Beth sydd ei eisiau ar gyllidwyr
Wrth ymgeisio am arian grant fe welwch yn eithaf buan nad oes dwy gronfa o arian yn union yr un fath. Mae’n bosib na fydd y meini prawf, yr agwedd, neu’r geiriau bachog a allai ddenu sylw un cyllidwr, yn cael yr un effaith ar gyllidwr arall.
Er mwyn targedu darpar gyllidwyr yn effeithiol dylech:
- Ddilyn y meini prawf a’r canllawiau yn glòs
- Adlewyrchu nodau a geiriau bachog y cyllidwyr yn eich cais neu’ch cynnig
- Gwneud yn siwr eich bod yn ateb pob cwestiwn
- Adeiladu perthynas gyda chyllidwyr dros gyfnod o amser – rydych yn fwy tebygol o dderbyn mwy o gyllid gan rywun sy’n adnabod ac yn hoffi eich gwaith
Beth mae cyllidwyr eisiau ei wybod
Bydd darpar gyllidwyr, fel arfer, eisiau gwybod:
- Pwy ydych chi? A oes gennych chi enw da?
- Beth yw’r broblem yr ydych yn ceisio rhoi sylw iddi?
- Beth yw’r ateb gorau?
- Pwy sy’n mynd i elwa – faint ac erbyn pryd?
- Beth fydd y gost?
- Beth ydych chi eisiau ei gyflawni (h.y. y canlyniadau)?
- Sut y mae hyn yn unigryw neu’n wahanol?
- Sut y byddwch chi’n gwario eu harian?
- Ydych chi’n meddu ar y sgiliau a’r gallu i gadw rheolaeth ar eich prosiect a’ch arian?
- Beth wnewch chi pan fydd eich arian yn rhedeg allan?
Meini prawf y cyllidwyr
Bydd cyrff sy’n cyllido neu'n rhoi grantiau, fel arfer, yn meddu ar feini prawf rhagddiffiniedig i’w defnyddio fel sylfaen ar gyfer sgorio a gwerthuso cynigion. Gall y meini prawf fod yn weddol lac, gan ganiatáu i werthuswyr ddefnyddio eu barn broffesiynol yn fwy rhydd. Neu, yn achos grantiau eraill, gall y meini prawf fod yn eithaf caeth ac yn destun camau ffurfiol o gadarnhau cymhwyster, sgorio, gwerthuso a chymeradwyaeth ffurfiol.

