel ag y mae ar cyllidwr eu hangen.

Gall hyn ddarparu gwybodaeth am eich cynnydd a’ch perfformiad er mwyn:

  • Cymharu yn erbyn cyllidebau, targedau, amserlenni, amcanion a chanlyniadau
  • Gwneud addasiadau os nad ydych yn llwyddo i lynu wrth y cynlluniau
  • Cyhoeddi yn eich adroddiad blynyddol er mwyn eich helpu i adeiladu delwedd gyhoeddus
  • Dangos y defnydd effeithiol a wnewch o gyllid ar gyfer yn eich cais nesaf